Olrhain cynnydd disgyblion i wella safonau lles a chyrhaeddiad - Estyn

Olrhain cynnydd disgyblion i wella safonau lles a chyrhaeddiad

Arfer effeithiol

Ysgol Bro Gwydir


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae darparu ymyrraeth gynnar sy’n bodloni anghenion y disgyblion yn flaenoriaeth i Ysgol Bro Gwydir.  Dros y blynyddoedd diweddar, mae’r ysgol wedi datblygu system olrhain cynnydd trwyadl, sy’n olrhain safonau cyflawniad a datblygiad emosiynol y disgyblion.  Mae’r uwch dîm rheoli, cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon yn defnyddio’r asesiadau hyn i ddarparu ymyriadau i fynd i’r afael â’r amrywiaeth gynyddol o anghenion sydd gan y disgyblion.  Mae ystod eang o raglenni hynod effeithiol wedi’u hanelu at wella lles a safonau cyrhaeddiad y disgyblion, ac mae tîm medrus o gynorthwywyr addysgu yn cyflwyno llawer o’r ymyriadau hyn.  Mae’r ysgol hefyd yn croesawu rhieni a’r gymuned leol yn bartneriaid er mwyn cyfoethogi lles y disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol wedi datblygu systemau cadarn er mwyn olrhain cynnydd disgyblion ac y mae’r rhain yn cael eu monitro yn drwyadl.  Mae amrywiaeth o fentrau ac ymyraethau wedi cael effaith sylweddol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion.  Cânt eu cyflwyno gan staff hynod fedrus ac ymroddedig.  Maent yn cynnwys:

  • clwb codi hyder sy’n cynnig profiadau cyfoethog i feithrin hunanddelwedd a hunanhyder disgyblion

  • clwb hanner awr sy’n cael ei gynnal gan gymhorthydd ar ôl ysgol er mwyn targedu safonau cyrhaeddiad disgyblion o fewn maes penodol

  • clwb antur fawr, sydd yn bartneriaeth â chanolfan awyr agored lleol ac yn cynnig cyfle i rieni a disgyblion gydweithio er mwyn trefnu antur fawr, gyda’r nod o fagu hyder a hunanddelwedd gadarnhaol ymhlith y disgyblion

  • gweithgareddau meddylfryd twf sy’n cael eu cynnal trwy’r ysgol er mwyn codi hyder a gwydnwch y disgyblion

  • grwpiau ffocws disgyblion a rhaglenni ymyrraeth niferus sy’n cael effaith sylweddol ar safonau lles a chyrhaeddiad y disgyblion

  • partneriaeth agos â Chanolfan Deulu Llanrwst, sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’r rhieni a’u plant gydweithio

  • boreau ymgysylltu sy’n meithrin dealltwriaeth rhieni o’r dulliau dysgu a ddefnyddir, er enghraifft ym maes rhifedd a darllen

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae asesiadau athrawon, data profion cenedlaethol a data profion safonedig yn dangos fod y disgyblion dderbyniodd gymorth wedi gwneud cynnydd da iawn.

  • Mae’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn perfformio’n dda iawn, gyda’r rhan fwyaf yn cyflawni lefel 4 neu uwch erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.

  • Dengys canlyniadau profion fod hunan ymwybyddiaeth, hunanddelwedd ac agwedd y disgyblion at eu gwaith wedi gwella.

  • Mae’r rhieni yn chwarae mwy o ran ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol wrth gefnogi eu plant.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda o fewn y dalgylch a’r rhanbarth, ac y mae’r ysgol wedi croesawu nifer helaeth o ymwelwyr i arsylwi arfer dda.  Mae’r ysgol wedi rhannu llwyddiant ym maes meddylfryd twf yng nghynhadledd arfer dda’r consortiwm lleol.  Mae’r ysgol wedi rhannu arferion cydweithio effeithiol yng nghynhadledd Canolfannau Teulu Sir Conwy.