Plethu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ddi-dor i bob gwers
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Oherwydd i’r ysgol gael ei hagor am y tro cyntaf yn 2012, roedd gan y staff yr hyblygrwydd i wneud penderfyniadau pellgyrhaeddol am y fath o ysgol roeddent am ei sefydlu. Mae ystyriaethau o ran dysgu ac addysgu wedi bod yn ganolog i’r holl benderfyniadau. Penderfynodd y staff ganolbwyntio ar brynu technoleg symudol yn hytrach na gwario’n drwm ar gyfrifiaduron mewn ystafell ddosbarth er mwyn hyrwyddo dysgu ac addysgu o’r safon uchaf. Canlyniad hyn oedd penderfynu ar ddarparu llechi cyfrifiadurol ar gyfer pob disgybl ym Mro Edern.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Gweledigaeth Bro Edern oedd plethu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu ymhob gwers yn ddi-ffwdan, a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf fel arf ychwanegol ar gyfer disgyblion ac athrawon fel ei gilydd. Ers y dyddiau cynnar, mae’r defnydd o dechnoleg wedi cael ei fabwysiadu ar draws y pynciau, ac mae dyfodiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi cadarnhau’r feddylfryd hon.
Hyfforddiant Staff
Mae hyder a hyfedredd digidol staff yn allweddol i sicrhau fod y digidol yn cael effaith gadarnhaol ar y dysgu ac addysgu. Y nod yw ceisio sicrhau fod staff yn hyddysg yn y datblygiadau digidol diweddaraf, ac mae hyfforddiant cyson wedi cael ei ddarparu i arfogi athrawon yr ysgol. Fel ysgol newydd sy’n tyfu’n sylweddol bob mis Medi, mae nifer o staff newydd yn ymuno bob blwyddyn. Yn 2017-2018, cafodd yr holl staff newydd fentor digidol personol, a oedd hefyd yn aelod o staff, yn ogystal ag ‘Arweinydd Digidol’ personol o blith y disgyblion. Mae disgyblion yn ymgeisio’n flynyddol am rôl fel ‘Arweinydd Digidol’, ac mae’r criw llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfarfodydd i drafod materion digidol, yn mentora staff ac yn darparu hyfforddiant i staff newydd. Mae hyn yn eu galluogi i ddysgu gan y disgyblion beth yw’r profiadau dysgu digidol ar draws y cwricwlwm ym Mro Edern. Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2017-2018, cynhaliwyd noson hyfforddi ar gyfer yr holl staff, gyda dewis o 16 o sesiynau ar garwsel. Darparwyd y sesiynau gan aelodau o staff a disgyblion yr ysgol ar nifer o dechnegau dysgu ac addysgu digidol a chyflwynwyd meddalwedd neu apiau defnyddiol newydd. Gyda’r rhyddid i ddewis eu sesiynau, galluogodd hyn i’r staff gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain a chael noson o fireinio’u medrau yn ôl eu hanghenion unigol a phynciol.
Ar foreau dydd Iau am 8am, mae’r ysgol yn cynnal sesiwn ‘Arfer Dda a Pain au Chocolat’. Mae’r cyflwyniadau 20 munud gwirfoddol hyn yn boblogaidd iawn ac yn fodd i staff gael hyfforddiant wythnosol ar un syniad digidol neu un agwedd ymarferol o arfer dda ar lawr y dosbarth. Mae’r ‘pains au chocolat’ blasus o bopty lleol yn abwyd effeithiol. Rhoddir holl gyflwyniadau hyfforddi’r staff ar wefan Dysgu ac Addysgu mewnol yr ysgol, er mwyn i staff fedru cyfeirio atynt drachefn. Mae’r wefan bellach yn storfa ddefnyddiol o adnoddau hyfforddiant digidol i staff presennol ac i unrhyw staff newydd fydd yn ymuno â’r ysgol.
Yn ogystal, ceir ffocws digidol i Weithgorau Gwella Ysgol bob blwyddyn. Mae’r holl athrawon yn aelod o un o weithgorau’r ysgol. Boed fel gweithgor ‘Gwersi Croes o Gyswllt’ (term yr ysgol ar gyfer Flipped Learning), neu weithgor ‘Ymateb i Dargedau’, ceir mewnbwn digidol cyson. Mae’r Gweithgor Ymateb i Dargedau wedi dyfeisio system ysgol gyfan, ble mae disgyblion ym mhob adran yn sganio cod QR ar ddiwedd tasgau er mwyn cwblhau ymarferion pellach wrth ymateb i dargedau. Mae’r adrannau oll wedi creu banc o adnoddau pwrpasol ar gyfer hyn ac mae hyn yn galluogi disgyblion i weithio’n annibynnol a gwneud y cam nesaf yn eu dealltwriaeth o’u pynciau. Dechreuwyd ar y gwaith cynllunio ym mlynyddoedd cyntaf yr ysgol, a chynlluniwyd gweithgareddau ar draws y cwricwlwm a fyddai’n datblygu medrau digidol addas i ddisgyblion yn yr unfed ganrif ar hugain. Gyda dyfodiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, mapiwyd y ddarpariaeth bresennol i benawdau’r Fframwaith newydd a chynlluniodd yr adrannau weithgareddau ychwanegol a fyddai’n cyfoethogi dealltwriaeth disgyblion o’u pwnc, tra’n parhau i wella’u medrau digidol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae effaith dysgu digidol i’w gweld ym mhob gwers ar draws yr ysgol. Mae’r ffaith fod technoleg hygyrch gan bob disgybl yn eu bag yn golygu fod ganddynt arf pwerus i gyfoethogi’u dysgu. Mae adrannau’n darparu cyrsiau iTunes U ar gyfer eu dosbarthiadau, sy’n golygu y gallant gyrchu unrhyw adnoddau’n syth ar yr iPad, boed yn y dosbarth, neu o’r cartref. Mae’r clwb gwaith cartref nosweithiol tan 5 yn fodd i ddisgyblion aros yn yr ysgol i gwblhau tasgau o bob math, ond gallant hefyd gael mynediad i rwydwaith diwifr yr ysgol a chymorth gan un o’r anogwyr dysgu.
Ar lawr y dosbarth, mae sganio cod QR er mwyn gweld fideo mewn gwers addysg gorfforol yn digwydd yn hollol naturiol. Mae ffilmio arbrofion gwyddonol, tynnu lluniau ar gyfer celf, cyfansoddi a recordio caneuon mewn gwersi cerdd a recordio sgyrsiau mewn gwersi Almaeneg a Ffrangeg yn golygu fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd amrywiol ar hyd yr ysgol. Yn enwedig, mae’r gallu i recordio a ffilmio ar draws y cwricwlwm er mwyn gwella medrau llafaredd disgyblion yn golygu fod amrywiaeth o dasgau newydd yn bosibl wrth i ddisgyblion gyflwyno neu adolygu’u gwaith.
Ar y cychwyn cyntaf, edrychodd yr ysgol ar y model SAMR (‘Substitution, Augmentation, Modification a Redefinition’) o fabwysiadu’r defnydd o dechnoleg ym Mro Edern. Dyma fodel effeithiol ar gyfer mabwysiadu gwaith digidol o fewn byd addysg. Ym Mro Edern, mae’r R, sef Redefinition yn cael ei gyrraedd yn gyson wrth i’r staff ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl iddynt ei gyflawni gyda disgyblion. Caiff y disgyblion brofiadau penodol wrth drin data, defnyddio taenlenni a graffiau addas wrth ddatrys hafaliadau. Mae dealltwriaeth gynyddol gadarn gan y disgyblion o wahanol fathau o raglenni codio er mwyn creu gweithgareddau amrywiol. Enghraifft yng nghyfnod allweddol 3 yw defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn hybu medrau rhif. Maent yn creu rhaglen peiriant arwynebedd gan ddefnyddio meddalwedd addas yn ogystal â chreu peiriant mathemateg o fewn taenlen er mwyn datrys hafaliadau. Gwelir penllanw’r gwaith yng ngwaith Bac blwyddyn 11 wrth i’r disgyblion drin a chyflwyno data yn eu prosiectau unigol.
O ran mabwysiadu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, mae disgyblion Bro Edern yn cael llu o brofiadau amrywiol yn eu gwersi, gan gynnwys creu fideos hyrwyddo ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd mewn gwersi gwyddoniaeth, maent yn anfon fideos Almaeneg sy’n hysbysebu Caerdydd i’w partneriaid cyfnewid yn yr Almaen ac mewn gwersi Cymraeg maent wedi bod yn creu rhaglenni dogfen am foddi Tryweryn. Mewn gwersi daearyddiaeth mae dosbarthiadau wedi cydweithio ar un ddogfen ganolog, yn cyd-gynllunio taith i’r Eidal. Wrth fabwysiadu’r llinynnau dinasyddiaeth sy’n sôn am ddiogelwch, hunaniaeth, enw da a seibr fwlio, bu’r ysgol yn ffodus iawn o’r plismon cymunedol, sy’n ymweld yn gyson er mwyn helpu i drosglwyddo negeseuon pwysig i ddisgyblion a’u rhieni.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Fel Ysgol Arloesi Digidol, mae Ysgol Bro Edern yn cydweithio gyda’r consortiwm a’r llywodraeth er mwyn rhoi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith. Croesawyd yr holl arloeswyr digidol i Fro Edern er mwyn iddynt arsylwi gwersi a thrafod arfer dda. Mae’r ysgol yn darparu cyrsiau hyfforddi ar wahanol agweddau ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy’r consortiwm ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg a thrwy Gyda’n Gilydd (rhwydwaith datblygiad proffesiynol ysgolion cyfrwng Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De) ar gyfer ysgolion Cymraeg. Mae athrawon wedi cyflwyno mewn nifer o gyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr ac mae’r ysgol wedi darparu sesiynau HMS i nifer o ysgolion eraill, gan gynnwys sesiynau ar godi hyder digidol staff a chynllunio ar gyfer dyfodiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.