Rhaglen cyfoethogi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n gyrru datblygiad y cwricwlwm

Arfer effeithiol

Ysgol Glan-Y-Mor School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Glan-y-Môr yn ysgol gymuned 11-16 oed ym Mhorth Tywyn gyda 480 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae tua 30% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Cafodd yr ysgol ei ffederaleiddio yn ffurfiol gydag Ysgol Bryngwyn yn 2014, gan ddod yn ysgol arloesi beilot ar gyfer ffederasiynau uwchradd yng Nghymru.  Mae Ysgol Glan-y-Môr yn gweithio mewn partneriaeth gref gyda’i hysgolion cynradd bwydo a’r darparwr addysg bellach lleol, trwy fentrau 14-19 oed.  Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar gyfer dysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Cyflwynodd Glan-y-Môr raglen gyfoethogi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ym Medi 2014, yn wreiddiol fel gweithgaredd allgyrsiol i hybu pontio.  Ers hynny, mae wedi datblygu’n gyflym yn strategaeth allweddol o ran gyrru datblygiad y cwricwlwm er mwyn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd i Gymru.  Nod y rhaglen oedd ymgysylltu â disgyblion a chreu cyffro yn eu plith ynghylch y llwybrau gyrfaol a gynigir ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  Mae’r rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion dysgu gweithredol, gan godi dyheadau a chynyddu cyfleoedd.  Mae’r ysgol yn hyderus bod y system gyfoethogi STEM hon eisoes yn helpu ei disgyblion i ddatblygu yn unol ag adroddiad Donaldson a’i 4 egwyddor allweddol.  Mae’r strategaethau a’r gwersi a ddysgwyd o weithredu’r rhaglen STEM lwyddiannus hon bellach yn cael eu cymhwyso i’r prif gwricwlwm.

Mae dull amlweddog i’r rhaglen, yn yr ystyr ei bod yn rhoi cyfleoedd i bob dysgwr, ac yn cynnwys agweddau allweddol sy’n canolbwyntio ar grwpiau o ddysgwyr, er enghraifft y rhai sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, dysgwyr mwy abl a thalentog, a merched.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r dull a ddisgrifir uchod yn cynnwys:

Diwrnodau her.  Mae’r rhain yn ddiwrnodau pan gaiff y cwricwlwm ei roi o’r neilltu a bydd grwpiau blwyddyn gyfan yn cymryd rhan mewn gweithgareddau her STEM.  Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar brosiectau “byw” neu gystadlaethau STEM, er enghraift “D&T Alu Challenge”.  Mae disgyblion yn gweithio mewn timau o dri, yn ymateb i friff cystadleuol i gynhyrchu dyluniad, sydd nid yn unig yn addas at ei ddiben ond hefyd yn datblygu eu gwybodaeth am alwminiwm a’u dealltwriaeth ohono.  Mae’r rhain, a heriau tebyg, yn gofyn i ddisgyblion fabwysiadu amrywiaeth o fedrau, fel datrys problemau, cyfathrebu ac ymchwil, ynghyd â defnyddio’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol o gysyniadau a themâu a gawsant trwy ddulliau dysgu mwy traddodiadol mewn pynciau eraill.

Addysgu ar draws grwpiau blwyddyn.  Yn ystod tymor yr hydref 2016, cymerodd yr ysgol ran ym mhrosiect peilot Dyfarniad Crest gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a Llywodraeth Cymru.  Rhoddodd hyn gyfle i roi cynnig ar weithio mewn grwpiau blynyddoedd cymysg, gan roi’r hyblygrwydd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â datblygu eu hyder trwy weithio gyda disgyblion eraill o wahanol oedrannau a’u harwain.

Gweithio gyda sefydliadau allanol.  A hithau’n ysgol lai, mae ysgol Glan-y-Môr wedi elwa’n helaeth o ddod ag arbenigedd i’r ysgol o ddiwydiannau lleol, sefydliadau STEM a llysgenhadon STEM.  Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i roi ystod ehangach o lawer o brofiadau a chyfleoedd dysgu i’w disgyblion.  Mae’r arbenigedd hwn wedi’i ddefnyddio mewn sawl ffordd ac mewn amrywiaeth o brosiectau STEM.

Cydweithio â phartneriaid cynradd ac AB.  Mae gweithio ar draws cyfnodau gyda phartneriaid cynradd ac AB ar brosiectau STEM wedi galluogi’r ysgol i sefydlu cysylltiadau partneriaeth cryf.  Mae’r prosiectau hyn wedi cynorthwyo dysgwyr ifanc mewn sawl ffordd ac wedi cael effaith fuddiol ar ddeilliannau disgyblion.  Yng nghyfnod allweddol 2, bu deilliannau gwell mewn mathemateg a gwyddoniaeth, mae datblygiad disgyblion a deilliannau cyrhaeddiad wedi gwella ar draws pynciau STEM, a bu newid sylweddol yn hyder a hunan-barch disgyblion.  Yn ogystal, mae pontio gan ddisgyblion pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol ym Mlwyddyn 7, ac o Flwyddyn 11 i’r coleg, wedi’i wneud yn fwy hwylus a llwyddiannus trwy’r dull traws cyfnod hwn.

Bwrw ymlaen gyda SciTech – Mae’r ysgol nawr yn awyddus i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd drwy’r rhaglen gyfoethogi i’r prif gwricwlwm, trwy gyflwyno SciTech ar gyfer Medi 2017.  Esblygodd y syniad hwn wrth i’r ysgol gymryd rhan yng Ngweithgor y Maes Profiad Dysgu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.  Y sail resymegol ar gyfer y dull hwn yw bod dysgu’n cael ei wneud yn fwy ystyrlon pan fydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn “Pam mae arnom angen gwybod hyn?”  Y gobaith yw y bydd disgyblion yn datblygu medrau a fydd yn caniatáu iddynt drosglwyddo gwybodaeth a medrau yn naturiol rhwng pynciau, yn enwedig ar lefel uwchradd.  Bwriedir i’r dull gyfoethogi gwybodaeth am y pwnc a chyflwyno mwy o her i ddysgwyr ar yr un pryd.

The Sky’s Her Limit’ – Mae Glan-y-Môr yn bwriadu datblygu’r rhaglen gyfoethogi ymhellach trwy gynnwys diwrnod her STEM CA3 cyffrous i ferched gyda Chwarae Teg, sef ‘The Sky’s Her Limit’, sy’n canolbwyntio ar gynyddu nifer y merched sy’n dilyn llwybrau gyrfaol STEM.  Bydd yr ysgol yn parhau i gysylltu â sefydliadau addysgol eraill ar bob lefel i rannu profiadau a helpu eraill i ymgysylltu â’r dysgu gweithredol, cydweithredol, cyd-destunol y mae rhaglen gyfoethogi STEM wedi’i roi i’r disgyblion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros gyfnod y prosiect, o ganlyniad i fwy o ymgysylltu a chyfranogi, mae’r ysgol wedi gweld gwelliannau amlwg mewn safonau mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.  Fodd bynnag, nid yw’r buddion i ddisgyblion wedi’u cyfyngu i ddatblygiad medrau a gwybodaeth STEM; maent wedi helpu i wella medrau ehangach cyfathrebu, siarad cyhoeddus, dysgu gweithgar neu annibynnol, gwaith tîm a datblygiad arweinyddiaeth, yn ogystal â chodi eu hyder, hunan-barch a dyheadau.  Mae disgyblion wedi cael enw da yn lleol ac yn genedlaethol fel cyfathrebwyr a siaradwyr cyhoeddus hyderus a rhugl, gan gyfarfod â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ddiweddar yn ogystal â chael eu cynnwys mewn ffilm fer gan BBC Newsround ddiwedd y llynedd.

Mae’r holl fentrau a phrofiadau hyn wedi codi dyheadau ymhlith disgyblion, sydd bellach yn gweld cyfleoedd yn hytrach na rhwystrau i’w huchelgeisiau ac maent yn gyfranwyr allweddol at y ffaith bod gwaith yr ysgol yn cael ei ystyried yn waith sy’n arwain y sector.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn sicrhau bod pob datblygiad yn cael ei rannu ar draws y ffederasiwn gyda Bryngwyn – ei hysgol bartner.  Fel rhan o’r rhwydwaith arloesi, mae ffederasiwn Bryngwyn/Glan-y-Môr hefyd yn cael cyfle i weithio gyda nifer o ysgolion ar ddatblygu’r cwricwlwm.  Mae cyfrif Twitter gweithgar iawn – @glanymorStem – yn nodi’r holl waith STEM ac mae ar gael i bawb fynd ato.  Mae nifer o fideos ar lwyfannau a rennir yn dangos sut mae disgyblion wedi ymgysylltu â phrofiadau STEM niferus ac elwa ohonynt.  Mae’r rhain ar wefan yr ysgol yn www.glanymorschool.co.uk

Mewn digwyddiad ‘Big Bang’ diweddar, rhannodd 11 ysgol weithgareddau STEM ar y safle.  Mae profiadau’r ysgol a’i gweledigaeth ynghylch y ffordd y mae rhaglen STEM yn hwylusydd ar gyfer y cwricwlwm i Gymru yn ei theulu o ysgolion yn cael eu cyfleu trwy gyfarfodydd â chydlynwyr STEM o ysgolion, sefydliadau a chonsortia eraill.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn