Podlediad Sgwrs: Tuag at Gymru Gwrth-hiliol - Estyn

Podlediad Sgwrs: Tuag at Gymru Gwrth-hiliol

Adroddiad Blynyddol

Graffeg ddigidol ar gyfer podlediad "Cwricwlwm i Gymru". Mae’r cefndir yn liw teal gyda phatrwm tonfedd sain gwyn yn y canol. Mae’r teitl "Gwrth-hiliaeth" wedi’i arddangos mewn testun gwyn trwm, gyda logo'r podledliad Sgwrs oddi tano. O dan y graffeg mae 4 person yn eistedd o amgylch bwrdd gyda meicroffonau o'u blaenau yn nghanol stiwdio recordio.

Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio sut mae darparwyr addysg ledled Cymru yn gweithio tuag at ddyfodol gwrth-hiliol.

Mae’r bennod yn cynnwys cipolwg ymarferol gan arbenigwyr ar sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn meithrin diwylliant gwrth-hiliol a chyngor i addysgwyr ac arweinwyr ysgolion ar weithredu’n ystyrlon.

Mae’r panel yn cynnwys Jassa Scott (Cyfarwyddwr Strategol, Estyn), Tony Bate (AEF, Estyn) Emyr George (Prif Weithredwr, Adnodd), Rhodri Evans (Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Gwyr), Steffan Elis, (Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gynradd Sant Baruc, Y Barri).