Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin - Mehefin 2013 - Estyn

Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin – Mehefin 2013

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wneud yn siŵr bod disgyblion yn meistroli medrau rhif sylfaenol yn drylwyr mewn gwersi mathemateg a chael strategaethau effeithiol i alw ffeithiau rhif hanfodol i gof yn gyflym ac yn gywir;
  • cytuno ar ddulliau ysgol gyfan o wneud cyfrifiadau syml;
  • rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio medrau rhifedd, yn enwedig mewn medrau rhif a rhesymu rhifiadol, mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
  • gwneud yn siŵr bod gweithgareddau rhifedd yn ymestyn disgyblion yn briodol, gan gynnwys y rhai mwy abl;
  • asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm a defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio gweithgareddau rhifedd gwell;
  • cynllunio gweithgareddau pontio ysgol gynradd/uwchradd i gefnogi cysondeb a dilyniant ym medrau rhifedd disgyblion;
  • rhoi cyfleoedd i gydlynwyr rhifedd ac adrannau mathemateg weithio gydag athrawon eraill i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion; a
  • monitro ac arfarnu effaith strategaethau ar gyfer gwella rhifedd.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • gefnogi ysgolion i helpu staff i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu rhifedd disgyblion trwy eu pynciau; a
  • rhannu arfer orau rhwng ysgolion.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn