Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: adroddiad interim - Tachwedd 2014 - Estyn

Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: adroddiad interim – Tachwedd 2014

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod disgyblion yn meistroli medrau rhif pwysig, fel rhannu, gwaith gyda mesurau metrig, canrannau, cymarebau a chyfrannau, mewn gwersi mathemateg;
  • datblygu medrau rhesymu rhifiadol disgyblion mewn gwersi mathemateg ac mewn pynciau eraill;
  • ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion o bob gallu ddefnyddio’u medrau rhifedd mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
  • cynorthwyo staff i ehangu’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o strategaethau i ddefnyddio rhifedd ar draws y cwricwlwm;
  • gwella asesu ac olrhain medrau rhifedd disgyblion;
  • cryfhau gweithdrefnau ar gyfer arfarnu darpariaeth rhifedd; a
  • gweithio’n agosach gydag ysgolion clwstwr i ddatblygu mwy o gysondeb mewn addysgu ac asesu medrau rhifedd disgyblion.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • gynorthwyo ysgolion i helpu staff wella’u gwybodaeth, medrau a hyder wrth ddatblygu medrau rhifedd disgyblion drwy eu pynciau; a
  • rhannu arfer orau rhwng ysgolion.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried datblygu system genedlaethol ar gyfer olrhain medrau rhifedd disgyblion.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn