Rhifedd ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 19 mlwydd oed – Gorffennaf 2011
Adroddiad thematig
Mewn ysgolion lle mae’r ddarpariaeth ar gyfer rhifedd yn dda, ceir arweinyddiaeth gref. Mae rheolwyr yn mynd ati i ysgogi mentrau i wella rhifedd, ac maent yn chwilio am gyllid neu gymorth ychwanegol i helpu iddynt ymgymryd â’u gwaith. Caiff gweithgareddau eu cydlynu’n dda.Fodd bynnag, prin yw’r ysgolion sy’n cynllunio i wella eu darpariaeth rifedd neu olrhain cynnydd dysgwyr yn ddigon da i nodi ble y gellir gwneud gwelliannau.
Argymhellion
Dylai ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith:
- sicrhau bod rhifedd yn cael ei gynllunio a’i gyflwyno mewn cyd-destunau perthnasol ac ymarferol ar draws y cwricwlwm;
- asesu ac olrhain cynnydd medrau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm;
- hyfforddi staff i ddeall sut i ddatblygu medrau rhifedd dysgwyr;
- monitro ac arfarnu effaith strategaethau i wella rhifedd dysgwyr;
- darparu cymorth ac adnoddau mewn Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a
- chofrestru dysgwyr ar lefel sy’n cynnwys her briodol ar gyfer cymwysterau medrau hanfodol.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.