Penderfyniadau gwybodus: Gweithredu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith – Hydref 2012
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad arolwg hwn yn arfarnu effeithiolrwydd ysgolion wrth roi’r wybodaeth a’r medrau i bobl ifanc i gynllunio eu dysgu a’u gyrfaoedd a bod yn ymwybodol o’r medrau sydd eu hangen i lwyddo yn y farchnad lafur neu mewn dysgu pellach.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ymgynghori ag ysgolion i’w helpu i ddatblygu systemau i olrhain tystiolaeth yn erbyn y fframwaith GBG er mwyn i ddisgyblion ac athrawon allu monitro cynnydd unigolion wrth ddatblygu medrau mewn cynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau;
- helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i’w helpu i arfarnu eu heffeithiolrwydd wrth gyflwyno GBG;
- dosbarthu data ar gynaliadwyedd cyrchfannau cyntaf dysgwyr er mwyn i ysgolion allu monitro pa mor llwyddiannus fu eu dewisiadau; ac
- annog mwy o ysgolion i weithio tuag at ennill dyfarniad Marc Gyrfa Cymru.
Dylai ysgolion:
- wella rhan llywodraethwyr yng nghynllunio strategol GBG; a
- gwneud defnydd gwell o’r data sydd ar gael i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau mewn GBG.
Dylai Rhwydweithiau Dysgu:
- arwain sefydliadau wrth ddatblygu strategaethau i arfarnu’n drylwyr pa mor dda y maent yn paratoi disgyblion ar gyfer adegau pontio allweddol ac ar gyfer byd gwaith; ac
- annog casglu a rhannu data priodol i arfarnu sut caiff disgyblion eu paratoi ar gyfer adegau pontio allweddol.