Rhaglen ysgol gyfan i godi safonau darllen​ - Estyn

Rhaglen ysgol gyfan i godi safonau darllen​

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Aberaeron


Gwybodaeth am yr Ysgol:

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol gyfun ddwyieithog 11-19 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Sir Ceredigion. Mae 581 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 27% o’r disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (dros dair blynedd) mewn ysgolion uwchradd, sef 16.1%. 

Mae tua 30.5% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, 50.1% ddim yn siarad Cymraeg gartref a 19.4% ddim yn gallu siarad Cymraeg. Mae bron pob disgybl yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Mae’r uwch dim arwain yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol ac un uwch athro. 

Mae gan yr ysgol ganolfannau dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion yn cynnwys: 

  • Canolfan y Môr – Canolfan arbenigol sy’n darparu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion lleferydd a chyfathrebu dwys ynghyd a disgyblion sydd ag anghenion awtistiaeth, synhwyraidd a meddygol. 
  • Canolfan Croeso – Canolfan sgiliau bywyd sy’n rhoi darpariaeth unigol i ddisgyblion ynghyd a’u cynnal (yn ddibynol ar oed a gallu) trwy ddarpariaethau prif ffrwd. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol:

Gweledigaeth yr ysgol yw ‘sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i wynebu heriau’r 21ain Ganrif a’n bod yn eu cefnogi i ddatblygu eu potensial yn academaidd, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol’. Mae arweinwyr ac athrawon drwy brosesau arfarnu ysgol gyfan wedi mynd ati i ddatblygu medrau darllen disgyblion. Yn benodol, y ffocws yw datblygu darllen ar gyfer dealltwriaeth. I fynd i’r afael gyda hyn, ynghyd ag ymyraethau ar lefel adrannol, datblygwyd rhaglen ysgol gyfan i godi safonau darllen.   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Datblygwyd y strategaeth yn seiliedig ar waith ymchwil ac yna trwy gyd-gynllunio a chyd-greu rhwng y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), yr uwch athro Dysgu ac Addysgu a phennaeth yr adrannau Gymraeg a Saesneg.   .

Mae’r cynllun darllen yn seiliedig ar egwyddorion ‘Darllen ar y cyd’.  Y bwriad yw: 

  • hybu perthnasoedd cadarn rhwng athro a disgybl ac o ddisgybl i ddisgybl. 
  • hybu dysgu ar y cyd gan bod disgyblion yn dysgu oddi wrth ei gilydd   
  • adeiladu hyder disgyblion trwy ymweld â thestun mwy nag unwaith. 
  • modelu darllen o ansawdd trwy fodelu gan yr athro. 
  • datblygu sgiliau darllen a deall amrywiol. 

Er mwyn gallu rhedeg y sesiynau, ail-drefnwyd grwpiau cofrestru a chynlluniwyd yn fanwl i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gallu rhedeg i bob disgybl ym mlynyddoedd 7 i 9 ar yr un pryd. Mewn ysgol ddwyieithog sydd â chyfradd uchel o ddisgyblion ag ADY, bu rhaid addasu amserlenni a chynllunio yn fanwl. 

Rhoddwyd hyfforddiant gan arweinwyr y cynllun i’r holl staff dysgu a chefnogi dysgu. Bu’r elfen o hyfforddi pawb ar y cyd yn nodwedd bwysig o ddatblygu’r cynllun fel strategaeth ysgol gyfan.  Esboniwyd i staff sut i arwain y gweithgareddau a sut i fodelu’r darllen yn effeithiol. Gan bod hyn yn flaenoriaeth a luniwyd yn seiliedig ar farn staff, ymrwymodd y rhan fwyaf o’r staff i’r cynllun yn dda iawn.   

Mae 2 sesiwn pob wythnos. Yn ystod y sesiwn gyntaf, mae trafodaeth gychwynnol o’r testun – ‘beth ydym yn gallu gweld am y darn yn syth?’ Yna, mae cyfnod o ddarllen tawel, annibynnol. Wedi hyn, mae’r athro yn modelu darllen gan roi sylw llawn i fynegiant a thonyddiaeth gan ddefnyddio ‘pwyntiwr’ i gysylltu’r geiriau gyda’u llais. I gloi’r sesiwn, mae cyfle i ddisgyblion ymarfer darllen y darn ar goedd i’r dosbarth. 

Yn ystod yr ail sesiwn, mae’r athro yn modelu darllen effeithiol eto – gan ddefnyddio’r un darn. Mae disgwyl i ddisgyblion ddarllen ar goedd hefyd. Mae cyfle i wirio dealltwriaeth disgyblion o ystyr geiriau a’r darn yn ei gyfanrwydd. Yna, mae disgyblion yn cymhwyso’r wybodaeth, sydd erbyn hyn yn gyfarwydd iddynt, drwy ateb cwestiynau ar ffurf – ‘Darllen Caredig’ (Crynhoi, Awgrymu, Rhagfynegi, Esbonio, Dilyniant, I gof, Geirfa).  

Tra bod y mwyafrif o ddisgyblion yn cwblhau’r gweithgareddau yn eu dosbarthiadau cofrestru, mae disgyblion sydd â medrau darllen llai datblygedig yn cael eu cefnogi gan staff yr adran ADY. Mae’r strwythur i’r cynllun yr union yr un fath ond mae disgyblion yn cael cefnogaeth mewn grwpiau pwrpasol. Mae’r CADY’n dewis a/neu greu testunau darllen bachog a diddorol, sydd wedi cael eu gwahaniaethu’n sylweddol – hyd at 5 gwahanol lefel er mwyn sicrhau’r her briodol i bawb

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith hwn yn Ysgol Gyfun Aberaeron wedi arwain at godi proffil pwysigrwydd darllen ymysg disgyblion a staff yr ysgol. Mae wedi arwain at gynnig cyfleoedd darllen ehangach mewn gwersi ar draws yr ystod o bynciau. Wedi casglu barn staff, mae’r mwyafrif yn cydnabod bod medrau darllen disgyblion yn gwella. 

Nodwyd yn ystod arolygiad Estyn bod y ‘rhan fwyaf o ddisgyblion yn barod i ddarllen ar goedd a llawer yn hyderus wrth wneud hynny’ (Estyn, Mawrth 2023) a nodwyd mai ‘enghraifft neilltuol o gefnogaeth yw’r sesiynau darllen grŵp dwyieithog ddwywaith yr wythnos lle mae nifer o ddisgyblion sydd â medrau darllen gwan yn gwneud cynnydd sylweddol dros amser yn eu medrau darllen a phrosesu.’ Mae arweinwyr yn ffocysu ar wella a chryfhau medrau darllen disgyblion â hybu eu diddordeb a’u mwynhad o ddarllen. Mae’r ysgol yn meithrin diwylliant o ddarllen sy’n cynnig profiadau buddiol i ddisgyblion ar draws yr ysgol. Mae’r cyfleoedd fel y sesiynau darllen o dan arweiniad, yn hybu mwynhad ac yn annog disgyblion i fod yn ddarllenwyr annibynnol 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron wedi rhannu’r arferion yma gydag ysgolion eraill o fewn yr awdurdod lleol yn ystod cyfarfodydd rhwng ysgolion.   


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn