O fesurau arbennig i lwyddiant: taith wella.

Arfer effeithiol

Trelai Primary School

Mae dau athro yn cerdded ac yn siarad gyda'i gilydd y tu allan i sied gardd ar ddiwrnod heulog. Mae un yn dal tabled a'r llall yn ystumio wrth siarad. Mae'r ddau yn ymddangos yn gyffrous ac yn hapus.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Trelái wedi’i lleoli mewn ardal â lefel uchel o ddifreintedd, yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae 381 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae 77% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan yr ysgol leoliad Dechrau’n Deg ar y safle sy’n cefnogi addysg gynnar a phontio i ddosbarth meithrin yr ysgol.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Ym mis Tachwedd 2017, tynnwyd yr ysgol o’r rhestr ysgolion y mae angen mesurau arbennig arnynt. Roedd yr ysgol wedi cofleidio’u taith wella, gan gynnwys heriau pandemig Covid, y newid i Gwricwlwm i Gymru a gweithredu ALNET. Yn allweddol i welliant yr ysgol oedd ei gweledigaeth glir, a ddangosir yn y gosodiad ‘Rydyn ni’n dangos parch, rydyn ni’n ymddwyn yn gyfrifol, rydyn ni’n gweithio’n galed’.  

Sut olwg sydd ar daith wella ysgol pan fydd ysgol yn cael ei rhoi yn y categori Mesurau Arbennig? 

Sylweddolodd arweinwyr fod angen newid diwylliannol, gan gydnabod bod yr ysgol yn ‘troi yn ei hunfan’ mewn sawl ffordd ac, felly, roedd angen gwneud pethau yn wahanol. Teimlont fod angen i’r ysgol alw ar gefnogaeth ymarferwyr allanol a fyddai’n dwyn safbwynt newydd i waith yr ysgol. Cafodd yr ysgol bennaeth profiadol ar secondiad i weithio gyda swyddog datblygu ysgol newydd ei benodi, y ddau i fod yn ‘ffrindiau beirniadol’. Y cam pwysig cyntaf oedd deall y capasiti presennol yng nghymuned yr ysgol yn llawn. Dadansoddodd arweinwyr a staff gyfraniadau ac arbenigedd yr holl staff, gan greu cynlluniau gwella gyda’i gilydd a grymuso pawb ar ddechrau’r daith wrth i ni gyd-ddatblygu’r ffordd ymlaen. 

Aeth yr ysgol ati i ailstrwythuro cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr. Fe wnaeth y penodiadau allweddol gynnwys Dirprwy Bennaeth Dysgu ac Addysgu a Dirprwy Bennaeth Lles a Dysgu Proffesiynol, ill dau â setiau medrau gwahanol yn gyson â’r heriau o’u blaenau. Sicrhaodd y ffocws o’r newydd ar brosesau hunanwerthuso a rheoli perfformiad fod y rolau newydd hynny’n teimlo’u bod yn cael eu cefnogi’n llawn i ymgymryd â’u cyfrifoldebau. Cytunodd staff fod y weledigaeth, a’r polisïau, y gweithdrefnau a’r arferion canlyniadol, yn canolbwyntio’n fanwl ar yr holl feysydd i’w gwella a’r effaith ar ddisgyblion. Roedd hi’n hanfodol bod pawb cysylltiedig yn teimlo ymdeimlad o berchnogaeth ac, os nad oedd camau gweithredu yn gweithio, bod cynlluniau’n cael eu newid yn unol â hynny, yn enwedig mewn gwella ymddygiad, ymgysylltiad ac agweddau at ddysgu. Cydweithredodd staff i sefydlu ymagwedd gyson at addysgu, dysgu a lles trwy ymagwedd nad yw’n agored i drafodaeth, ynghyd â thrafodaeth broffesiynol a gwaith ymholi. Sicrhaodd yr ymagwedd hon fod yr holl staff wedi’u symbylu, eu galluogi a’u bod yn teimlo bod eu datblygiad a’u cyfraniad at wella’r ysgol yn cael ei werthfawrogi.  

Gosododd yr ysgol bwysigrwydd ar sicrhau cysondeb a sefydlogrwydd yn ystod y cyfnod hwn, gan wella effaith gwerthusiadau a dilysu. Gweithiodd partneriaid gwella’r ysgol mewn partneriaeth reolaidd â’r ysgol, gan ategu gwerthuso trwy fyfyrdod a dod o hyd i ffyrdd addas o fynd i’r afael ag anghenion disgyblion a staff. Fe wnaeth hyn gynnwys adegau pan fu’n rhaid i athrawon gael sgyrsiau anodd a gwneud penderfyniadau pwysig i ysgogi’r newid angenrheidiol. Roedd llywodraethwyr yn rhan fawr o’r broses, gan gofleidio ffyrdd newydd o weithio, dod â’u safbwyntiau a’u harsylwadau eu hunain, gofyn cwestiynau a chadarnhau sefyllfa’r ysgol trwy ymweliadau rheolaidd i weld y gwaith parhaus ar waith. Cyfrannodd ymweliadau gan Estyn at gynlluniau gwella, gyda llywodraethwyr yn herio neu’n cadarnhau’r gwelliant. Fe wnaeth gweithio fel tîm estynedig wneud gwahaniaeth. 

Mae meithrin perthnasoedd effeithiol yn parhau i fod yn ganolog i lwyddiant yr ysgol, gan gynnwys disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol. Mae pawb sydd ynghlwm yn bwysig ac mae arweinwyr yn ceisio’u barn ac yn gweithredu arni. Mae’r ysgol yn dathlu ei cherrig milltir gwella fwyfwy ac yn gwahodd rhieni i’r ysgol ar bob cyfle. Mae disgyblion yn olrhain eu cynnydd eu hunain, gan nodi’r camau nesaf yn eu dysgu a’u cyfraniad a’u hymgysylltiad â phrofiadau dysgu a, thrwy grwpiau arweinyddiaeth disgyblion ar draws yr ysgol, maent yn galluogi’r diwylliant a’r ethos cadarnhaol newydd eu sefydlu i ffynnu. 

Erbyn hyn, mae’r ysgol yn teimlo ei bod yn rhan ganolog o’r gymuned ac mae aelodau’r gymuned honno’n ystyried bod yr ysgol yn grŵp cydlynol o weithwyr proffesiynol sydd eisiau’r gorau i’w plentyn. Mae disgyblion a rhieni yn gwybod beth i’w ddisgwyl a sut bydd yr ysgol yn eu cefnogi a’u hannog yn ystod cyfnodau da yn ogystal â phan fydd bywyd yn mynd yn drech na nhw.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau’r disgyblion?

Gydag amser, mae’r ysgol wedi sicrhau, datblygu a chynnal strategaethau a darpariaeth lwyddiannus, gan sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion. Mae Trelái bellach yn sefydliad dysgu i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni. Mae gwella’r ysgol yn gyfrifoldeb ar bawb a, gyda’i gilydd, mae pawb yn cyfrannu at flaenoriaethau gwella. 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi rhannu ei hymarfer gyda rhieni i’w cynorthwyo â helpu eu plant eu hunain. Mae parch rhwng yr ysgol a’r cartref, gan ddal adegau o ddathlu, yn meithrin cydlyniant cymunedol.  

Mae Dirprwy Benaethiaid wedi cydweithredu trwy sesiynau rheolaidd gyda’r nos gyda chydweithwyr clwstwr ac ysgolion partner ar ddysgu ac addysgu, gan alluogi rhannu arfer bresennol a deilliannau ymholi.  

Mae arweinwyr ar bob lefel yn mynd i gyfarfodydd rhwydwaith y consortiwm a rhai cenedlaethol. Mae staff a disgyblion yn croesawu cydweithwyr o ysgolion eraill yn rheolaidd i rannu taith ac arfer yr ysgol.