Podlediad Sgwrs: Cwricwlwm i Gymru
Adroddiad Blynyddol

Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio esblygiad y Cwricwlwm i Gymru a sut mae ysgolion yn siapio profiadau dysgu arloesol ac effeithiol.
Mae’r bennod hon yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ysgolion sy’n gweithredu cwricwlwm deinamig a deniadol a chyngor i addysgwyr ar gynllunio cwricwlwm llwyddiannus.
Mae’r panel yn cynnwys Cath Evans (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn) Tony Bate (AEF, Estyn) Hannah Rowley (Cylch Meithrin Nant Dyrys) Elin Wakeham (Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr) a Gwenno Davies (Pennaeth, Ysgol y Creuddyn).