Rhannu arbenigedd â rhieni, gofalwyr ac ysgolion - Estyn

Rhannu arbenigedd â rhieni, gofalwyr ac ysgolion

Arfer effeithiol

Ysgol Plas Brondyffryn


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol arbennig gydaddysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yw Ysgol Plas Brondyffryn ar gyfer disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA) ac anawsterau dysgu cysylltiedig o 3 i 19 oed.  Mae ganddi gyfleuster preswyl 38 wythnos, sy’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Mae mwyafrif y plant a’r bobl ifanc yn fechgyn, o ganlyniad i nifer uwch yr achosion o awtistiaeth mewn bechgyn.  O ganlyniad i natur y disgyblion, mae’r ysgol yn defnyddio dulliau eraill o gyfathrebu fel system gyfathrebu cyfnewid lluniau, Makaton a chymhorthion cyfathrebu.  Mae’r ysgol wedi ei lleoli ar bedwar safle gwahanol ac yn ymdrechu i gynnal ethos ysgol gyfan ar draws pob safle.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae anghenion amrywiol iawn y disgyblion yn galw am edrych yn gyfannol ar y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni eu llawn botensial.  Mae’r ysgol yn dilyn strategaeth weithredol a chynhwysol i ymgysylltu â’r holl randdeiliaid o amgylch y dysgwyr.  Mae’r ymgysylltu hwn yn cynnwys cyflwyno arbenigedd cydweithwyr proffesiynol ac asiantaethau tra’n mynd allan i’r gymuned o rieni a gweithwyr proffesiynol ar yr un pryd i gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant.  Mae’r strategaeth hon yn cynnwys pedair elfen, a ddatblygwyd dros y saith mlynedd ddiwethaf, ac y cyfeirir ati nawr fel  Gweithio Gyda’n Gilydd:

  • Gweithio gyda’n gilydd yn yr ysgol

  • Gweithio gyda theuluoedd

  • Gweithio gydag ysgolion eraill

  • Gweithio gydag asiantaethau eraill

Bydd yr astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar waith Ysgol Plas Brondyffryn gyda theuluoedd ac ysgolion eraill.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Gweithio gyda theuluoedd

Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i gynnal cysylltiadau cyfathrebu rhagorol â rhieni a gofalwyr.  Mae hyn yn bwysig iawn gan fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw yn eithaf pell o’r ysgol, ac mae llawer ohonynt yn preswylio yn ei darpariaeth breswyl.  Mae dulliau cyfathrebu’n cynnwys dyddiaduron dyddiol, galwadau ffôn, nosweithiau rhieni ac adolygiadau blynyddol.  Yn ychwanegol i hyn, mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant ar gyfer rhieni ym mhob agwedd ar y materion y gallai rhieni disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig eu hwynebu.  Mae’r ysgol yn cynnal boreau coffi, wedi eu staffio gan athrawon, staff cymorth ymddygiad a staff therapi lleferydd ac iaith.  Mae’r ysgol hefyd yn darparu siaradwyr arbenigol ar bynciau y mae rhieni a gofalwyr yn gofyn amdanynt.

Gweithio gydag ysgolion eraill

Nod yr ysgol yn y rhaglen Gweithio gydag Ysgolion yw rhannu arbenigedd wrth weithio gyda disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig ac felly codi lefel yr arbenigedd ynglŷn â chynorthwyo disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig ym mhob ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnig dwy lefel o gymorth allymestyn, gan ddefnyddio athrawon a chynorthwywyr addysgu a staff UDA profiadol.  Mae clinig galw i mewn wythnosol a gynhelir yn yr ysgol am ddim i’r holl weithwyr addysgu proffesiynol yn y sir.  Mae’r ysgol wedi datblygu llyfrgell eang o lenyddiaeth, DVDau ac offer synhwyraidd, sy’n gallu cael eu benthyca gan unrhyw ysgol yn y sir.  Mae’r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol ei staff ei hun a staff ysgolion eraill trwy annog staff Ysgol Plas Brondyffryn i ymweld â darparwyr addysg arbenigol eraill a thrwy groesawu gweithwyr proffesiynol gwadd o ysgolion eraill er mwyn gallu rhannu arfer dda.  Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r prifysgolion rhanbarthol i ddarparu lleoliadau ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion ym maes addysg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anhwylder y sbectrwm awtistig yn benodol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dywed rhieni a gofalwyr eu bod yn teimlo’n fwy abl i gynorthwyo eu plant yn effeithiol ac maent yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyflawni’r heriau sy’n eu hwynebu.  Maent yn gweld y cynnydd a wna eu plant pan fyddant yn cymhwyso’r hyn y maent wedi ei ddysgu, ac mae’r llwyddiant hwn yn creu teimlad cadarnhaol ynglŷn â’u medrau a’u cynnydd eu hunain.  Gellir gweld tystiolaeth o hyn trwy lwybrau adborth amrywiol, gan gynnwys holiaduron i rieni, adborth mewn boreau coffi ac arfarniadau hyfforddiant.

Trwy weithio gydag ysgolion eraill, mae’r tîm allymestyn a’r arbenigedd y maent yn ei rannu wedi galluogi staff i ddatblygu a mireinio’r modd y maent yn cynorthwyo disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig yn yr amgylchedd ysgol prif ffrwd.  Caiff yr holl ymweliadau eu harfarnu gan yr ysgolion cleient ac mae’r rhain yn eithriadol o gadarnhaol.  Mae’r gwasanaeth allymestyn wedi bod â rhan bwysig mewn cadw disgyblion yn yr ysgol prif ffrwd ac o ran helpu ysgolion i greu amgylchedd cadarnhaol, cefnogol ac adeiladol y gall disgyblion lwyddo ynddo.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Datblygwyd cyrsiau ar gyfer staff i ddechrau, ond mae’r ysgol bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi i wahanol grwpiau o gleientiaid, gan gynnwys rhieni a gweithwyr proffesiynol.