Paratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf ar ôl y coleg

Arfer effeithiol

Gower College Swansea


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach gyda thros 4,000 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser o bob cwr o Abertawe a siroedd cyfagos.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 1,000 o staff.  Mae’n gweithredu o chwe lleoliad ar draws Dinas a Sir Abertawe.  Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, gydag economi gymysg, yn cynnwys sectorau peirianneg, adwerthu a lletygarwch, iechyd, hamdden, twristiaeth a phrifysgol.  Daw tua chwarter o ddysgwyr y coleg o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, fel y mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn ei nodweddu.

Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm o lefel cyn-mynediad i lefel addysg uwch.  Dyma’r darparwr mwyaf o gyrsiau safon uwch yn Abertawe, gydag oddeutu 40 o bynciau safon uwch.

Mae gan y coleg gyfran fawr o ddysgwyr lefel 3, gydag oddeutu 1,400 o ddysgwyr yn astudio rhaglenni UG neu safon uwch, a 1,700 yn astudio rhaglenni mynediad neu alwedigaethol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud â maes arolygu gofal, cymorth ac arweiniad, lle y mae dysgwyr yn elwa o amrywiaeth eang iawn o weithgareddau, gan gynnwys anogaeth bersonol, ymweliadau â sefydliadau allanol a chyfoethogi academaidd ehangach, yn arwain at ddilyniant cadarn i addysg uwch.  Mae gweithwyr proffesiynol diwydiant hefyd yn cyflwyno dosbarthiadau meistr gwerthfawr i ddysgwyr pynciau galwedigaethol.

Mae gan y coleg gyfran fawr o ddysgwyr lefel 3 ac mae’n teimlo’i bod yn hanfodol cefnogi’u huchelgeisiau’n llawn er mwyn symud ymlaen i addysg uwch.  Mae’r coleg wedi rhoi cryn amser ac ymdrech i ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o ddulliau cymorth sy’n annog dyheadau uchel ac yn galluogi pob unigolyn i gyflawni eu potensial o ran dilyniant.  Nodwedd allweddol yw’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr mwy abl a thalentog, sy’n arwain at lefelau cadarn o ddilyniant i brifysgolion o fri a rhaglenni gradd hynod gystadleuol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ers sawl blwyddyn, mae’r coleg wedi cynnal rhaglen helaeth o diwtorialau arbenigol i ddysgwyr sy’n gwneud cais i’r prifysgolion a’r cyrsiau mwyaf cystadleuol.  Dwy enghraifft o’r tiwtorialau hyn yw’r rhai ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt, a’r rhai ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cais am feddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth.  Mae’r rhaglenni arbenigol hyn yn ychwanegu dau gryfder penodol at raglen diwtorialau gyffredinol y coleg.  Yn gyntaf, mae dysgwyr wedi’u cysylltu â’r staff mwyaf gwybodus a phrofiadol ar gyfer eu dewis maes.  Mae’r tiwtoriaid hyn yn arwain sesiynau â ffocws ar astudio a gweithio yn y dewis maes ac yn helpu i gynhyrchu ceisiadau UCAS o safon uchel.

Yr ail gryfder yw defnyddio arbenigwyr o’r tu allan i’r coleg, sy’n cynnig rhaglen o areithiau a gweithdai arbenigol.  Mae arbenigwyr allanol o brifysgolion lleol a phroffesiynau perthnasol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug, gan ganiatáu i bob dysgwr brofi cyfweliad cystadleuol.  Mae hyn yn rhoi paratoad amhrisiadwy i ddysgwyr i’r broses gyfweld ac mae’n cynnig cyngor unigol manwl ar wybodaeth a medrau cyflwyno’r dysgwr, yn ogystal â hybu hunanhyder y dysgwr wrth iddo wynebu’r cyfweliadau go iawn yn Rhydychen, Caergrawnt neu mewn ysgolion meddygaeth.

Mae’r coleg yn bartner gyda Phrifysgol Caergrawnt ar gyfer ei gynllun HE+.  Mae’r rhaglen allymestyn hon yn annog dysgwyr o’r sector ysgolion gwladol i ystyried gwneud cais i Gaergrawnt/Rhydychen neu brifysgolion eraill sy’n arbenigo mewn ymchwil. Trwy gynllun HE+, mae dysgwyr lefel UG â phroffil TGAU cadarn yn cymryd rhan mewn gweithdai rheolaidd ac amrywiaeth eang o ddosbarthiadau meistr arbenigol, dan arweiniad arbenigwyr o’r coleg ac o brifysgolion ac ysgolion lleol eraill.  Mae’r dosbarthiadau meistr hyn yn archwilio pynciau cyffrous ac yn meithrin angerdd dysgwyr mwy abl tuag at eu dewis bynciau yn fedrus.

Bellach, cynllun HE+ y coleg yw Canolfan Seren Llywodraeth Cymru ar gyfer Abertawe a dyma’r ganolfan fwyaf yng Nghymru, gyda thros 300 o ddysgwyr UG.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cymorth ac arweiniad rhagorol a roddir i ddysgwyr wrth iddynt wneud dewisiadau a gwneud cais am gyrsiau addysg uwch wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddilyniant llwyddiannus.  Mae lefel uchel iawn o geisiadau UCAS yn cael eu derbyn yn gyson.  

Hefyd, mae’r gwaith mewn tiwtorialau arbenigol ac yn HE+ yn arwain at lefelau cyson uchel o lwyddiant wrth gynorthwyo dysgwyr i gael lleoedd mewn prifysgolion ac ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol.  Yn nodweddiadol, mae tua 200 o ddysgwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion Grŵp Russell bob blwyddyn, gan gynnwys cyfran gymharol uchel yn derbyn cynigion i astudio meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth, ac i astudio yn Rhydychen/Caergrawnt.

Yn ogystal â’r cyfraddau dilyniant cryf hyn, mae gan waith y coleg yn y maes hwn effaith gadarnhaol ehangach.  Mae’r cyngor gaiff dysgwyr wrth iddynt ymchwilio i’w hopsiynau a mynd drwy’r broses ymgeisio hefyd yn gwella medrau cyflogadwyedd, fel annibyniaeth a hunanymwybyddiaeth, ac mae’n eu hannog i arfarnu’r amrywiaeth o opsiynau a llwybrau dilyniant yn eu gyrfa academaidd neu alwedigaethol.  Mae dysgwyr sy’n dymuno mynd yn syth ymlaen i gyflogaeth ar ôl cwblhau eu rhaglenni lefel 3 yn cael cymorth tiwtorial arbenigol hefyd.  Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr y coleg wedi’u paratoi’n dda wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf ar ôl y coleg.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn