Rheolwr penodedig i fonitro datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd - Estyn

Rheolwr penodedig i fonitro datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd

Arfer effeithiol

Ysgol Glan Gele

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol fabanod yn Abergele ar arfordir Gogledd Cymru yw Ysgol Glan Gele.  Ar hyn o bryd, mae 307 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 63 yn rhan-amser yn y feithrinfa.  Mae gan yr ysgol 11 dosbarth.  Mae tua 34% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 20%.  Mae’r awdurdod lleol yn gofalu am nifer bach iawn o ddisgyblion. 

Mae asesiadau gwaelodlin yn dangos bod cyrhaeddiad adeg mynediad islaw’r cyfartaledd i nifer sylweddol o ddisgyblion.  Mae gan oddeutu 28% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol: mae hyn ychydig uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Ar ôl cyflwyno’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh), penododd yr ysgol uwch arweinydd yn Rheolwr Cynnydd a Medrau.  Roedd dysgwyr yn awyddus i sicrhau bod y flaenoriaeth uchaf yn cael ei rhoi i gynllunio ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd, a’i fod yn systematig, yn gyson ac wedi’i addasu i fodloni gofynion cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.

Byddai angen i’r cynllunio gynnwys disgyblion mewn profiadau yn amgylchedd dan do yr ysgol ac yn yr amgylchedd dysgu yn yr awyr agored, y gwneir defnydd da ohono.  Mae ystafell ddosbarth awyr agored gan Ysgol Glan Gele, sef Ardal yr Ysgol Goedwig, sy’n cynnwys caban, caban celf ac ardal adeiladu tu allan o’r enw ‘Diggerland’.  Yn ogystal, mae’r ysgol yn defnyddio’r traeth lleol fel amgylchedd dysgu unwaith yr wythnos.  Mae hyn yn sicrhau bod medrau llythrennedd a rhifedd yn cael eu hatgyfnerthu mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ar draws y cwricwlwm cyfan.  Y nod oedd plethu’r medrau hyn yn ddi-dor i gynllunio dyddiol a chynllunio tymor canol yr ysgol, i sicrhau effaith uniongyrchol ar safonau medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Fel ysgol, fe wnaeth unigolion gydweithio mewn cyfarfodydd staff a grwpiau blwyddyn i fapio’r medrau llythrennedd a rhifedd yn eu cynlluniau.  Trwy wneud hynny, roeddent yn gallu targedu cynnwys pob thema ar draws y pedwar grŵp blwyddyn i sicrhau cysondeb, parhad a dilyniant.  Fe wnaeth athrawon olrhain y rhain yn systematig i sicrhau bod pob medr yn cael sylw manwl o leiaf dair gwaith y flwyddyn, yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn dod i gysylltiad cyffredinol â nhw yn holl feysydd y cwricwlwm.  Fe wnaeth athrawon hefyd wahaniaethu’r medrau hyn yn briodol yn eu cynlluniau tymor canol fel eu bod yn darparu’n dda ar gyfer y disgyblion mwy abl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.  Hefyd, aethant ati i gofnodi’r medrau yn y cynlluniau tymor byr i sicrhau eu bod yn darparu gweithgareddau priodol i ddisgyblion a oedd yn gweithio ar lefel uwch ac ar lefel is ar gyfer eu grŵp oedran.  Mae athrawon yn cofnodi’r medrau y mae pob disgybl unigol yn eu caffael i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn briodol. 

Dewisodd staff y themâu yn ofalus er mwyn sicrhau bod modd cyflwyno a rhoi’r sylw mwyaf i fedrau’r FfLlRh.  Mae’r themâu hyn yn ennyn diddordeb grwpiau rhyw penodol ac mae athrawon yn addasu gweithgareddau o fewn themâu i sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer y gwahanol rywiau ac y byddant yn diddori ac yn ysbrydoli disgyblion. 

Mae disgyblion yn cyfrannu at y broses gynllunio trwy ‘ddiwrnodau trochi’ cyn cyflwyno maes neu thema newydd.  Bydd disgyblion yn treulio deuddydd yn archwilio ac ymchwilio i’r thema newydd a’r agweddau ar y thema hon yr hoffent eu datblygu’n fanylach.  Mae hyn yn caniatáu i staff blethu medrau llythrennedd a rhifedd i’r thema yn ofalus, o’r cychwyn cyntaf, gan ddefnyddio’r gweithgareddau hynny y mae disgyblion wedi nodi y byddant yn eu diddori ac yn hoelio’u sylw.

Caiff cynllunio ar gyfer y ddarpariaeth awyr agored ei gynnwys hefyd.  Er enghraifft, mae Ysgolion Traeth a Choedwig yn ymgorffori pob agwedd ar y FfLlRh.  Mae staff sy’n gweithio yn y ddarpariaeth awyr agored yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o ddilyniant medrau ac yn gwneud y mwyaf o bob cyfle i atgyfnerthu medrau yn y cwricwlwm ehangach yn yr awyr agored.  Er enghraifft, maent yn cofnodi profiadau, llunio siartiau cyfrif o nifer yr wyau sy’n cael eu dodwy gan ieir yr ysgol, nodi’r tymheredd bob dydd, neu ddidoli deunyddiau ar y traeth.

Er mwyn cynorthwyo staff i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ynghylch strategaethau i ddefnyddio llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm ac i wella arfer unigol, cynhaliodd athrawon a staff cymorth arsylwadau cymheiriaid o fewn ac ar draws grwpiau blwyddyn.  Galluogodd hyn i staff rannu arfer orau yn yr ysgol, gan fod rhai ohonynt yn fwy hyderus nag eraill wrth gyflwyno llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.  Fe wnaeth hyn ganiatáu i staff ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn ffordd anffurfiol, anfygythiol.  Defnyddiodd arweinwyr gyfarfodydd staff yn llwyddiannus i rannu cynllunio, syniadau a strategaethau ar gyfer defnyddio’r FfLlRh ar draws y cwricwlwm.  O ganlyniad, mae gwybodaeth a hyder ymhlith yr holl staff wrth gyflwyno llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm cyfan wedi gwella.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Fel ysgol, mae staff wedi cynllunio gweithgareddau o ansawdd gwell i ategu ac ymestyn medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.  Yn ogystal, maent wedi gallu ymestyn y cyfleoedd i ddisgyblion o bob gallu ddefnyddio’u medrau llythrennedd a rhifedd yn llwyddiannus ar draws y cwricwlwm, ym mhob amgylchedd dysgu.

Bellach, gall disgyblion ddangos yn gyson eu bod yn gallu trosglwyddo’r medrau hyn yn hyderus ar draws y cwricwlwm a’u defnyddio’n llwyddiannus i gofnodi digwyddiadau, gwybodaeth, dadansoddi data, a datrys a thrafod problemau eraill.  O ganlyniad, mae safonau llythrennedd a rhifedd ar draws yr ysgol wedi codi gan fod yr holl athrawon yn amlygu a darparu cyfleoedd priodol i ddisgyblion ddefnyddio’u medrau llythrennedd a rhifedd yn rheolaidd ar draws y cwricwlwm.  Mae gan yr ysgol system gadarnach ar gyfer monitro cynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd erbyn hyn hefyd.  Mae hyn yn caniatáu i staff nodi a thargedu unrhyw feysydd medrau sydd wedi’u tanddatblygu.

At ei gilydd, mae ansawdd medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion Cyfnod Sylfaen yr ysgol wedi gwella’n sylweddol.  Mae safonau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen wedi codi, gyda chyrhaeddiad ymhell dros draean o’r disgyblion ar lefel uwch na’r disgwyl.  Mae safonau ymhlith disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn uwch na chyfartaleddau lleol a chenedlaethol hefyd.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae staff wedi rhannu eu cynllunio gydag ysgolion ac arweinwyr ysgol o bob cwr o ogledd Cymru a thu hwnt.  Mae’r ysgol yn gweithio’n agos ag ysgolion clwstwr i ddatblygu mwy o gysondeb mewn addysgu ac asesu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.  Mae ysgolion lleol a darparwyr hyfforddiant athrawon yn ymweld yn aml ac mae’r ysgol yn cynnal sesiynau rheolaidd i rannu ei gwaith cynllunio ac olrhain llythrennedd a rhifedd. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn