Olrhain cynnydd i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion - Estyn

Olrhain cynnydd i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Esgob Morgan Voluntary Controlled Primary


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Esgob Morgan wedi’i lleoli yn ninas gadeiriol Llanelwy yn Sir Ddinbych.  Mae 107 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, sy’n cael eu haddysgu mewn pedwar dosbarth un oedran. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Esgob Morgan wedi datblygu dull sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y disgybl ar gyfer popeth y mae’n ei wneud, sydd wedi tyfu o’r dull sy’n canolbwyntio ar y disgybl y mae’r ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.  Roedd yr ysgol yn awyddus i sicrhau bod anghenion addysgol arbennig a chynhwysiant yn cael eu dwyn ynghyd o dan un ymbarél, o dan gyfarwyddyd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (CydADY) wrth i’r ysgol gydnabod y cysylltiadau cryf rhwng anawsterau dysgu ac ymddygiad.  Gan fod ymyriadau i gynorthwyo disgyblion yn esblygu a newid yn barhaus, roedd yn hanfodol fod cynnydd disgyblion yn cael ei olrhain yn fanwl i sicrhau bod yr ysgol yn gallu dangos yr effaith yr oedd ymyriadau’n ei chael ar y disgyblion.  Hefyd, roedd yn bwysig i’r ysgol gynnwys y tîm cyfan mewn cynllunio, datblygu a myfyrio ar yr ymyriadau a gyflwynir.  Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cael eu grymuso i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Bob mis Medi, mae staff addysgu a staff cymorth yn gweithio trwy dri llwybr i nodi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol; profion safonedig, eu gwybodaeth eu hunain am eu dosbarthiadau ac unrhyw ymglymiad gan asiantaethau allanol.  Wedyn, maent yn cyfarfod â’r CydADY ac yn bwydo’r wybodaeth hon i mewn i’r fframiau cynllunio ymyrraeth y mae’r ysgol yn eu defnyddio.  Mae hyn yn cynnwys cofnodi meincnod cyrhaeddiad presennol a allai fod yn gysylltiedig ag anawsterau dysgu, ac anawsterau ymddygiadol, cymdeithasol neu gyfathrebu.

Yn dilyn hyn, mae’r Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn gweithio trwy becyn ymyrraeth cytûn gyda’r disgyblion ac yn asesu eu cynnydd yn ffurfiannol yn rheolaidd, gan adrodd yn ôl i’r CydADY.  Deirgwaith trwy gydol y flwyddyn, caiff y fframiau cynllunio ymyrraeth eu hadolygu mewn cyfarfod triongli.  Cynhelir y cyfarfod hwn rhwng yr athro dosbarth, y Cynorthwyydd Cymorth Dysgu a’r CydADY.  Mae hyn yn golygu y gellir trafod cynnydd yn fanwl, cofnodi sgorau newydd ac ychwanegu disgyblion at raglenni ymyrraeth sy’n seiliedig ar y cynnydd a wneir, neu dynnu disgyblion oddi arnynt.  Hefyd, mae’r cyfarfodydd triongli yn darparu llwyfan i wneud cyfeiriadau at asiantaethau allanol neu am geisiadau am gymorth gan yr awdurdod lleol.

I rymuso pob un o’r staff, mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn cofnodi nodiadau am gynnydd disgyblion ac ar eu cynllunio.  Wedyn, bydd y CydADY yn sicrhau ansawdd hyn fel rhan o’r broses rheoli perfformiad yn yr ysgol.  Mae hyn wedi datblygu gallu pob un o’r staff yn yr ysgol i drin data a nodi tueddiadau a phatrymau.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dull hwn i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol wedi arwain at gynnydd mewn safonau.  Yn 2017/18, cyflawnodd pob un o’r disgyblion eu dangosydd pwnc craidd ar ddiwedd cyfnod allweddol.  Yn ystod blwyddyn ysgol olaf y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gwnaeth 87% ohonynt gynnydd mewn sillafu, 78% mewn darllen a 76% mewn mathemateg.  Mae hyn yn cadarnhau bod y dull tîm cyfan a ddefnyddir i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn trwy gyfryngau amrywiol.  Maent wedi cyflwyno’r gwaith yn rheolaidd mewn cyfarfodydd cydlynwyr anghenion addysgol arbennig awdurdodau lleol, maent wedi cynorthwyo ysgolion yn unigol i efelychu’r dull ac wedi cyfrannu at ddigwyddiadau dysgu cyflym i rannu arfer ag ysgolion eraill.