Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, gan gynnwys datblygu’r ysgol gymunedol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn ysgol 11-16 oed cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Eastside, Abertawe. Mae 918 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 33% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae tua 10% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol i gymedrol. Mae lle i 20 disgybl yn y cyfleuster addysgu arbenigol.
Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cynnwys tua 47.4% o holl boblogaeth yr ysgol. Cyfran y disgyblion sydd â chynllun statudol o anghenion dysgu ychwanegol (Datganiad / Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal / CDU) yw tua 6% (gan gynnwys y cyfleuster addysgu arbenigol).
Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth (penodwyd yn 2017), y dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a dau uwch athro.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn blaenoriaethu cefnogi’r teuluoedd hynny o gymuned yr ysgol sy’n cael eu heffeithio gan dlodi. Mae dros 33% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n codi i 44% pan ystyrir gwarchodaeth drosiannol i Gredyd Cynhwysol, ac mae llawer o deuluoedd yn cael pethau’n anodd yn ariannol. Mae’r ysgol yn derbyn tua £319K o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion bob blwyddyn. Yn ychwanegol, mae 37.3% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ers tro, a’r prif ffocws yw datblygu’r ysgol yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned. Mae’r ysgol yn cynllunio pob agwedd ar ei darpariaeth les i sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol yn gallu cymryd rhan ym mhob maes o fywyd ysgol, gan gael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, agweddau at ddysgu a deilliannau. Mae codi dyheadau disgyblion a’u hannog i wneud cynnydd cadarnhaol yn eu dysgu yn flaenoriaeth allweddol i’r ysgol. Mae ffocws nodedig ar wella presenoldeb disgyblion a dealltwriaeth glir fod mynd i’r afael ag effaith tlodi yn ffactor allweddol wrth alluogi hyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, mae arweinwyr a staff bugeiliol yn cynllunio’n strategol i gefnogi’r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen yn effeithiol. Caiff strategaethau eu llywio gan ymchwil ac arfer orau, ond hefyd trwy arweinwyr a staff sy’n meddu ar wybodaeth leol helaeth am gymuned yr ysgol. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae disgyblion bregus, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn, ac yn ymgysylltu’n gadarnhaol yn yr ysgol, ar y cyfan.
Mae’r tîm bugeiliol wedi sicrhau ymgysylltiad cymunedol cryf. Mae cysylltiadau rhagorol rhwng y cartref a’r ysgol yn sail i gymuned yr ysgol, a pherthnasoedd cadarnhaol yn allweddol i lwyddiant meithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltu. Mae’r ysgol yn cyflogi tri Swyddog Cymorth Bugeiliol (SCB), a’u prif ffocws yw datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u teuluoedd. Mae hyn yn helpu’r ysgol i sicrhau gwelliannau mewn presenoldeb, lles a chyrhaeddiad. Mae’r tîm yn gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion i gyfyngu ar unrhyw rwystrau i’w dysgu. Mae’r Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn cysylltu gyda theuluoedd trwy alwadau ffôn rheolaidd, negeseuon testun, a chyfarfodydd. Pan fydd angen, mae Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn ymweld â chartrefi, ac maent yn allweddol wrth nodi tlodi fel rhwystr rhag dysgu. Mae’r Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn gweithio’n agos gyda Rheolwr Ysgol Cyfnod Allweddol 3, Rheolwr Dysgu Blwyddyn 9 a Rheolwr Ysgol Cyfnod Allweddol 4, sydd i gyd â baich addysgu ysgafn i’w galluogi i gynorthwyo disgyblion a theuluoedd yn ymarferol.
Mae’r ysgol hefyd yn cyflogi Rheolwr Lles sydd â chysylltiadau helaeth gyda’r gymuned ac asiantaethau allanol. Mae’n gweithio’n agos gyda dysgwyr mwyaf bregus yr ysgol a’u teuluoedd. Mae gwybodaeth leol y tîm bugeiliol am y gymuned a’i theuluoedd yn hanfodol i’w lwyddiant. Mae hyn yn helpu’r tîm i nodi a chyfeirio’r teuluoedd hynny sy’n cael trafferth â thlodi yn gynnar, gan ganiatáu ar gyfer cymorth ac ymyrraeth effeithiol.
Mae Cefn Hengoed yn cydweithio’n dda â’i hysgolion cynradd clwstwr a, gyda’i gilydd, maent yn defnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) yn effeithiol i gyflogi Swyddog Cymorth PDG Clwstwr. Mae’r Swyddog Cymorth PDG yn gweithio’n agos gyda phlant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar draws pob un o’r saith ysgol, gan ddileu rhwystrau rhag lles a dysgu disgyblion, yn ogystal â chefnogi pontio.
Mae’r ysgol wedi sefydlu cronfa les i’r ysgol. Mae staff, busnesau lleol a nifer fach o gyn-ddisgyblion sy’n llwyddiannus yn ariannol yn cyfrannu at y gronfa hon. Defnyddir hyn, ynghyd â digwyddiadau rheolaidd i godi arian, i ddarparu hamperi bwyd ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â thalebau tanwydd. Mae’r ysgol hefyd yn cefnogi’r teuluoedd hynny a disgyblion sy’n dioddef o galedi sylweddol oherwydd profedigaeth, trasiedi bersonol neu anaf corfforol. Mae gan y Rheolwr Lles gysylltiadau agos â banc bwyd lleol Eastside a gwasanaeth prydau bwyd ar ôl ysgol Eglwys Sant Thomas. Cyflwynir ‘Slipiau Lles’ bob pythefnos i bob un o’r disgyblion yn ystod gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae hyn yn rhoi cyfle cyfrinachol i ddysgwyr rannu eu gofidiau a’u pryderon â staff bugeiliol sydd wedyn yn gallu nodi materion nid yn unig yn gysylltiedig â thlodi, ond agweddau eraill ar les hefyd. Mae’r strategaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy wrth nodi disgyblion a theuluoedd sydd angen y cymorth mwyaf, ac mae’n allweddol i alluogi’r plentyn i ymgysylltu’n llawn â bywyd ysgol. Er enghraifft, mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys prynu gwisg ysgol, cit addysg gorfforol, offer ysgol, ac mae’n ymestyn i ddarparu nwyddau’r cartref fel dillad gwely a dodrefn mewn rhai achosion.
Mae’r ysgol yn gweithio’n ddiflino gyda’r gymuned leol mewn ymdrech i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau rhag dysgu, yn enwedig oherwydd effaith tlodi. Mae nifer fawr o blant yn byw o drwch blewyn y tu mewn i’r radiws 3 milltir, sy’n golygu eu bod yn methu cael cludiant am ddim, ac mae cerdded i’r ysgol yn her nodedig. I gynorthwyo â hyn, mae’r ysgol yn gweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid cymunedol pwysig, fel cynghorwyr cymuned lleol a darparwyr cludiant lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaeth bws am lai na hanner cost cludiant cyhoeddus. Mae hyn wedi helpu gwella presenoldeb a phrydlondeb disgyblion, yn ogystal â lleihau cost y diwrnod ysgol.
Mae’r ysgol yn parhau i gynnal clybiau brecwast llwyddiannus ar gyfer pob grŵp oedran. Mae Blwyddyn 7 yn derbyn gwasanaeth brecwast pwrpasol trwy bartneriaeth yr ysgol â gwasanaeth arlwyo’r awdurdod lleol, tra bod Blynyddoedd 8 i 11 yn gallu manteisio ar ddarpariaeth brecwast yn yr ysgol. Mae hwn yn gynnig brecwast fforddiadwy sy’n niwtral o ran cost, sy’n galluogi disgyblion i elwa ar fanteision brecwast maethlon. Mae hyn hefyd wedi cefnogi’r ysgol i wella prydlondeb ar ddechrau’r diwrnod ysgol.
Mae’r ysgol yn cynnig gwasanaeth adolygu helaeth y tu allan i oriau ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4. Mae nifer dda o ddisgyblion yn mynychu’r rhain. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 4 yn elwa ar gynigion adolygu dyddiol ar ôl yr ysgol o bynciau craidd a sylfaen fel ei gilydd. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn elwa ar ystod o glybiau gwaith cartref ar ôl yr ysgol, yn ogystal â gweithdai sydd wedi’u hanelu at gefnogi anghenion penodol fel dyslecsia. Mae staff yn yr ysgol yn cydlynu sesiynau adolygu yn ystod y gwyliau yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae hyn yn bennaf ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles a’u deilliannau. Cynhelir nifer o glybiau allgyrsiol ychwanegol hefyd sy’n cael eu mynychu’n dda gan bob grŵp o ddisgyblion.
Mae Siop Gyfnewid (Swap Shop) lwyddiannus yr ysgol i gyfnewid gwisg ysgol yn darparu gwisg ysgol a dillad hanfodol o ansawdd da, wedi’u hailgylchu, fel cotiau, esgidiau a bagiau ysgol. Caiff y Siop Gyfnewid ei hyrwyddo’n llwyddiannus ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac fe gaiff ei chefnogi’n dda gan grwpiau cymunedol lleol. Mae perthnasoedd gweithio cadarnhaol rhwng yr ysgol a’i chymuned leol wedi golygu bod camau sylweddol wedi cael eu cymryd i ddileu’r gwarth sy’n gysylltiedig ag ailgylchu gwisg ysgol, gan hyrwyddo’r Siop Gyfnewid yn hytrach fel menter gadarnhaol i leihau gwastraff a gwariant diangen i deuluoedd.
Mae’r ysgol yn cefnogi dysgwyr sydd wedi eu heithrio’n ddigidol trwy ddarparu Llyfrgell Gliniaduron arloesol wedi’u rhoi gan sefydliad lleol. Mae 75 dyfais ar gael i ddisgyblion o bob grŵp oedran am gyfnodau benthyca o hyd at hanner tymor. Cafwyd llawer o ymgysylltiad, gyda llawer o ddisgyblion yn elwa ar gyfle gwell i ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad disgyblion, ac o ran gwella’u medrau digidol.
Mae’r ysgol yn hyb i’r gymuned ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o’r herwydd. Mae’r rhain yn cynnwys Noson Wybodaeth TGAU Cyfnod Allweddol 4, Noson Helpu’ch Plentyn i Adolygu ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8, a rhaglen effeithiol o ddigwyddiadau pontio Cyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3. Yn ystod y pandemig, datblygodd yr ysgol gyfres arloesol o ddigwyddiadau cymunedol rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau addysgiadol ac addysgol yn archwilio testunau fel iechyd meddwl, aros yn ddiogel ar-lein, ac aflonyddu rhywiol a gorfodaeth. Caiff y rhain eu gwerthfawrogi’n dda gan y gymuned, ac maent wedi parhau i gael eu cynnig ar ôl y pandemig.
Mae arweinwyr yr ysgol wedi gwneud defnydd effeithiol o adroddiad Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gynllunio a thargedu darpariaeth briodol ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno Nosweithiau Diogelu Cymunedol sy’n addysgu disgyblion a’u teuluoedd am agweddau pwysig fel camddefnyddio sylweddau, bwyd iach a gweithgarwch corfforol, cwsg, ac amser sgrin a secstio. Yn ychwanegol, mae’r ysgol wedi cynnal gweithdai llwyddiannus ar gyfer rhieni a gofalwyr yn dangos sut i ddarparu prydau iach ar gyllideb. I gefnogi’r digwyddiadau hyn, mae’r ysgol wedi gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau allanol, fel Barod, YMCA, CAMHS, ei nyrs ysgol a swyddog yr heddlu yn y gymuned leol. Mae’r digwyddiadau yn rhyngweithiol ac yn cael eu cynnal yn ardaloedd defnydd cymunedol yr ysgol, ond maent hefyd yn cael eu recordio ac ar gael yn ddigidol er mwyn iddynt allu cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae’r ysgol yn cydnabod bod ymglymiad rhieni ym mhob agwedd ar addysg eu plentyn yn cael effaith bwerus ar eu cyrhaeddiad a’u lles.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r ysgol wedi defnyddio ymagwedd gymedrol ond rhagweithiol at ddatblygu’r amrywiaeth o ymyriadau i fynd i’r afael â thlodi. Mae wedi defnyddio barn disgyblion, er enghraifft trwy adroddiad Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ac wedi ymateb yn briodol, tra’n defnyddio asiantaethau allanol hefyd a chynnwys cymuned yr ysgol gyfan mewn datblygu’r ddarpariaeth.
Mae’r ysgol wedi ehangu ei chymorth ar gyfer disgyblion a theuluoedd sy’n cael trafferth â chostau byw trwy ddarpariaeth dargedig fel y Llyfrgell Gliniaduron a’r Siop Gyfnewid. Mae mentrau fel y Slipiau Lles bob pythefnos yn caniatáu mynediad cyfrinachol i ddisgyblion at gymorth ac arweiniad. Mae hyn yn ymestyn y ddarpariaeth fugeiliol, sydd eisoes yn gryf.
Mae effaith gyfunol yr amrywiaeth o fesurau a ddefnyddir gan yr ysgol yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ddyheadau a deilliannau’r disgyblion. Mae lleihau tlodi, tra’n datblygu cysylltiadau cymunedol, yn chwalu rhwystrau rhag dysgu, yn gwella lles ac yn datblygu agwedd gadarnhaol at ddysgu. Mae disgyblion yng Nghefn Hengoed yn ddysgwyr sy’n llawn cymhelliant ac yn wydn.
Gall disgyblion ddangos ymwybyddiaeth o fwyta’n iach yn gynyddol, a gallant fyfyrio ar eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl. Mae dysgwyr yn ymgysylltu â’r ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol, gan gynnwys y rhai a gynhelir yn ystod ac ar ôl yr ysgol. Maent yn manteisio ar y cymorth academaidd ychwanegol a gynigir. Mae hyn wedi cyfrannu at ddeilliannau sy’n gyson gryf.
Mae presenoldeb disgyblion, gan gynnwys presenoldeb grwpiau bregus a’r disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, wedi gwella gryn dipyn ac mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud cynnydd effeithiol, a’u cyrhaeddiad yn dda wrth iddynt symud ymlaen trwy’r ysgol. Mae disgyblion yn parchu safonau uchel yr ysgol, a dangosir hyn trwy eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol yn parhau i fod yn isel ac yn cymharu’n ffafriol â lefelau cyn y pandemig.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon trwy amrywiaeth o rwydweithiau proffesiynol o fewn yr awdurdod lleol, a’r tu hwnt.