Mynd i’r afael yn llwyddiannus â diffygion mewn addysgu

Arfer effeithiol

Sketty Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Sgeti yn Abertawe.  Ar hyn o bryd, mae 472 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, sy’n cael eu haddysgu mewn 15 dosbarth.  Mae 54 o’r rhain yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.

Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae llawer o ddisgyblion yn wyn Prydeinig.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 8% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Er 2012, mae’r ysgol wedi cael tri phennaeth parhaol gwahanol, yn ogystal â chyfnodau byr pan oedd pennaeth dros dro yn gyfrifol am arweinyddiaeth yr ysgol.  Dechreuodd pennaeth presennol yr ysgol ar y swydd ym mis Medi 2017. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Yn dilyn yr arolygiad craidd yn 2015, roedd angen i’r ysgol weithio’n strategol i fynd i’r afael â’r holl argymhellion.  Sylweddolodd arweinwyr fod y farn anfoddhaol ar gyfer addysgu yn gwneud hyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer gwella.  Yn benodol, roedd arweinwyr yn dra ymwybodol o’r angen i fynd i’r afael ag anghysondeb yn ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol.  Roedd y materion hyn yn cynnwys cynllunio aneffeithiol mewn lleiafrif o ddosbarthiadau.  Roedd hyn yn golygu bod gormod o achosion pan nad oedd disgyblion yn adeiladu ar eu dysgu blaenorol yn effeithiol gan eu bod yn derbyn gwersi nad oedd yn cynnwys gweithgareddau â’r lefel gywir o her.  Roedd gormod o amrywioldeb yn ansawdd yr adborth i ddisgyblion hefyd, a oedd yn golygu nad oeddent yn deall yn ddigon da sut i wella eu gwaith.  Nid oedd prosesau ar gyfer sicrhau cywirdeb asesiadau athrawon yn drylwyr.  Amlinellodd yr arweinwyr gynllun ar gyfer gwella.

Diwygiodd yr ysgol ei strwythur staffio gan ailddiffinio cyfrifoldebau arweinwyr.  Gwnaeth yn siŵr fod y rolau hyn yn cefnogi’r ysgol i gyflawni ei nodau strategol, sef argymhellion yr arolygiad ar y pryd.  Er enghraifft, daeth arweinwyr yn gyfrifol am gynnal arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a rhoi adborth proffesiynol i athrawon o dan eu rheolwyr llinell uniongyrchol.

I ddechrau, gweithiodd uwch arweinwyr gydag aelodau staff yr oedd angen cymorth arnynt fel rhan o system gyfeillion.  Galluogodd hyn y cydweithwyr i ddechrau ymweld ag ystafelloedd dosbarth ei gilydd i rannu arfer.  Ar yr adeg hon, roedd yn bwysig i’r ysgol ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o sut beth oedd addysgu da.  Fe ddechreuon nhw ddefnyddio pecyn canllawiau addysgu’r consortiwm rhanbarthol.  Gweithiodd uwch arweinwyr mewn parau i arsylwi gwersi.  Roedd hyn yn fuddiol wrth gynorthwyo uwch arweinwyr i gael deialog broffesiynol am agweddau ar arferion addysgu a llunio barnau cytûn am ansawdd yr addysgu.  Roedd yr arfer hon yn effeithiol hefyd wrth osod y sylfeini i athrawon fod yn ymarferwyr myfyriol.

Yn ystod yr ymweliad dilynol ym mis Mai 2016, nododd arolygwyr, ‘Mae arweinwyr ysgolion wedi defnyddio ffordd reolaidd a systematig o fonitro gwersi, sy’n cael ei wneud yn fewnol a chan y consortiwm rhanbarthol, i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yng ngwaith athrawon unigol.  Maent wedi defnyddio arweiniad a hyfforddiant gan yr awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol yn dda i gynyddu ystod y dulliau addysgu a datblygu gallu staff i fyfyrio’n feirniadol ar eu haddysgu eu hunain.’  Fodd bynnag, i rai o’r staff, roedd pwysau parhaus y barnau ac ystod eang iawn y disgwyliadau o fewn y fframwaith addysgu yn hynod anodd.  Gwelsant hyn yn fwy fel cadarnhad o’r hyn nad oeddent yn ei wneud yn dda.  Yn fwy diweddar, mae arweinwyr wedi cydnabod hyn, er enghraifft trwy ddefnyddio arsylwadau gwersi nad ydynt yn barnu, ond sy’n canolbwyntio ar nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. 

I ddatblygu disgwyliadau ac arfer gyson, gwnaeth uwch arweinwyr waith craffu gyda’u ‘cyfeillion’.  Roedd hyn yn ddefnyddiol, er enghraifft wrth fynd i’r afael ag anghysondebau mewn adborth ysgrifenedig i ddisgyblion.  Galluogodd staff i arfarnu p’un a oeddent yn gweithio yn unol â pholisi’r ysgol.  Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu’r arfer hon ymhellach trwy ddefnyddio strategaethau ychwanegol, fel marcio mewn ysgrifbinnau gwahanol liwiau i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella a thrwy adael tudalen wag ochr yn ochr â draff cychwynnol i ddisgyblion ymateb i farcio.  Erbyn hyn, mae’r her a gyflwynir gan farcio athrawon a’r trefniadau ar gyfer gosod targedau yn helpu disgyblion i wneud cynnydd yn unol â’u hanghenion a’u cyfnod datblygu.  Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn deall y systemau hyn ac yn ymateb yn dda iddynt. 

Ail-lansiodd yr ysgol ddefnydd o strategaethau eraill asesu ar gyfer dysgu a oedd wedi pylu dros gyfnod.  Roedd y rhain yn cynnwys cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion siarad â phartneriaid, er enghraifft i drafod dysgu blaenorol. 

Ar yr un adeg y cyflwynwyd y fframwaith addysgu, nododd yr ysgol fod angen ymweld ag ysgolion â pherfformiad uchel i arsylwi arfer effeithiol.  Aeth athrawon i ysgolion ar gyfer ymweliadau ffocysedig.  Buont yn gweithio ar strategaethau effeithiol i ddefnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer dysgu sy’n bodloni anghenion disgyblion yn llwyddiannus.  Fe wnaethant gyflwyno’r arfer hon yn dda mewn dosbarthiadau.  Er enghraifft, wrth gynllunio i addysgu disgyblion i ysgrifennu at wahanol ddibenion, mae athrawon yn defnyddio llyfrau o’r flwyddyn flaenorol fel man cychwyn.  Mae hyn yn galluogi athrawon a disgyblion i ddechrau o’r man cychwyn priodol trwy nodi beth wnaethant yn dda, er enghraifft yn eu darn diwethaf o ysgrifennu adrodd yn ôl, a’r hyn roedd angen iddynt ei wella’r tro nesaf.  Dros gyfnod, mae athrawon wedi mynd â’r dull hwn ymhellach trwy gyflwyno proses gosod targedau sy’n addas ar gyfer plant i gefnogi parhad a dilyniant mewn dysgu.  Mae’r arfer hon yn rhoi llais i ddisgyblion wrth asesu eu gwaith eu hunain yn erbyn meini prawf penodol ac wrth nodi sut gallant wella ymhellach.  Erbyn hyn, mae pob un o’r athrawon yn adolygu effaith y gwaith hwn yn rheolaidd i barhau i sicrhau cysondeb a rhannu arfer, er enghraifft mewn cyfarfodydd sector lle mae gwahanol adrannau’n cyfarfod i arfarnu eu gwaith.

Mae’r ysgol wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o addysgeg y cyfnod sylfaen.  Mae staff yn rhoi hyn ar waith yn gyson yn eu gwaith bob dydd.  Maent yn sicrhau bod cydbwysedd addas rhwng gweithgareddau wedi’u hysgogi gan blant a gweithgareddau wedi’u harwain gan oedolion yn y rhan fwyaf o sesiynau.  Mae athrawon yn gwneud defnydd effeithiol o strategaethau addysgu uniongyrchol, er enghraifft i addysgu medrau ysgrifennu cynnar.  Erbyn hyn, mae staff yn cynllunio gweithgareddau dysgu mewn meysydd darpariaeth barhaus yn dda ac yn gwella’r meysydd hyn yn briodol ar y cyfan gydag adnoddau sy’n ennyn diddordeb disgyblion.  Mae’r ysgol wedi datblygu adnoddau defnyddiol i addysgu disgyblion yn yr awyr agored.  Mae cyfleoedd hyfforddi gwerth chweil ar gyfer staff cymorth wedi cryfhau eu medrau holi ac wedi gwella eu gallu i ymyrryd yn nysgu disgyblion a’i wella ar adegau priodol. 

Mae’r ysgol wedi datblygu gallu staff i ddefnyddio cynlluniau penodol yn dda, er enghraifft i addysgu medrau darllen cynnar disgyblion a datblygu dealltwriaeth disgyblion o wahanol genres ysgrifennu.  I ddechrau, roedd yr ysgol yn defnyddio’r rhain fel offeryn i gefnogi cysondeb.  Fodd bynnag, mae’n dechrau gwneud defnydd craffach o’r adnoddau hyn.  Er enghraifft, mae athrawon yn dechrau eu defnyddio pan fydd angen yn hytrach na fel dull ‘un math sy’n addas i bawb’.  

Deilliannau

Mae trefniadau monitro mewnol yr ysgol yn nodi, o’u cyfuno, bod y gwaith hwn wedi gwella ansawdd yr addysgu fel bod llawer o wersi’n dda neu’n well.  Mae’r ysgol yn barnu nad oes unrhyw addysgu o safon anfoddhaol erbyn hyn.

Ceir cyd-ddealltwriaeth o beth sy’n gwneud addysgu da ac mae staff yn ymateb yn dda i ddisgwyliadau uchel.

Mae penderfyniadau strategol, fel staff yn gweithio fel cyfeillion a chyflwyno cyfarfodydd sector, wedi cynorthwyo’r staff i ddatblygu diwylliant o fyfyrio a rhannu.

Mae’r ysgol yn adeiladu’n dda ar y sylfeini hyn.  Mae’r pennaeth newydd wedi datblygu ethos tîm cryf mewn cyfnod byr iawn.  Mae strategaethau cynnil, fel y gystadleuaeth i greu dyluniad ar gyfer drysau ystafell ddosbarth, wedi helpu creu ethos tîm a chystadleuaeth iach.  Mae hi wedi newid y strwythur staffio i gynyddu gallu arwain, er enghraifft trwy gyflwyno swyddi cyfrifoldeb addysgu a dysgu.  Mae’n grymuso’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r athrawon i fyfyrio ar lwyddiannau wrth wella addysgu ac i sicrhau gwelliannau pellach.  Er enghraifft, mae hi wedi cyflwyno system newydd o arsylwadau fideo yn sensitif mewn ffordd gefnogol ac anfygythiol.  At ei gilydd, mae staff yn gadarnhaol ynglŷn â’r datblygiad hwn.  Maent yn awyddus i fyfyrio ar eu harfer broffesiynol eu hunain yn erbyn pecyn canllawiau addysgu cyhoeddedig i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu.  Ceir ymdeimlad cryf o berchnogaeth ac optimistiaeth ymhlith arweinwyr ac athrawon o ran sut bydd ansawdd yr addysgu yn gwella ymhellach o’r adeg hon. 

Mae’r ysgol eisoes wedi dechrau defnyddio’r safonau proffesiynol cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.  Mae’n defnyddio’r rhain yn briodol i gefnogi diwygio’r cwricwlwm yn ehangach, er enghraifft i ymgorffori’r 12 egwyddor addysgegol o Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn ei gwaith.  Ceir llawer o achosion o hyn; er enghraifft, gweithiodd yr ysgol â darparwr allanol i wella addysgeg y cyfnod sylfaen.  Arweiniodd hyn at hyfforddi pwrpasol ar y safle ar gyfer staff.  Gwelodd staff fod hyn yn fuddiol wrth ddatblygu eu darpariaeth barhaus a’u darpariaeth wedi ei chyfoethogi ac wrth wella medrau cynorthwywyr addysgu i ddefnyddio’r meysydd hyn gyda disgyblion.  Er enghraifft, yn ystod gweithgareddau rhifedd, roedd cynorthwywyr addysgu yn ei chael yn anodd datblygu medrau rhifedd disgyblion.  Trwy hyfforddi a chymorth, maent wedi datblygu ‘llinyn rhifedd aur’ yr wythnos, sy’n adeiladu ar fedrau y mae disgyblion wedi eu datblygu’r wythnos flaenorol mewn gweithgareddau addysgu uniongyrchol.  Mae arweinwyr wedi cydweithio â phartneriaid cymunedol i gynllunio profiadau dysgu mewn cyd-destunau dilys fel prosiect i wneud, marchnata a gwerthu sebon.  Mae’r cyfleoedd hyn yn cyfuno llawer o feysydd dysgu yn effeithiol ac yn herio disgyblion ar y lefel gywir.  Mae cyflwyno ‘Dw i’n meddwl bod’ wedi helpu medrau Cymraeg a Saesneg disgyblion.  Mae hefyd wedi dyfnhau gallu disgyblion i feddwl a mynegi eu teimladau am faterion a datblygu medrau creadigol, er enghraifft trwy ymateb i her i ddatblygu bar siocled newydd i Willy Wonka a disgrifio’r pwerau a allai fod ynddo. 

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Datblygu diwylliant o arfer fyfyriol ymhellach trwy ddefnyddio technoleg fideo
  • Cryfhau gallu uwch arweinwyr fel arsyllwyr addysgu fel y gallant ddarparu’r cymorth cywir i athrawon unigol sydd â gwahanol anghenion proffesiynol i’w helpu i wella
  • Adeiladu ar y defnydd cychwynnol o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i gefnogi addysgeg addysgu gwell a galluogi diwygio’r cwricwlwm yn effeithiol
  • Gwella darpariaeth i ddatblygu medrau digidol disgyblion

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn