Rheoli ymddygiad
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector
Mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn Heronsbridge yn cael anawsterau yn rheoli eu hymddygiad. Mae’r ysgol yn credu, trwy leihau eu rhwystrau rhag dysgu, er enghraifft trwy wella eu cyfathrebu, y bydd disgyblion yn dysgu rheoli eu hymddygiad, dod yn fwy annibynnol, cyflawni lles gwell a chyflawni llwyddiant cynaliadwy.
Fodd bynnag, fe wnaethom gydnabod bod y dulliau amrywiol o gofnodi, adrodd a dadansoddi deilliannau ymddygiadol yn ei gwneud yn anodd i staff arfarnu llwyddiant ymyriadau gyda disgyblion yn gywir. Ein nod strategol felly oedd cyfuno ein rhaglen lwyddiannus o hyfforddi staff mewn rheoli ymddygiad gyda system gofnodi gyson er mwyn dangos tystiolaeth o’r deilliannau ar gyfer disgyblion.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Er 2006, mae Heronsbridge wedi bod yn defnyddio rhaglen cymorth ymddygiad sydd ar gael yn fasnachol. Mae’r rhaglen yn ategu ein hathroniaeth i ddarparu cymorth cadarnhaol a rhagweithiol i ddisgyblion, gan ddefnyddio dull anuniongyrchol.
Mae’r rhaglen yn darparu arweiniad manwl mewn rheoli ymddygiad, ac mae ein hyfforddiant yn sicrhau bod gan staff ddull cyson o reoli ymddygiad disgyblion ar draws yr ysgol. Mae hyfforddiant yn y fethodoleg hon bellach yn orfodol ar gyfer pob un o’r staff yn Heronsbridge.
Mae tîm cymorth ymddygiad ysgol yn darparu cymorth parhaus i staff a disgyblion. Mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill fel nyrsys, therapyddion, cwnselwr yr ysgol, seicolegydd cynorthwyol ac israddedigion seicoleg Prifysgol Caerdydd (yn ystod eu lleoliad blwyddyn yn yr ysgol).
I wella ein heffeithiolrwydd a’n heffeithlonrwydd wrth gofnodi a dadansoddi gwybodaeth am ymddygiad, mabwysiadodd yr ysgol system wybodaeth i reoli data ar y we i gefnogi ein rhaglen ymddygiad. Gweithiodd staff yn yr ysgol yn agos â’r cwmni masnachol gwreiddiol i ddatblygu a theilwra system i adlewyrchu ein gofynion penodol. Yn 2011, fe wnaethom gyflwyno’r system wybodaeth newydd i reoli data yn lle’r dull blaenorol ar bapur. Erbyn hyn, mae staff yn gwneud cofnodion o’r holl achosion ymddygiad ar-lein. Mae’r system yn galluogi staff i gofnodi, monitro ac olrhain ymddygiad disgyblion mewn modd cyson. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad blaenorol, ymddygiadau a ddangosir a strategaethau lleddfu llwyddiannus.
Mae uwch reolwyr yn yr ysgol yn cael negeseuon e-bost awtomataidd cyn gynted ag y caiff digwyddiadau eu cofnodi, sy’n golygu bod gwybodaeth ar gael ar unwaith. Mae digwyddiadau sy’n cael eu cofnodi ar y system yn cael eu dadansoddi bob wythnos a phob mis er mwyn amlygu patrymau a thueddiadau mewn ymddygiadau. Mae hyn wedi galluogi i ni nodi a chyflwyno hyfforddiant penodol ar gyfer staff i gefnogi anghenion unigol disgyblion. Yn ychwanegol, mae’n galluogi’r ysgol i gyfeirio disgyblion yn effeithiol am ymyriadau a therapïau ychwanegol fel therapi lleferydd ac iaith a therapi galwedigaethol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Ers cyflwyno’r pecyn rheoli ymddygiad hwn, mae nifer y digwyddiadau difrifol wedi lleihau 66% dros gyfnod o dair blynedd. Mae uwch reolwyr bellach yn arfarnu data yn gywir ar effaith ymyriadau penodol ar ddeilliannau disgyblion unigol. Mae’r wybodaeth hon yn galluogi’r ysgol i nodi ac asesu lefelau risg er mwyn creu cynlluniau cymorth personol penodol a chynhwysfawr ar gyfer disgyblion. Caiff yr holl achosion eu monitro a’u trafod ar lefel uwch reolwyr a bydd uwch arweinydd yn rhoi adroddiad ar bob digwyddiad difrifol.
Mae dadansoddi patrymau ymddygiad gan ddefnyddio’r system gwybodaeth reoli yn helpu staff i ennill dealltwriaeth well o natur yr anhawster y gallai disgybl fod yn ei brofi. Adroddwyd gan Estyn bod ymddygiad yn y dosbarth ac yn ystod adegau anstrwythuredig o’r dydd, yn eithriadol o dda.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu arfer dda?
Mae pecyn pwrpasol Heronsbridge, gan gynnwys y system gwybodaeth reoli, wedi cael ei fabwysiadu gan ysgolion arbennig eraill. Yn ychwanegol, datblygwyd fforwm trafod ar draws ysgolion ynghylch rheoli ymddygiad disgyblion.
Mae staff wedi cyflwyno darlithoedd i athrawon ar systemau rheoli ymddygiad fel rhan o’r diploma mewn anawsterau dysgu difrifol/anawsterau dysgu dwys a lluosog mewn anghenion addysgol arbennig ar gyfer Prifysgol Fetropolitan Abertawe.