Prentisiaethau – adborth cynnar ar gyflwyno o dan y contractau newydd
O fis Awst 2021, contractiodd Llywodraeth Cymru 10 o ddarparwyr hyfforddiant arweiniol i gyflwyno prentisiaethau ledled Cymru. Mae’r darparwyr arweiniol hyn yn gweithio gyda llawer o is-gontractwyr a phartneriaid i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth.
Caiff prentisiaid eu cyflogi ac maent yn gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2, lefel 3 a lefelau prentisiaeth uwch (lefel 4 ac yn uwch).
Mae prentisiaid yn dechrau eu hyfforddiant ar lefelau gwahanol yn dibynnu ar y swydd, eu profiad blaenorol ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â datblygu eu medrau yn gysylltiedig â swydd yn y gweithle, mae prentisiaid yn gweithio tuag at ennill cyfres o gymwysterau cydnabyddedig.
Mae prentisiaethau’n agored i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys y rhai ag anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu. Nid oes terfyn oedran uchaf. Gan fod prentisiaid yn cael eu cyflogi gan y sefydliad y maent yn gweithio ynddo, rhaid iddynt wneud cais pan gaiff swyddi gwag eu hysbysebu fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy’n hysbysebu’r brentisiaeth yn datgan y cymwysterau, y medrau a’r profiad sy’n ofynnol ganddynt.