Rheolwyr busnes ysgolion: canllaw arfer dda – Ebrill 2010

Adroddiad thematig


Mae rheolwyr busnes ysgolion yn rhan werthfawr o dîm rheoli ysgol, ac mae eu rôl yn aml yn ymestyn y tu hwnt i gyfrifoldebau monitro ariannol.Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn cymharu eu gwariant â gwariant ysgolion eraill i nodi arbedion posibl ac nid yw llawer o ysgolion yn bwriadu olynu rheolwyr busnes sy’n agosáu at oedran ymddeol.


Argymhellion

Dylai ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia:

  • annog rheolwyr busnes ysgolion i rannu arfer dda, cefnogi ei gilydd a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio;
  • cefnogi rheolwyr busnes ysgolion i ymgymryd â hyfforddiant priodol ac ennill cymwysterau perthnasol;
  • arfarnu effaith gwaith y rheolwr busnes ysgolion; ac
  • ystyried rhannu rheolwr busnes ysgolion ar draws clwstwr o ysgolion cynradd bach.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried y ffordd orau o alluogi ysgolion i gymharu data ariannol ag ysgolion eraill ledled Cymru; ac
  • adolygu anghenion datblygiad proffesiynol rheolwyr busnes ysgolion.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn