Rhaglen i helpu disgyblon yn ystod eu 50 diwrnod cyntaf mewn ysgol uwchradd - Estyn

Rhaglen i helpu disgyblon yn ystod eu 50 diwrnod cyntaf mewn ysgol uwchradd

Arfer effeithiol

Howell’s School

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd annibynnol i ferched rhwng tair a 18 oed a bechgyn rhwng 16 a 18 oed yw Ysgol Howell, Llandaf.  Mae’r chweched dosbarth yn cael ei adnabod fel Coleg Howell ac mae wedi bod yn goleg cydaddysgol er Medi 2005.

Sefydlwyd Ysgol Howell ym 1860 gan Gwmni Drapers.  Ym 1980, ymunodd Ysgol Howell ag Ymddiriedolaeth Ysgolion Dydd y Merched, sef sefydliad elusennol sy’n darparu addysg annibynnol mewn ysgolion a nifer o academïau ledled y Deyrnas Unedig.  Ymddiriedolaeth Ysgolion Dydd y Merched yw perchennog yr ysgol.  Caiff y rhan fwyaf o’r swyddogaethau llywodraethu eu cyflawni’n ganolog gan Gyngor a phrif weithredwr Ymddiriedolaeth Ysgolion Dydd y Merched.  Mae bwrdd o lywodraethwyr lleol gan yr ysgol hefyd, sy’n darparu cymorth a chyngor ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae sicrhau lefelau lles cyson uchel wrth graidd dull Ysgol Howell o helpu disgyblion i ymgartrefu a datblygu’n dda yn gymdeithasol ac yn academaidd ar bob pwynt dysgu newydd.  Mae’r lefel uchel o dderbyniadau merched a bechgyn i’r coleg chweched dosbarth yn golygu bod 50% o fyfyrwyr Blwyddyn 12 yn newydd i’r ysgol.  Er mwyn sicrhau bod y symudiad i ysgol newydd yn brofiad cadarnhaol lle’r oedd myfyrwyr Blwyddyn 12 yn teimlo’n gyflym bod yno groeso iddynt, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn hapus a hyderus ynglŷn â’u dysgu, cyflwynodd yr ysgol rhaglen les – ‘50 Cyntaf / First 50’ – sy’n darparu cyfres o brofiadau, gweithgareddau, digwyddiadau a chyflwyniadau i fyfyrwyr dros y 50 diwrnod cyntaf ym Mlwyddyn 12.  Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob myfyriwr Blwyddyn 12 yn integreiddio’n llwyddiannus, yn cyfranogi’n weithgar ac yn cyflawni’n dda erbyn hanner tymor yr hydref.  Cymaint oedd llwyddiant y dull gweithredu fel bod Ysgol Howell bellach wedi cyflwyno’r rhaglen fesul cam ar draws yr ysgol, o’r dosbarth meithrin i bob un o’r pwyntiau trosglwyddo allweddol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Mae gweithgareddau 50 Cyntaf / First 50 Blwyddyn 12 yn cael eu grwpio mewn chwe maes darpariaeth:

  • academaidd
  • cymdeithasol
  • allgyrsiol
  • perthyn
  • offer dysgu
  • ymgysylltiad rhieni.

Ym mhob un o’r meysydd hyn, mae trefniadau ymarferol penodol yn cynorthwyo myfyrwyr i ymgartrefu.  Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel gweithdy medrau trefnu; picnic poeth; gêm ddaearyddol i ddod i adnabod cynllun yr ysgol; Ffair y Glas sy’n hyrwyddo clybiau a chymdeithasau; amserau tiwtor estynedig wedi’u strwythuro; rhaglen medrau astudio; a noson groeso i fyfyrwyr a rhieni.

Mae hefyd yn cynnwys sesiynau mentora gyda thiwtoriaid personol, adroddiad cyntaf i asesu cynnydd academaidd ac adolygiad hunanarfarnu i roi’r cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar ba mor dda yr oeddent wedi addasu.  Mae’r tîm bugeiliol yn defnyddio’r adborth o’r dulliau gweithredu hyn i nodi ble mae angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr ac i ymateb yn gyflym, er enghraifft drwy ddefnyddio system gyfeillio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.

Gan adeiladu ar lwyddiant y fenter 50 Cyntaf / First 50, a oedd o fudd i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol wrth iddynt gychwyn ar eu hastudiaethau ôl-16 yn y coleg, aeth yr ysgol ati i ehangu’r strategaeth.

Cyflwynwyd 30 Cyntaf / First 30 yng nghyfnod allweddol 4 i fodloni anghenion y newid sylweddol yn y gofynion ar ddisgyblion yn y cyfnod allweddol hwn.  Yn ystod tri deg diwrnod cyntaf tymor yr hydref, mae’r ysgol yn canolbwyntio ar agweddau fel defnyddio technolegau’n effeithiol i gefnogi dysgu a hyrwyddo clybiau a chymdeithasau newydd.  Mae hyn yn helpu rhoi agwedd cychwyn newydd i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac yn eu cynorthwyo i ymateb i heriau astudiaethau TGAU, a datblygu rhwydweithiau cymorth newydd a chyfeillgarwch mewn grwpiau dewisiadau.

Mae’r rhaglen 20 Cyntaf / First 20 ar gyfer disgyblion sy’n symud i mewn i Flwyddyn 7 o ysgol iau Howell neu’n trosglwyddo o ysgolion cynradd bwydo eraill.  Mae’r rhaglen hon yn cynnwys yr un categorïau â ’50 Cyntaf / First 50’ ond mae’r cynnwys yn briodol i oedran a chyfnod.  Er enghraifft, mae gweithgareddau yn cynnwys gweithdy medrau meddwl ‘Buzz Your Brain’; taith fondio dros nos; a ffair clybiau. 

Cyflwynwyd 10 Cyntaf / First 10 a 15 Cyntaf / First 15 i’r feithrinfa ac i ddisgyblion Blwyddyn 3, yn y drefn honno.  Mae gweithgareddau ar gyfer y feithrinfa yn cynnwys tasgau syml fel disgyblion yn dysgu enw eu hathro, bwyta byrbryd iach gyda ffrind a dweud ‘hwyl fawr’ yn hapus wrth riant.  Mae merched Blwyddyn 3 yn cael eu hannog i ymuno â chlwb, defnyddio map meddwl a ‘chymryd risg’.  Mae’r ystod o weithgareddau ysgogol a chyraeddadwy wedi’i chynllunio i sicrhau bod pob disgybl yn ymgartrefu’n gyflym ac yn teimlo’n llwyddiannus.

Cyflwynwyd Rhaglenni Croesawu hefyd i ddisgyblion sy’n cyrraedd ar unrhyw bwynt yn ystod y flwyddyn, am ba reswm bynnag, a neilltuir cyfaill i’r disgyblion hyn hefyd am gyfnod estynedig.  Mae rhaglen groesawu benodol yr ysgol ar gyfer staff newydd wedi cael derbyniad da hefyd, ac mae’n darparu strwythur cymorth pendant, yn gynnwys cyfeillion penodedig yn ogystal â mentora a hyfforddiant perthnasol.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ffordd arloesol y mae’r rhaglen wedi’i chyflwyno wedi codi proffil lles ymhlith disgyblion presennol a disgyblion newydd a’u teuluoedd.  Mae wedi gwneud pawb yn yr ysgol yn ymwybodol o’r flaenoriaeth y mae’r ysgol yn ei rhoi i bontio llwyddiannus ar bob pwynt allweddol fel bod disgyblion yn gallu ffynnu’n academaidd.  Mae adborth gan fyfyrwyr Blwyddyn 12 ar ddiwedd y pum deg diwrnod cyntaf yn y coleg wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol.  Dywed rhai myfyrwyr y gallant yn wir fod wedi cael anhawster yn addasu i fywyd yn y coleg heb y pwyslais cryf ar yr agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar y rhaglen.  Defnyddiwyd yr adborth hwn i wella’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu, ac erbyn hyn mae myfyrwyr Blwyddyn 12 yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol wrth gynllunio gweithgareddau ar gyfer y garfan newydd ym Mlwyddyn 12. 

Yn yr arolygiad o Ysgol Howell, nodwyd y canlynol gan arolygwyr:

  • mae rhaglenni sefydlu’r ysgol wedi’u cynllunio’n arbennig o dda ac yn arloesol
  • mae disgyblion yn ddysgwyr hynod ymroddedig a brwdfrydig sy’n aeddfed ac yn hunanhyderus wrth ymgysylltu’n hyderus a chynhyrchiol mewn gwersi a meysydd eraill o fywyd yr ysgol
  • mae disgyblion yn cyflawni safonau uchel eithriadol ym mhob cyfnod o’u dysgu
  • yng nghyfnod allweddol 4 ac ôl-16, mae perfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus yn neilltuol o gymharu â pherfformiad ysgolion eraill yn y sector a gynhelir a’r sector annibynnol

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae arfer dda wedi’i rhannu trwy gyflwyno’r rhaglen les i ysgolion eraill yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Ysgolion Dydd y Merched mewn cyfarfodydd allweddol.