Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol mewn ysgolion cynradd
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad yn arfarnu effaith arweiniad Llywodraeth Cymru ar ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol’ mewn ysgolion cynradd. Mae’n ystyried pa mor dda y mae ysgolion cynradd, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi rhoi’r arweiniad ar waith a’r effaith y mae wedi ei chael ar reoli absenoldeb athrawon a phenaethiaid.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
-
A1 Hyrwyddo’r ddogfen ‘Rheoli Presenoldeb Gweithlu Ysgolion yn Effeithiol’ yn ehangach
-
A2 Rhoi arweiniad i ysgolion ac awdurdodau lleol ar fonitro, cofnodi ac arfarnu effaith absenoldeb staff o ganlyniad i weithgareddau heblaw salwch, fel hyfforddiant, cynadleddau a chymorth o ysgol i ysgol
-
A3 Darparu arweiniad ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol
-
A4 Sicrhau yr eir i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg wrth adolygu’r strategaeth gweithlu athrawon
Dylai awdurdodau lleol:
-
A5 Sicrhau bod hyfforddiant ar reoli presenoldeb gweithlu ar gael i bob pennaeth a’i fod yn ffurfio rhan o becyn ymsefydlu ar gyfer yr holl benaethiaid newydd a benodir
-
A6 Darparu data meincnodi rheolaidd i ysgolion ar bresenoldeb staff yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru
Dylai ysgolion:
-
A7 Fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd a sicrhau bod pob disgybl yn parhau i wneud cynnydd priodol pan fydd eu hathro dosbarth arferol yn absennol
-
A8 Rhoi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad
-
A9 Sicrhau bod athrawon cyflenwi yn gallu mynd at ddogfennau cynllunio athrawon bob amser