Nodi a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio
Quick links:
- Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth
- Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector:
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth
Coleg addysg bellach (AB) yw Grŵp Llandrillo Menai a ffurfiwyd yn 2012 drwy uno Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Mae tua 21,000 o ddysgwyr gan y Grŵp, ac o’r rheiny mae 6,000 yn astudio rhaglenni amser llawn yn cael eu darparu ar 13 campws ar draws siroedd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector:
Mae’r coleg yn gwneud defnydd effeithiol o’i offeryn nodi’n gynnar (EIT) i nodi dysgwyr sydd mewn perygl o adael y cwrs cyn ei gwblhau. Mae dysgwyr y nodwyd eu bod ‘mewn perygl’ yn elwa ar gymorth cadarn a helaeth a ddarperir gan wasanaethau coleg arbenigol a phartneriaeth gadarn, sefydledig gydag asiantaethau allanol.
Nododd gwasanaethau dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai alw cynyddol am gymorth ychwanegol a fynnir gan ddysgwyr, ac a ddefnyddir gan ddysgwyr. Yn 2014, nodwyd bod 578 o ddysgwyr mewn perygl o dynnu allan o’u rhaglen oherwydd rhwystrau allanol. Roedd diffyg gwydnwch i ymdopi ag anawsterau lles yn cael effaith niweidiol ar bresenoldeb a’u gallu i gadw ar y trywydd iawn gyda’u dysgu.
I ymateb i ddyfodiad y Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid, gweithiodd Grŵp Llandrillo Menai mewn partneriaeth â Chydlynwyr Ymgysylltu a Dilyniant chwe awdurdod lleol gogledd Cymru i ddatblygu protocolau rhannu gwybodaeth er mwyn cryfhau cymorth pontio ymhellach i ddysgwyr y nodwyd bod perygl iddynt ymddieithrio.
Dadansoddwyd gwybodaeth yn ymwneud â’r dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o’u rhaglen coleg er mwyn llunio proffil meini prawf cymhwysedd yr offeryn diagnostig EIT.
Mabwysiadwyd yr offeryn EIT wedi hynny gan TRAC 11-24, sef prosiect yng ngogledd Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, fel y model ymyrryd i’w ddefnyddio gan ddarparwyr ôl-16. Mae myfyrwyr sy’n gymwys i gyfranogi ym mhrosiect TRAC yn derbyn cymorth lles personoledig dwys ychwanegol gan fentor TRAC penodedig.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Defnyddir yr offeryn diagnostig EIT i nodi dysgwyr sydd yn fwyaf tebygol o adael eu rhaglen yn gynnar. Mae EIT yn rhoi sgôr ar gyfer pob dysgwr yn seiliedig ar ddata presenoldeb, lles, ymddygiad, uchelgais o ran gyrfa a lefel medrau. Mae ffactorau’r meini prawf cymhwysedd wedi’u pwysoli.
Caiff EIT ei redeg ar gyfer pob dysgwr AB amser llawn ar ddechrau bob tymor. Mae’r offeryn diagnostig EIT yn defnyddio’r setiau data a gynhwysir yn systemau rheoli gwybodaeth y coleg ac mae’n poblogi’r pwysoliadau yn awtomatig i gyfrifo’r sgôr. Caiff yr 8% uchaf o ddysgwyr a broffiliwyd eu hadolygu. Ystyrir barn broffesiynol bob tro wrth ystyried y cymorth dwys a phersonoledig mwyaf priodol sydd ei angen. Caiff marcwyr pellter a deithiwyd eu hintegreiddio i’r offeryn diagnostig EIT i ddangos gwerth a ychwanegwyd. Ddeng wythnos ar ôl y cyfeiriad cychwynnol ar gyfer ymyrraeth a chymorth lles ychwanegol, ailgyfrifir yr EIT er mwyn helpu nodi tystiolaeth o welliant. Ar ôl hynny, caiff yr offeryn EIT ei redeg bob deng wythnos y bydd dysgwr yn derbyn cymorth ychwanegol.
Yn sgil cyflwyno’r prosiect presenoldeb ‘85%+’, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi datblygu ac integreiddio’r EIT ymhellach gyda llwybrau cyfeirio lles presennol y coleg i gael cymorth. Caiff ymgysylltiad dysgwyr ei fonitro yn ystod y cyfarfodydd panel dysgwyr mewn perygl a gadeirir gan y cyfarwyddwr gwasanaethau dysgu ac a fynychir gan y prifathro cynorthwyol priodol, rheolwr y maes rhaglen a staff cymorth lles.
Mae cynlluniau gweithredu cymorth wedi’u hintegreiddio’n llawn yn fframwaith ansawdd y Grŵp. Mae tiwtoriaid personol yn mynd at gynlluniau gweithredu dwy’r porth dysgwyr, eDRAC, tra bod rheolwyr yn adolygu ac yn monitro dangosyddion perfformiad yn ôl ardal, cwrs a dysgwyr drwy ddangosfwrdd y porth.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r offeryn diagnostig EIT yn cyfrifo sgôr ac yn mesur pellter a deithiwyd ar gyfer set o feini prawf sy’n cynnwys: presenoldeb, lefel medrau sylfaenol a gyflawnwyd, ymddygiad ac uchelgeisiau o ran gyrfa. O’r dysgwyr a oedd yn gymwys i dderbyn cymorth mentor TRAC a gyfranogodd ym mlwyddyn gyntaf y prosiect, cyflawnodd 88% welliant o 10% yn eu Sgôr EIT.
Fe wnaeth 91% o’r dysgwyr y nodwyd eu bod mewn perygl o ymddieithrio gwblhau eu rhaglen astudiaeth. O’r rheini a gwblhaodd eu cwrs, cyflawnodd 90% eu cymhwyster. O ran y 9% na wnaeth gwblhau’r flwyddyn academaidd, aethant yn ôl i’r coleg y flwyddyn ganlynol naill ai i gwblhau’r rhaglen neu i gofrestru ar raglen arall ar yr un lefel.