Rhaglen anogaeth gefnogol yn cynyddu lefelau hunan-barch disgyblion

Arfer effeithiol

Gladstone Primary School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Gladstone yn creu rhaglen anogaeth ‘gofleidiol’ ar gyfer yr holl ddisgyblion, yn enwedig i gynorthwyo disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Mae’r arweinydd anogaeth yn dra chymwys ac mae wedi cwblhau hyfforddiant gyda’r Rhwydwaith Grŵp Anogaeth.  Mae hefyd yn hyfforddi fel cwnselydd ar hyn o bryd, sy’n dangos ymrwymiad yr ysgol i barhau â’r pwyslais o wrando ar y disgyblion.

Ystafell ddynodedig, a elwir ‘Y Cwtsh’, yw’r ganolfan ar gyfer darpariaeth anogaeth yr ysgol.  Disgrifir hon gan yr ysgol fel ‘cartref oddi cartref’ gyda dodrefn meddal, goleuadau tawel, arogl afal sbeis, addurniadau a chasgliad o debotau.  Mae’r staff wedi ceisio creu ‘Tŷ Mamgu’ i’r disgyblion.  Man diogel yw hwn.  Maent wedi bod yn datblygu’r ystafell hon er 2012 i gydnabod disgyblion sy’n cael anhawster dysgu oherwydd eu lles corfforol neu emosiynol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ddarpariaeth anogaeth yn dechrau am 8.45am pan fydd disgyblion ‘brecwast’ a ddewiswyd yn ofalus yn cyrraedd.  Dechreuant bob bore gyda gwahanol weithgaredd wedi’i amserlennu, gan gynnwys lliwio a storïau.  Yna, mae’r disgyblion yn golchi’u dwylo, yn gosod y bwrdd brecwast ac yn paratoi brecwast sylfaenol gyda thost, jam a the neu ddŵr.  Dewisir y disgyblion hyn yn ôl presenoldeb, unrhyw bryderon sydd gan yr athrawon neu gais gan rieni am gymorth os yw disgyblion yn amharod i ddod i mewn i’r ysgol.

Tra bod y disgyblion yn bwyta rhwng 9am a 9.30am, ceir system ‘mewngofnodi’ yn Cwtsh lle gall pob disgybl ofyn am gael ‘picio i mewn am sgwrs’.  Mae hwn yn gyfle i wrando ar ddisgyblion, datrys anghydfodau, a darparu cyfnod tawel a chysurlon os oes angen, neu i gysylltu â rhieni os yw hynny’n angenrheidiol.  Gallai rhai disgyblion, er enghraifft, fod yn pryderu ynghylch aelod o’r teulu sy’n sâl, gallai disgyblion eraill fod wedi ffraeo gyda ffrind.  Caiff eu llais ei glywed, neu croesewir eu tawelwch.  Mae croeso i bob disgybl.

Mae’r Cwtsh yn newid ei ddefnydd amser chwarae, a daw yn fan i fyfyrio i ddisgyblion sydd wedi brifo plentyn arall y diwrnod blaenorol neu’r bore hwnnw.  Mae’r ysgol yn gwrthod derbyn unrhyw fath o gam-drin corfforol, a mynnir bod unrhyw blentyn sy’n brifo unigolyn arall yn yr ysgol yn llenwi ffurflen gymodi, sy’n atgoffa disgyblion o’r gwerthoedd y maent yn eu coleddu, a pham nad oedd eu gweithredoedd yn fuddiol, yn garedig nac yn gyfeillgar.

Mae’r ysgol yn cynnal cylchoedd rhaglen cymorth myfyrwyr dyddiol.  Mae’r rhain ar gyfer disgyblion sydd wedi’u dewis gan athrawon, sy’n ystyried eu hamgylchiadau presennol yn ofalus.  Mae cylch rhaglen cymorth myfyrwyr yn para am 12 wythnos ac mae’n cynnwys cyfres o gylchoedd siarad sy’n ymdrin â phynciau o ddicter i gyd-dynnu ag oedolion.  Mae gan ddisgyblion fan diogel, cyfrinachol lle gallant fyfyrio, trafod ac adolygu eu perthnasoedd a’u hymddygiadau.

Amser cinio, mae dau oedolyn yn cael cinio gyda grŵp bach o ddisgyblion agored i niwed a allai fod yn cael anhawster yn ymdopi mewn ardal fwyta fawr.  Mae staff yn gosod y bwrdd ac yn bwyta fel y byddai teulu’n ei wneud gartref, gan annog moesau wrth y bwrdd, arferion bwyta da ac awyrgylch bwyta naturiol, ymlaciedig.

Yn y prynhawniau, daw’r Cwtsh yn uned anogaeth i ddisgyblion sydd wedi’u dewis yn ofalus gan ddefnyddio adnodd ar gyfer asesu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol plant a phobl ifanc.  Mae strwythur cadarn gan yr ysgol ar gyfer cynllunio lles emosiynol disgyblion.  Mae hyn yn cynnwys hwyluso teithiau lleol yn wythnosol, a chyfleoedd i ganu caneuon, coginio, adrodd storïau, paentio, creu a chwarae.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r safonau ymddygiad wedi gwella ar draws yr ysgol, gyda’r ysgol yn adrodd am gynnydd o 4% hyd yma eleni yn nifer y disgyblion sy’n teimlo bod disgyblion eraill yn ymddwyn yn dda ar draws yr ysgol.  Bu cynnydd o 7% yn nifer y disgyblion sy’n teimlo bod yr ysgol yn delio’n dda ag unrhyw faterion yn ymwneud â bwlio.

Mae dadansoddiad arall yn nodi bod yr ysgol gryn dipyn yn well na’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion yn ei hawdurdod lleol.  Yn benodol, mae lefelau hunanbarch disgyblion yn uchel iawn ac mae lefelau dicter yn isel iawn.  Mae’r holl ddisgyblion yn llawn cymhelliant ac yn cymhwyso’u hunain yn dda yn ystod gwersi.

Mae’r ysgol yn nodi hefyd ei bod wedi gweld gostyngiad o 25% yn nifer y llythyrau sy’n cael eu hanfon gartref i rieni o ganlyniad i’w strategaeth ymddygiad ysgol gyfan.  Mae’r gyfradd gwaharddiadau wedi gostwng ac mae nifer y ‘nodau X’ ar gyfer trais corfforol wedi gostwng hefyd.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae ysgolion eraill o fewn yr awdurdod lleol wedi ymweld i edrych ar y ddarpariaeth ac mae’r arfer yn cael ei rhannu hefyd yng nghyfarfodydd fforwm anogaeth yr awdurdod lleol.