Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn archwilio’r amrywiaeth o bartneriaethau a chysylltiadau sydd gan ysgolion uwchradd ac arbennig ledled Cymru â chyflogwyr. Mae’n ystyried ystod profiadau’r dysgwyr a nodweddion cysylltiadau effeithiol rhwng ysgolion a chyflogwyr. Mae’r adroddiad hefyd yn archwilio’r modd y mae uwch arweinwyr mewn ysgolion yn dechrau ystyried sut i gynllunio ar gyfer thema drawsbynciol gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith yn y Cwricwlwm newydd i Gymru.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • Ystyried yn ofalus thema drawsbynciol gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, a sut gall dysgwyr ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, pan fyddant yn cynllunio eu cwricwlwm newydd
  • Ystyried sut gallant wella dealltwriaeth dysgwyr o’r gweithle trwy ddarparu ystod ehangach o brofiadau go iawn mewn partneriaeth â chyflogwyr
  • Gwerthuso effaith partneriaethau â chyflogwyr a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith ar ddealltwriaeth dysgwyr o’r byd Gwaith

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • Sicrhau bod cynllunio’r cwricwlwm lleol yn rhoi ystyriaeth dda i yrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, ac yn cynnwys cyflogwyr

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid eraill i:

  • Werthuso effaith rhaglenni Y Gyfnewidfa Addysg Busnes, Dosbarth Busnes a Syniadau Mawr Cymru
  • Llunio arweiniad i gynorthwyo staff ysgolion i greu cysylltiadau â chyflogwy

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn