Profiadau dysgu o ansawdd uchel

Arfer effeithiol

St Mary’s Catholic Primary School

Two children playing in a sandbox with various colorful toys.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yn ysgol ofalgar sy’n rhoi’r gymuned wrth wraidd ei gwaith. Mae tua hanner y disgyblion yn dechrau yn yr ysgol â medrau llythrennedd a rhifedd islaw disgwyliadau yn gysylltiedig ag oedran. Fodd bynnag, o fewn cyfnod byr iawn, o ganlyniad i ystod eang o brofiadau dysgu cyfoethog, mae’r disgyblion ieuengaf yn gwneud cynnydd cryf. Mae bron pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a’r rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY) iddynt, yn gwneud cynnydd cryf wrth iddynt symud trwy’r ysgol. Erbyn iddynt adael, mae bron pob un o’r disgyblion yn cyflawni’n dda ar draws y rhan fwyaf o feysydd y cwricwlwm.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ym mis Medi 2021, penderfynodd yr ysgol wneud newidiadau allweddol i’w darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar, gan uno’r dosbarth meithrin a’r dosbarth derbyn yn un lleoliad blynyddoedd cynnar o’r enw’r ‘Atelier’. Mae’r ysgol yn monitro, adolygu a myfyrio’n barhaus ar ei harfer yn y blynyddoedd cynnar i sicrhau bod effaith gadarnhaol ar les a dysgu plant. Mae’r broses hon yn galluogi’r ysgol i fod yn arloesol yn y ffordd y gwnaeth sefydlu a datblygu lleoliad Atelier y Blynyddoedd Cynnar yn yr ysgol. 

Mae hyn wedi cynnwys: 

  • Proses o ymchwilio manwl am arfer ragorol yn y blynyddoedd cynnar o leoliadau o gwmpas y byd. Roedd hyn yn cynnwys darllen ac ymchwil eang ar y thema, yn cynnwys edrych ar ‘Ymagwedd Chwilfrydedd’ ac ‘Ymagwedd Reggio Emilia’, wedi’i gydbwysp â Chwricwlwm i Gymru.  
  • Cyfnod o fyfyrio ac ymgynghori a arweiniodd at y strwythur sydd bellach ar waith. 
  • Buddsoddiad yn yr amgylchedd ffisegol ac mewn hyfforddi tîm o staff er mwyn gallu rhoi’r ymagwedd newydd ar waith yn effeithiol. 
  • Myfyrio ar ystod eang yr ymchwil i gael ymagwedd sy’n galluogi pob disgybl i weithredu o fewn ei barth datblygiad agosaf (ZPD), ni waeth beth yw ei oedran. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Lleoliad sy’n cynnwys cyfuniad o’r dosbarth meithrin a’r dosbarth derbyn yw’r Atelier sy’n sicrhau bod dysgu wedi’i anelu at gyfnod datblygu pob plentyn, nid ei oedran. Mae’n darparu profiadau dysgu cyfoethog ar gyfer dysgwyr sy’n datblygu chwilfrydedd ac annibyniaeth. Mae ganddo ardaloedd dysgu helaeth dan do ac yn yr awyr agored y gall pob un o’r plant gael mynediad atynt i ddatblygu eu chwilfrydedd, eu hannibyniaeth, eu medrau datrys problemau a’u gallu i gydweithio. Mae cynllunio profiadau dysgu cyfoethog yr athrawon ar gyfer ein disgyblion yn gwella’u gallu i fentro, magu hyder a bod yn uchelgeisiol am eu dysgu yn sylweddol. 

Mae nifer o orsafoedd yn yr amgylchedd dan do sy’n galluogi disgyblion i gael profiadau dysgu cyfoethog. Er enghraifft: 

  • Yr Orsaf Gwirio Lles – Mae’r disgyblion yn ‘cofrestru’ pan maent yn cyrraedd yr ysgol yn y bore, a rhoddir cyfle iddynt fynegi sut maent yn teimlo. Gall oedolion gyfathrebu â disgyblion sydd efallai’n ddigalon.  
  • Mae’r Orsaf Toes Chwarae yn rhoi gwahoddiadau a chyfleoedd i ysbrydoli’r meddwl a bwriadau ystyriol. Caiff disgyblion eu hannog i wneud eu toes chwarae eu hunain a defnyddio adnoddau o ardaloedd eraill yn y lleoliad, gan roi dewis i blant a datblygu eu hannibyniaeth. 
  • Mae’r Orsaf Darnau Rhydd yn ardal adnoddau penagored sy’n deffro pob un o’r synhwyrau. Mae hyn yn cynnwys eitemau synthetig neu naturiol i alluogi plant i’w defnyddio mewn llawer o ffyrdd a’u cyfuno â darnau rhydd eraill trwy’r dychymyg a chreadigrwydd.  
  • Mae’r Gornel Gartref yn darparu amgylchedd cartrefol gan alluogi plant i brofi eitemau bywyd go iawn sydd fel arfer i’w gweld yn y cartref, er enghraifft set de Tsieina go iawn. Mae hyn yn hyrwyddo datblygiad cymdeithasol, emosiynol a lles y plant. Caiff plant eu hannog i chwarae rôl o’u profiadau uniongyrchol eu hunain gan yr oedolyn sy’n galluogi.  
Collage o dair delwedd yn arddangos gwahanol leoliadau dan do: plentyn yn chwarae gyda set de ar soffa, ystafell fyw fodern gyda soffa hufen a bwrdd coffi pren, cornel glyd gyda silff lyfrau a rygiau lliwgar, ac ystafell ddosbarth gyda gwaith celf yn cael ei arddangos ar y wal a dodrefn plant.
  • Mae’r Orsaf Greadigol yn darparu cyfleoedd i hyrwyddo chwilfrydedd, ymchwilio a darganfod, gan ganiatáu rhyddid i’r plant fynegi eu hunain. 
  • Mae’r Ardal Ddiwylliannol / Cynefin yn dathlu gwahaniaethau diwylliannol disgyblion ac yn helpu disgyblion i gydnabod eu bod yn perthyn i gymuned ysgol gyfoethog ac amrywiol. 
Arddangos arteffactau diwylliannol a memorabilia gan gynnwys dillad traddodiadol, ffotograffau, llyfrau, ac eitemau addurnol, wedi'u trefnu mewn ffenestr setup gyda chefndir o nodiadau a baneri lliwgar.
  • Mae’r Ardal Dywod i Ymchwilio yn ardal fawr synhwyraidd, lefel isel â phwll tywod lle mae plant yn tynnu eu hesgidiau a’u sanau yn annibynnol ac yn archwilio ac ymchwilio  adnoddau yn gysylltiedig â’r parth. Maent yn cael amser estynedig a chyfleoedd penagored i greu a datblygu. 
Plentyn yn chwarae gyda gogr mewn blwch tywod mewn ystafell ddosbarth, gyda phlentyn arall gerllaw.

Mae goleuadau lefel isel ac awyrgylch tawel yn Atelier y Blynyddoedd Cynnar. Mae hyn yn cynorthwyo’r plant i ymdawelu i ddysgu yn gyflym, canolbwyntio’n dda ac osgoi pethau sy’n tynnu eu sylw wrth iddynt gwblhau eu tasgau. Mae plant yn archwilio’r amgylchedd dysgu yn hyderus ac yn symud rhwng y gwahanol ardaloedd yn bwrpasol, gwneud dewisiadau a datblygu annibyniaeth.  

Mae’r ymarferwyr yn sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu diwallu trwy eu harsylwi yn yr amgylchedd, a ‘sylwi, dadansoddi ac ymateb’ i’w meddwl a’u dysgu. 

Mae’r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion iau ddysgu gyda disgyblion hŷn. Mae staff yn uchafu’r defnydd o ardaloedd dysgu yn yr awyr agored yr ysgol a’r fro i gynnig profiadau dysgu dilys i ddisgyblion. Mae defnydd medrus athrawon o’r awyr agored yn cyfoethogi dysgu. 

Er enghraifft: 

  • Mae’r wenynfa yn galluogi disgyblion i ddysgu am gadw gwenyn, a’i brofi. Mae plant yn cynaeafu mêl i’w werthu i gymuned yr ysgol, gan ddatblygu medrau entrepreneuraidd. 
Collage o bedair delwedd yn dangos gwenynwyr mewn siwtiau amddiffynnol yn arolygu cychod gwenyn ac yn trin fframiau gyda gwenyn mewn gwenyn mewn gwenyn yn y wenynfa awyr agored.
  • Mae ardal y rhandir yn galluogi disgyblion i brofi plannu a thyfu llysiau, ac mae plant yn defnyddio’r llysiau i goginio prydau iach a’u gwerthu i gymuned yr ysgol. 
Mae dau blentyn yn plannu mewn gardd o fewn tŷ gwydr. Mae un plentyn yn dal can dyfrio bach ac yn dyfrio hadau sydd wedi'u plannu'n ffres, tra bod y llall yn arsylwi'n agos. Mae yna offer gardd a chynwysyddion pridd o'u cwmpas.
  • Mae’r ardal gadwraeth yn gryfder arbennig oherwydd y ffordd y mae disgyblion yn dysgu symud o gwmpas ardal y coetir yn ddiogel gan ddefnyddio’u medrau balansio a dringo tra’n datblygu medrau echddygol manwl a bras. Mae pwll yn ardal y coetir sy’n rhoi cyfle i blant gael profiad o archwilio’r pwll ac ymchwilio i wahanol blanhigion a chynefinoedd, gan ymestyn dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae dysgu’r ysgol goedwig yn digwydd yn yr ardal gadwraeth, gan roi profiadau ysbrydoledig ac uniongyrchol i ddysgwyr yn yr amgylchedd naturiol. Mae’n cynorthwyo plant i fagu hyder wrth iddynt ddatrys problemau a dysgu rheoli risgiau.  
Collage o dair delwedd yn dangos plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Mae'r chwith uchaf yn dangos plentyn mewn siaced las yn cael cymorth gyda garddio gan blentyn arall yn gwisgo fest. Mae'r dde uchaf yn darlunio plant mewn siwtiau glaw porffor yn chwarae ar drawst pren. Mae'r delweddau gwaelod yn cynnwys plant yn garddio ac yn tywallt dŵr o jwg, pob un yn gwisgo dillad awyr agored achlysurol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae plant yr ysgol wedi gwneud cynnydd yn gyflym trwy’r Atelier ym mhob maes dysgu, gan osod y sylfeini ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae hyn wedi cael effaith ddwys ar les plant, ac mae hyn yn amlwg o’r ffordd y mae’r plant yn y lleoliad yn symud o gwmpas mewn modd pwrpasol. Mae’r cyfnod pontio o’r dosbarth meithrin i’r dosbarth derbyn yn bwyllog ac yn esmwyth ar gyfer y plant.   

Mae’r ysgol wedi bod yn arloesol yn y ffordd y mae wedi sefydlu a datblygu Atelier Blynyddoedd Cynnar yr ysgol. O ganlyniad, 

  • Mae darpariaeth ragorol ar waith.   
  • Ceir lefel uchel o arbenigedd staff. Mae staff yn oedolion sy’n galluogi, sy’n gallu amgyffred pryd i helpu a chefnogi dysgu a datblygiad y disgyblion.  
  • Gall yr Atelier dargedu darpariaeth yn effeithiol ar gam datblygu pob plentyn unigol. 
  • Caiff plant gyfleoedd i gynllunio’u dysgu, ac mae ganddynt berchnogaeth o’u dysgu.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol yn gweithredu polisi drws agored i ymwelwyr weld yr Atelier ac mae nifer o ysgolion wedi ymweld i weld sut mae wedi cael ei roi ar waith.