Partneriaethau effeithiol sy’n hoelio sylw plant ac yn cyfoethogi’r cwricwlwm - Estyn

Partneriaethau effeithiol sy’n hoelio sylw plant ac yn cyfoethogi’r cwricwlwm

Arfer effeithiol

Tredegarville C.I.W. Primary School


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn gymuned sefydledig ond mae hefyd yn cynnwys llawer o newydd-ddyfodiaid.  Roedd yr ysgol yn teimlo bod angen iddi gymryd rhan fwy rhagweithiol mewn meithrin perthnasoedd o fewn y gymuned ac roedd arni eisiau gwella ymgysylltu â theuluoedd.  

Mae’r lleoliad yng nghanol y ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd cyfoethog i’r ysgol ar gyfer datblygu partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau addysg uwch, busnes a chymunedol.  Roedd yr ysgol eisiau datblygu partneriaethau effeithiol a chynaliadwy i ennyn diddordeb plant a chyfoethogi’r cwricwlwm.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn 2014, fe wnaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville ddynodi uwch arweinydd i fod yn gyfrifol am ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned a lansiodd brosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ (‘Building Our Partnerships’).  

Mae prosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ yn cynnwys dau nod.  Yn gyntaf, annog rhieni i ymwneud â’r ysgol; ac yn ail, cynnwys ystod eang o bartneriaid o sefydliadau addysg uwch, busnes a chymunedol i gyfoethogi’r cwricwlwm a chodi dyheadau disgyblion a rhieni.  Mae prosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ yn cysylltu’n agos â chynllun gwella’r ysgol.  Mae arweinwyr yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol fel bod gweithgareddau ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ yn adlewyrchu’n agos y blaenoriaethau yng nghynllun ehangach gwella’r ysgol.  Er enghraifft, pan fydd cynllun gwella’r ysgol yn canolbwyntio ar godi safonau llafaredd, mae gweithgareddau ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu llafaredd.

Mae cronfa ddata’r ysgol yn olrhain ymgysylltu â theuluoedd yn ofalus i fonitro ymglymiad grwpiau o ddysgwyr a sicrhau bod y teuluoedd anoddaf i’w cyrraedd yn cael eu targedu’n ofalus.  Mae cyfrannau uchel o deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a theuluoedd y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn ymgysylltu’n dda ag ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’.  Mae datblygu Cyngor Rhieni wedi gwella llais y rhieni ac mae wedi bod â rhan bwysig o ran sicrhau bod teuluoedd yn ymgysylltu’n well â thargedau gwella’r ysgol.  Er enghraifft, dyfeisiwyd taflen gan y Cyngor Rhieni i helpu’r holl rieni i gynorthwyo medrau llafaredd eu plant.  Mae llywodraethwr ysgol yn cefnogi arweinyddiaeth prosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ yn effeithiol.

Mae gweithgareddau ymgysylltu â theuluoedd yn y prosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ yn cynnwys:

  • gweithdai wythnosol lle mae rhieni’n gweithio ochr yn ochr â’u plant ar weithgareddau, sy’n canolbwyntio ar dargedau gwella’r ysgol

  • cyrsiau i gefnogi rhianta

  • cyrsiau i gefnogi dysgu rhieni (mân waith atgyweirio; creu gemwaith)

  • datblygu’r ‘Lolfa Ddysgu’, cyrsiau technoleg gwybodaeth i rieni a’r clwb cyfrifiaduron i deuluoedd

Ymgysylltu â’r gymuned

Mae’r ysgol wedi datblygu partneriaethau ag ystod eang iawn o sefydliadau.  Cynhelir sesiwn ‘Gwneud Rhywbeth Newydd’ bob wythnos.  Yn ystod y sesiwn hon, bydd plant yn dewis ‘clwb’ i ymuno ag ef i ddysgu medr newydd.  Mae enghreifftiau o glybiau a gynigir yn cynnwys gwau, Ffrangeg, codio, golff, samba, drymio, ysgrifennu creadigol a llawer mwy.  Mae partneriaid cymunedol yn cynnal clybiau a gweithgareddau sy’n cysylltu’n dda â chynllun gwella’r ysgol.  Er enghraifft, mae busnes lleol wedi cynnal clwb ysgrifennu creadigol ac animeiddio sy’n cefnogi gwaith gwella’r ysgol ar ysgrifennu.  

Fel rhan o ‘Gwneud Rhywbeth Newydd’, mae partneriaid hefyd yn cynnal gweithgareddau ar ôl yr ysgol ac yn arwain tasgau dysgu cyfoethog.  Mae llawer o bartneriaid yn ymweld â’r ysgol fel rhan o’r wythnos ‘Ysbrydoli’r Dyfodol’ i siarad am eu bywydau a’u gwaith. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae prosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ wedi cyfrannu at:

  • lefelau uchel o bresenoldeb (mae’r ysgol wedi bod yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg am y tair blynedd ddiwethaf)

  • lefelau uchel o ymgysylltiad disgyblion â dysgu trwy ‘Gwneud Rhywbeth Newydd’

  • cyfraddau cryf o gynnydd; er enghraifft, pan ganolbwyntiodd y prosiect ar ddatblygu llafaredd, bu cynnydd o 14% yng nghanran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 4 neu’n uwch yng nghyfnod allweddol 2, a diflannodd y bwlch rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r disgyblion eraill; mae disgyblion sy’n mynychu’r gweithdy i deuluoedd yn rheolaidd yn gwneud cynnydd cyflymach na’r rheiny nad ydynt yn eu mynychu

  • cynnydd nodedig yng nghanran y rhieni sy’n teimlo bod yr ysgol yn ymgynghori’n dda â nhw

  • cynnydd nodedig yn hyder rhieni o ran cefnogi dysgu eu plant

  • mae llawer o rieni wedi datblygu eu hyder a’u medrau eu hunain

  • cyfraddau cryf o gynnydd ar gyfer disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, a lefelau uchel o ymgysylltiad gan y teuluoedd hynny

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei phrosiect ‘Adeiladu Ein Partneriaethau’ gydag ysgolion lleol trwy gyfarfodydd rheolaidd swyddogion clwstwr ymgysylltu â theuluoedd.  Mae’r ysgol wedi cyfrannu at ddigwyddiadau a chynadleddau wedi eu trefnu gan ‘Buddsoddwyr mewn Teuluoedd’.  Fel rhan o gynllun peilot Dyfodol Cynradd Cymru, mae’r ysgol yn cefnogi datblygu gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru.