Rheoli arian: Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad yn arfarnu ansawdd a darpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion a’r modd y mae addysgu a dysgu yn y maes hwn wedi datblygu ers adroddiad blaenorol Estyn a gyhoeddwyd yn 2011 (Estyn, 2011). Mae’n ystyried pa mor dda y mae newidiadau a diwygiadau diweddar i orchmynion y cwricwlwm, yn enwedig y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh) a’r rhaglen astudio mathemateg newydd, wedi effeithio ar ansawdd addysg ariannol.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Cynllunio a darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’u medrau ariannol ar draws y cwricwlwm
- A2 Monitro ac arfarnu ansawdd y dysgu a’r addysgu ar gyfer addysg ariannol
- A3 Darparu hyfforddiant priodol i staff er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer addysg ariannol
Dylai Awdurdodau Lleol / Consortia:
- A4 Hwyluso trefniadau effeithiol i ysgolion rannu arfer dda ac adnoddau ar gyfer addysg ariannol
- A5 Adolygu’u rhaglenni hyfforddi ar gyfer rhifedd i sicrhau eu bod yn galluogi athrawon i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o addysg ariannol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A6 Adolygu a hyrwyddo’i deunydd arweiniad ar gyfer cyflwyno addysg ariannol yn effeithiol, i gynnwys cronfa ddata o adnoddau a sefydliadau defnyddiol i ysgolion
- A7 Cefnogi datblygu adnoddau addysg ariannol ddigidol dwyieithog
- A8 Sicrhau bod addysg ariannol wedi’i chynnwys wrth ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad newydd ar gyfer iechyd a lles, yn ogystal â mathemateg a rhifedd