Prentisiaid Iau yng Ngholeg Pen-y-bont - Estyn

Prentisiaid Iau yng Ngholeg Pen-y-bont

Arfer effeithiol

Bridgend College


Gwybodaeth am y coleg

Mae Coleg Pen-y-bont yn goleg addysg bellach sydd â chyfanswm o ryw 7,000 o ddysgwyr wedi cofrestru. 

Mae’r coleg yn cynnig cyfleoedd dilyniant i’r lefel nesaf mewn llawer o gyrsiau. Mae ganddo ryw 1,864 o ddysgwyr amser llawn, a 652 o ddysgwyr rhan-amser, yn ogystal â 545 o ddysgwyr sy’n mynychu gyda’r nos neu ar adegau eraill. Mae’r coleg yn cyflogi tua 800 o staff ac yn gweithredu ar draws pedwar campws, gyda dau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pen-coed a Maesteg. Mae hefyd yn gweithredu cyfleuster preswyl ar gyfer dysgwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu difrifol, sef Weston House, sydd wedi’i leoli ar dir ei gampws ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
 

Ar draws y coleg, nodwyd bod 6.4% o ddysgwyr amser llawn yn meddu ar fedrau Cymraeg rhugl. Daw tua hanner dysgwyr y coleg o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n ymestyn 20km yn fras o’r gorllewin i’r dwyrain, yn cynnwys cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. Amcangyfrifir mai cyfanswm poblogaeth y sir yw tua 135,000. Mae’r coleg wedi’i leoli’n ganolog rhwng Abertawe a Chaerdydd. Mae’r coleg yn gwasanaethu rhanbarth sydd â llecynnau o amddifadedd cymdeithasol uchel gyda chyfraddau anweithgarwch economaidd uwchlaw cyfartaledd Cymru. 

Mae tua 148,000 o bobl yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ôl data sydd ar gael, tyfodd poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr 8% rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011. O’r boblogaeth bresennol, mae tua 26,000 (18%) o dan 16 oed, a thua 30,000 (20%) yn 65 oed ac yn hŷn.

Ym mis Medi 2021, y gyfradd cyflogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd 72.9%, sydd ychydig yn is na ffigur Cymru, sef 73.1%. Yn 2021, yr enillion wythnosol cyfartalog gros (canolrif) ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd £608. Hon oedd y gyfradd uchaf ymhlith y 22 awdurdod lleol. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 yn dangos bod 40% o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 

Mae bron holl drigolion Pen-y-bont ar Ogwr o gefndir ethnig gwyn. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2021 yn dangos mai canran y bobl sy’n dair oed ac yn hŷn sy’n siarad Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw 17%, sef cynnydd o 3 phwynt canran mewn 10 mlynedd. 

Mae tua 19% o oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i fyny i lefel 2, sydd uwchlaw cyfartaledd Cymru. Mae cyfran yr oedolion sy’n gymwys i lefel 3 (20%) ac i lefelau 4 i 6 (31%) islaw cyfartaleddau Cymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r rhaglen Prentisiaeth Iau yn bartneriaeth rhwng y coleg, yr awdurdod lleol ac ysgolion lleol. Dechreuodd fel rhan o fenter Atebion Creadigol ôl-16 Llywodraeth Cymru. 

Yn dilyn proses bontio drylwyr dan arweiniad tîm partneriaeth y coleg, mae dysgwyr llwyddiannus yn gadael amgylchedd eu hysgol ac yn ymuno â chymuned y coleg ar gyfer Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11. Mae’r cymorth cofleidiol a gaiff pob dysgwr gan hyfforddwyr dysgu arbenigol a thîm staff sydd ag arbenigedd mewn ymgysylltu â phobl ifanc a diogelu yn allweddol i lwyddiant y rhaglen. 

Mae gan y coleg le ar gyfer uchafswm o 90 o ddysgwyr ar y rhaglen hon. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae Prentisiaid Iau yn bobl ifanc sy’n ei chael yn anodd aros yn amgylchedd yr ysgol ond yn dangos dawn mewn dysgu galwedigaethol. Mae’r bobl ifanc hyn yn gallu cyflawni’n dda mewn amgylchedd sy’n gallu caniatáu iddynt ffynnu a dysgu. Mae dysgwyr yn mynychu’r coleg am 5 niwrnod yr wythnos ac yn astudio cwricwlwm arloesol sy’n cynnwys cyrsiau craidd TGAU a chymhwyster galwedigaethol naill ai mewn adeiladu, gwallt a harddwch, neu chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus. 

Yn dilyn cyfarfod gyda hyfforddwyr dysgu a staff yn eu hystafell sylfaen yn y bore, mae dysgwyr yn mynychu eu dosbarthiadau. Yma, rhoddir cyfle iddynt ddatblygu medrau galwedigaethol mewn gweithdai sy’n cynnig darpariaeth lawn o ran adnoddau. Mae profiad yn gysylltiedig â gwaith yn allweddol i gymell dysgwyr i aros ar y rhaglen. Mae’r coleg yn defnyddio dysgu yn seiliedig ar brosiect, gan ddatblygu medrau entrepreneuraidd fel un o elfennau craidd y rhaglen. Mae gweithgareddau’n cynnwys creu cynhyrchion i’w gwerthu mewn marchnadoedd Nadolig, creu cynhyrchion cynaliadwy fel blychau adar a chynnal diwrnodau pampro ar gyfer staff a dysgwyr, gyda phob un o’r dysgwyr yn cael profiad gwaith ym Mlwyddyn 11.  

Mae gweithgareddau cyfoethogi sy’n datblygu’r medrau mwy meddal sydd eu hangen ar ddysgwyr ac yn aml heb eu datblygu’n ddigonol, yn sylfaen i’r rhaglen. O ganlyniad, mae dysgwyr wedi cwblhau cymwysterau hyfforddi chwaraeon, mynychu cyrsiau Fitness First gyda’r fyddin ynghyd ag amrywiaeth o wibdeithiau, ymweliadau a gweithgareddau gweithredu yn y gymuned, fel glanhau traethau a darparu gwaith celf ar gyfer ardaloedd sydd angen eu harddu. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn i ddysgwyr ac yn eu helpu i ddatblygu balchder yn eu gwaith, y gymuned y maent yn rhan ohoni ac yn helpu unigolion i ddatblygu dyheadau a nodau clir. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Yn y pum mlynedd ers rhoi’r rhaglen ar waith, mae cyfraddau cwblhau’r cymwysterau galwedigaethol yn llwyddiannus yn rhagori ar 95% bob blwyddyn. Mae canlyniadau TGAU yn cyd-fynd â graddau rhagweledig neu’n rhagori arnynt. Mewn ychydig o achosion, mae dysgwyr yn cyflymu eu hastudiaethau trwy ymuno â dosbarthiadau ailsefyll yn y brif ffrwd yn y sector ôl-16, ac wedi cyflawni graddau A. 

Mae data ar gyrchfannau yn dangos gwerth y rhaglen, gyda thros 80% o ddysgwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cymwysterau ôl-16 yn y coleg, mewn astudio pellach, prentisiaethau neu gyflogaeth. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Fel rhan o rwydwaith o sefydliadau sy’n hwyluso rhaglenni Prentisiaeth Iau, mae Coleg Pen-y-bont yn rhannu llwyddiannau ac enghreifftiau o brosesau a mentrau sy’n gweithio.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn