Pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr rhwng 16 ac 19 oed sydd ag anghenion caffael Saesneg? Gorffennaf 2009

Adroddiad thematig


Yn gyffredinol, mae athrawon a dysgwyr yn teimlo bod cymorth ar gyfer dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg ar gyfer dysgwyr 16-19 oed yn dda. Fodd bynnag, nid oes digon o staff cymwys sy’n gallu cefnogi dysgwyr y mae Saesneg yn iaith ychwanegol neu’n ail iaith iddynt. O ganlyniad, nid yw mwyafrif helaeth o’r dysgwyr hyn yn dal i fyny â chyflymder gwersi neu sesiynau hyfforddi.Yn ychwanegol, nid oes strategaeth genedlaethol i ddod â’r sefydliadau sy’n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg at ei gilydd, ac mae hyn wedi arwain at amrywiad yn y ddarpariaeth rhwng addysg bellach ac ysgolion.


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sefydlu arweiniad strategol cenedlaethol ar gyfer dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg;
  • datblygu cynllun strategol ag amcanion a blaenoriaethau clir ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • phenodi swyddog arbenigol ar gyfer gweithredu’r amcanion a’r blaenoriaethau hyn.

Dylai darparwyr:

  • wella medrau athrawon rheng flaen i gefnogi dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • chryfhau’r adnoddau i sicrhau bod digon o staff cymwys arbenigol i fodloni anghenion dysgwyr.

Dylai Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc:

  • ddatblygu polisi ar gyfer rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng partneriaid allweddol;
  • arfarnu a gwella cynllunio trosglwyddo ar gyfer dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • datblygu a gweithredu strategaeth i sicrhau bod dysgwyr bregus yn cael cymorth targedig.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn