Prosiect Ymyrraeth Drama ac Iechyd - Estyn

Prosiect Ymyrraeth Drama ac Iechyd

Arfer effeithiol

Western Learning Federation Ty Gwyn Special School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Tŷ Gwyn yn rhan o’r Western Learning Federation sy’n gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Woodlands. Mae Ysgol Tŷ Gwyn yn ysgol arbennig yn awdurdod lleol Caerdydd. Mae 222 o ddisgyblion 3-19 oed ar y gofrestr. Nodir bod gan bob un o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae anghenion dysgu ychwanegol y disgyblion yn amrywiol; mae tua 36% o ddisgyblion yn awtistig ac mae gan 35% arall anawsterau corfforol a meddygol. Mae gan weddill y disgyblion amrywiaeth o anawsterau dysgu, gan gynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, ac anawsterau dysgu cymedrol a chyffredinol. Yn ychwanegol, mae gan ychydig o ddisgyblion namau ar y synhwyrau.

Mae 29 o ddosbarthiadau yn yr ysgolion, ac mae un ohonynt yn ddosbarth meithrin. Mae 45.8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae 32% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%.

Cyd-destun a chefndir

Y nod y tu ôl i’n Prosiect Celfyddydau Mynegiannol oedd defnyddio’r celfyddydau, yn enwedig drama, i helpu lleihau gorbryder ynghylch apwyntiadau meddygol, digwyddiadau bywyd go iawn a datblygu medrau bywyd ar gyfer y disgyblion yn Ysgol Tŷ Gwyn.

Mae gan lawer o’n disgyblion anghenion dysgu ac anghenion iechyd cymhleth, ac maent yn aml yn mynychu amrywiaeth o apwyntiadau yn gysylltiedig ag iechyd. Gall hyn fod yn gyfnod hynod bryderus i ddisgyblion a rhieni, fel ei gilydd, fel y gall apwyntiadau fel ymweld â’r siop trin gwallt, y deintydd a’r optegydd, hefyd. Yn ychwanegol, mae gweithgareddau bob dydd fel gwisgo a mynd i siopa yn gallu bod yn her i rai o’n disgyblion. Mae cynorthwyo disgyblion i ddatblygu medrau bywyd yn flaenoriaeth allweddol ar draws yr ysgol.

Rydym yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio’r gwrthrychau y gallent ddod ar eu traws yn ystod yr ymweliadau hyn. Rydym yn defnyddio drama a gweithgareddau creadigol eraill i’w paratoi ar gyfer apwyntiadau yn y dyfodol.

Disgrifiad

Datblygwyd ein dull ar y cyd â seicolegwyr, nyrsys ysgol a chydweithwyr o’r tîm dysgu ac anableddau. Trafodom yr heriau y mae ein disgyblion a’n teuluoedd yn eu hwynebu wrth fynychu apwyntiadau, a sut gallem ni wneud eu profiadau yn llai   trawmatig. 

Creom gronfa o weithgareddau ac adnoddau a ddefnyddiwyd i ddadsensiteiddio disgyblion ar gyfer ymweliadau â’r meddyg, y deintydd, y siop trin gwallt a thripiau siopa, er enghraifft. Roedd y gweithgareddau a grëwyd yn cynnwys sgriptiau drama synhwyraidd, syniadau ar gyfer chwarae rôl, gweithgareddau celf, sesiynau synhwyreg, cylchedau synhwyraidd, storïau cymdeithasol a gweithgareddau cerddoriaeth. Hefyd, helpodd tîm nyrsio’r ysgol greu fideos i ddangos rhywun yn cael ei bwyso a’i fesur, cymryd tymheredd a monitro pwysedd gwaed.

Mae’r gweithgareddau ar gael i bob dosbarth eu defnyddio mewn ffordd sy’n gweddu orau i’w dosbarthiadau.

Roedd rhai o’r adnoddau a archebom yn cynnwys doliau wedi’u creu yn arbennig a oedd yn adlewyrchu rhai o gyflyrau meddygol ein disgyblion, er enghraifft doliau â gastrostomïau trwynol, bagiau stoma, a chitiau diabetes. Defnyddiom gopïau o rai o’r offer a ddefnyddir gan y nyrsys ysgol hefyd, fel siartiau taldra a chlorian, dillad doli, clipwyr triniwr gwallt, bwyd ac adnoddau siopa a llawer mwy! Roedd y nyrsys yn gallu darparu offer wedi dyddio, nad oeddent yn cael eu defnyddio, fel chwistrellau, tiwbiau bwydo a blychau meddyginiaeth gwag i ddisgyblion eu harchwilio yn ystod sesiynau, ac mae staff a rhieni yn garedig wedi rhoi amrywiaeth o ddillad gwisg ffansi, hefyd.

Effaith

Mae’r ystafell ddrama wedi darparu gofod i ddisgyblion gymryd rhan mewn drama synhwyraidd, sesiynau chwarae rôl ac ystod eang o adnoddau yn seiliedig ar yr hyn y gallent ddod ar ei draws yn ystod apwyntiadau go iawn. Gallant wneud hyn mewn amgylchedd diogel a rhagweladwy, ac rydym yn gobeithio, gydag amser, y bydd newid cadarnhaol yn lefel y gorbryder ar gyfer disgyblion sy’n mynychu apwyntiadau.

Rydym wedi cryfhau’r berthynas â’n cydweithwyr ym maes iechyd. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith fuddiol ar y disgyblion yn Ysgol Tŷ Gwyn.

Yn sgil cyflwyno gweithdai hyfforddiant, rhoddwyd cyfle i staff drafod sut gallent ddefnyddio ein dull, ein gweithgareddau a’n hadnoddau ar gyfer disgyblion o fewn eu dosbarth, a sut gallen nhw elwa, hefyd.

Mae’r prosiect yn esblygu o hyd, ac mae llawer o gyfle ar gyfer twf a pharhad syniadau newydd. Rydym yn annog ac yn edrych ymlaen at y twf parhaus a geir o fewn y prosiect ac at yr effaith gadarnhaol barhaus y gall ei chael ar ddisgyblion, eu teuluoedd ac Ysgol Tŷ Gwyn.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn