Paratoi i weithredu’r cwricwlwm newydd trwy gynnwys disgyblion - Estyn

Paratoi i weithredu’r cwricwlwm newydd trwy gynnwys disgyblion

Arfer effeithiol

Mount Pleasant Primary


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae safonau yn yr ysgol yn dda.  Rhoddodd staff ddull strwythuredig o gynllunio ar waith i sicrhau y cafodd y cwricwlwm cenedlaethol ei gwmpasu trwy gylch tair blynedd o destunau.  Fodd bynnag, roedd diffyg perchnogaeth gan y disgyblion o’r testun a’r themâu ac ni sicrhawyd bod medrau creadigol disgyblion yn datblygu’n llwyddiannus ar draws y cwricwlwm.

Nid yw Ysgol Gynradd Mount Pleasant yn ysgol arloesi, er bod staff yn awyddus i ddatblygu a gweithio tuag at weithredu’r cwricwlwm newydd i Gymru yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Dyma oedd y cwestiynau a ysgogodd ddatblygiad y cwricwlwm:

  • Sut ydym ni’n mynd i wneud hyn yn llwyddiannus?

  • Pryd yw’r adeg gywir i ddechrau?

  • Pwy fydd yn arbrofi â’r dull newydd?

  • Sut beth fydd y cwricwlwm?

  • Sut ydym ni’n gwybod bod hyn yn gywir?

  • Ble gallwn ni weld arfer effeithiol?

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cafodd pob un o’r staff eu grwpio mewn timau dysgu ar gyfer y chwe maes dysgu a phrofiad.  Yn dilyn proses hunanarfarnu drylwyr, creodd y timau hyn gynllun gweithredu gyda ffocws ar ddatblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm.  Roedd pob un o’r cynlluniau yn gysylltiedig â blaenoriaethau allweddol yr ysgol ar gyfer gwella.  Y nod oedd sicrhau bod timau’r cwricwlwm yn gyfarwydd â’r dull a amlinellir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’u bod yn gallu defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hyn i gydweithio â disgyblion i gynllunio profiadau dysgu.

Defnyddiwyd sesiynau hyfforddi staff i archwilio ‘Dyfodol Llwyddiannus’.  Yn ystod y camau datblygu cychwynnol, bu athrawon yn ystyried pedwar diben craidd a phennod 5 ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan geisio’i gysylltu ag arfer effeithiol bresennol.  Buont yn trafod ac archwilio sut beth yw bod yn ddysgwr uchelgeisiol, medrus, yn unigolyn iach a hyderus, yn gyfrannwr mentrus a chreadigol, ac yn ddinesydd moesegol a gwybodus.  Nod yr ysgol oedd creu cwricwlwm a oedd yn addas ar gyfer disgyblion yn Ysgol Mount Pleasant.

Buan y datblygodd y broses hon i fod yn ymarfer myfyrio bob hanner tymor.  Rhoddwyd rhyddid i staff archwilio testunau newydd gyda’u disgyblion, ac arbrofi â diwrnodau ‘Wow’ lle gellir trwytho disgyblion mewn profiadau ar gyfer dysgu, er enghraifft trwy gymryd rhan mewn gwledd Duduraidd neu ystafell ddosbarth Fictoraidd, neu drwy wisgo i fyny fel pobl sy’n ysbrydoli.  Y nod oedd archwilio cwricwlwm creadigol gydag elfen gref o lais y disgybl.  Buan y daeth testunau yn greadigol, gyda disgyblion yn cymryd perchnogaeth o gyfeiriad y dysgu.  Gofynnwyd i staff adolygu cysylltiadau’r cwricwlwm â’r pedwar diben craidd bob hanner tymor a myfyrio ar ymdrin â medrau.  Roedd y dogfennau byw hyn yn amlygu bylchau mewn dysgu, y gellid mynd i’r afael â nhw wrth gynllunio ar gyfer yr hanner tymor nesaf.

Yn dilyn ymchwil gan ysgolion arloesi, creodd yr uwch dîm arweinyddiaeth we testun, a oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r chwe maes dysgu.  Wedyn, lledaenwyd hyn ymhlith pob un o’r staff i arbrofi ag ef.  Erbyn hyn, gallai staff ddechrau cynllunio eu testunau gyda’u disgyblion, gan sicrhau bod pob maes dysgu yn dangos ymdriniaeth.  Mae arweinwyr o’r farn fod hyn wedi bod yn fwyaf llwyddiannus ym Mlwyddyn 6, lle mae’r athro dosbarth yn defnyddio offeryn ar-lein er mwyn i’r holl ddisgyblion allu cynllunio’r testun yn unol â’u diddordebau.  Mae’r gweoedd testun wedi datblygu yn unol â diddordebau’r disgyblion.  Mae staff addysgu yn sicrhau bod ymdriniaeth â medrau yn cael ei holrhain bob hanner tymor.  Anogir disgyblion i adolygu testunau ar adegau priodol a chreu meysydd dysgu newydd i’w datblygu.

Mae arddangosfeydd ysgol gyfan wedi cefnogi datblygiad cwricwlwm creadigol yn yr ysgol.  Mae pob un o’r staff a’r disgyblion wedi cymryd rhan mewn creu pedair arddangosfa fawr yn y neuadd, sy’n gysylltiedig â’r pedwar diben craidd.  Ar yr arddangosfeydd hyn, cofnodir tystiolaeth o bob maes o fywyd yr ysgol ac mae disgyblion yn amlygu’r medrau a ddatblygwyd.  Buan y trosglwyddwyd yr egwyddorion hyn i arddangosfa ysgol gyfan, sy’n dangos y chwe maes dysgu.  Diwygiwyd dogfennau cynllunio yn unol â’r pedwar diben craidd ac mae staff yn nodi sut caiff y dibenion craidd eu bodloni.  Mae hyn wedi cynorthwyo trosglwyddo i gwricwlwm mwy creadigol sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn ymgysylltu’n fwy â’u dysgu ac wedi cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am ddatblygu eu medrau.  Er enghraifft, cyflwynir testunau fel ‘Ein Byd Rhyfeddol’ trwy efelychu’r hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn teithio trwy faes awyr yn ystod hediad mewn awyren. (https://www.youtube.com/watch?v=7pJOQHFflLQ)  

O ganlyniad i’r ysbryd tîm effeithiol iawn yn yr ysgol, mae cydweithio rhwng staff wedi hwyluso rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth yn effeithiol er mwyn datblygu cwricwlwm creadigol.  Mae lles ac annibyniaeth disgyblion wedi gwella, gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn canolbwyntio’n dda yn y dosbarth ac mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn agwedd aeddfed at ddysgu.  Caiff diddordeb disgyblion yn eu dysgu ei gynnal yn arbennig o dda mewn gweithgareddau rhesymu a datrys problemau.  Mae dysgu wedi dod yn ystyriol a pherthnasol, gyda disgyblion yn dangos dealltwriaeth dda o ofynion pob maes dysgu a phrofiad.

Caiff disgyblion gyfleoedd da i ddylanwadu ar fywyd a gwaith yr ysgol.  Yn ychwanegol i’w rôl yn cynllunio’r cwricwlwm, maent wedi datblygu tir yr ysgol ac wedi awgrymu gweithgareddau sy’n gwella eu medrau entrepreneuraidd.  Mae eu gwaith yn dylanwadu ar flaenoriaethau ar gyfer cynllunio gwelliant yr ysgol ac fe gaiff effaith gadarnhaol ar yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arfer dda yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant gyda chydweithwyr trwy gyfarfodydd adolygu cymheiriaid a chydweithio rhwng ysgolion y clwstwr.  Mae’r ysgol yn dangos ei harfer trwy gyfryngau cymdeithasol.  Mae hyn wedi helpu codi proffil ysgol nad yw’n arloesi sy’n gweithio tuag at ddyfodol llwyddiannus i’w disgyblion yn null Mount Pleasant!