Neilltuo prentisiaid i’r colegau sy’n gallu addysgu’r medrau gofynnol orau
Quick links:
Gwybodaeth am y darparwr
Consortiwm dysgu yn y gwaith yw B-wbl sy’n cael ei arwain gan Goleg Penfro, sy’n cynnwys 11 o ddarparwyr, gan gynnwys chwe choleg addysg bellach a phum darparwr hyfforddiant preifat. Adeg yr arolygiad ym Mehefin 2015, roedd y consortiwm yn cyflwyno rhaglenni i 5,000 o ddysgwyr ar draws ystod o raglenni prentisiaeth uwch, prentisiaeth, prentisiaeth sylfaen, hyfforddeiaethau ac ymgysylltu.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Caiff dyrannu contract i aelodau consortiwm unigol ei briodoli ar sail ansawdd eu darpariaeth. Bydd Adroddiad Deilliannau Dysgwyr (LOR) o ansawdd uwch yn arwain at niferoedd ychwanegol o leoedd i ddysgwyr ar y rhaglenni hyfforddi. Fe wnaeth y consortiwm ddyfeisio a chytuno ar y fethodoleg ddyrannu arloesol hon sy’n canolbwyntio ar ansawdd cyn dyfarnu’r contract yn 2011 i sicrhau bod pawb yn cael dyraniad teg. Roedd y fethodoleg ddyrannu yn sicrhau bod darparwyr â phroffiliau ansawdd uwch yn cael pwys gwell yn y ddarpariaeth ddyrannu, gan sicrhau felly y byddai dysgwyr yn cael hyfforddiant o’r ansawdd gorau. Mae’r model wedi ei gynllunio i alluogi i’r dyraniadau amrywio’n flynyddol wrth i broffiliau ansawdd newid. Mae aelodau newydd y consortiwm wedi cofrestru ar gyfer y model hwn hefyd. Mae ansawdd a safonau a gyflawnir gan ddysgwyr wedi gwella o 79% i 86% yn sgil y model hwn, sydd wedi’i seilio ar ddyfarniadau. Mae hefyd yn lleihau’r costau rheoli sy’n cael eu talu gan aelodau’r consortiwm i adlewyrchu’r ymyrraeth is a fydd yn ofynnol gan dîm rheoli’r consortiwm.
Fe wnaeth aelodau’r consortiwm lofnodi cytundebau cydweithredol yng Ngorffennaf 2010 cyn proses dendro gychwynnol Llywodraeth Cymru. Mae aelodau newydd, wrth iddynt ymuno â’r consortiwm, wedi cofrestru ar gyfer y cytundebau hyn hefyd. Cytunwyd ar bolisïau allweddol ar y pryd, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cafodd y fethodoleg ddyrannu ei chytuno a’i chymeradwyo ar yr adeg hon hefyd, fel bod modd pennu a dyfarnu dyraniadau darparwyr unigol yn hawdd ac yn gyflym wedi i’r contract cyffredinol gael ei ddyfarnu.
Mae’r consortiwm wedi rhoi model dyraniadau ar waith, sy’n gysylltiedig â deilliannau ansawdd a lefel y ffi reoli a delir.
Mae cost y ffi reoli yn gysylltiedig â pherfformiad darparwyr unigol a lefel y cymorth sydd ei angen i gefnogi eu gwelliant. Os oes angen mwy o gymorth gan dîm rheoli B-wbl, yna caiff canran uwch o werth eu contract ei thalu fel ffi reoli. Caiff aelodau’r consortiwm ystod eang o gymorth sy’n eu galluogi i wella’u perfformiad, ac mae aelodau sydd â hanes o berfformio’n dda nad oes angen rhyw lawer o gymorth arnynt, os o gwbl, yn cael dyraniad contract gwell ac yn talu’r ffi reoli isaf.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
At ei gilydd, mae cyfraddau llwyddiant cyfunol fframwaith y consortiwm yn dangos tuedd o welliant parhaus dros y pum mlynedd ddiwethaf o 73% yn 2009-2010 i 79% yn 2010-2011, 83% yn 2011-2012, 86% yn 2012-2013 ac 86% yn 2013-2014 yn erbyn cymaryddion cenedlaethol o 80% yn 2009-2010 ac 84% yn 2013-2014. Cyflawnwyd y gwelliant cyffredinol, sef 13 pwynt canran dros y cyfnod o bum mlynedd, o ganlyniad i ymroddiad aelodau’r consortiwm; datblygiad targedig mewn meysydd allweddol; buddsoddiad parhaus mewn cymorth i ddysgwyr; gweledigaeth, ymdrech ac egni gan arweinwyr; a methodoleg contract wedi’i seilio ar ansawdd.