Mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad disgyblion
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Hafod-y-Wern yn ardal Parc Caia yn Wrecsam. Mae’r ysgol yn darparu addysg i 276 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae chwe dosbarth oedran unigol, tri dosbarth oedran cymysg a dosbarth meithrin. Hefyd, mae dosbarth yr awdurdod lleol ag adnoddau i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu penodol. Mae bron i 56% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a chyfartaledd yr awdurdod lleol. Mae gan tua 25% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw bron pob un o’r disgyblion o gartrefi Saesneg eu hiaith ac mae ychydig iawn ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Nid oes yr un disgybl yn nodi ei fod yn siarad Cymraeg gartref. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Roedd angen i’r ysgol sicrhau bod dulliau ar waith i nodi a monitro effaith difreintedd ar gyrhaeddiad disgyblion.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Sefydlodd yr ysgol dîm ‘pryder a gweithredu’. Mae’r tîm yn cynnwys y gweithiwr cymdeithasol addysg, cymorth rhieni, gweithiwr cymorth bugeiliol a’r pennaeth. Mae’r tîm yn gwahodd nyrs yr ysgol a swyddog presenoldeb i gyfarfodydd, yn ôl yr angen. Mae’r tîm ‘pryder a gweithredu’ yn cyfarfod unwaith bob pythefnos. Fel ysgol mewn ardal o amddifadedd lluosog, mae’r grŵp o weithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd a gweithgareddau yn ystod yr wythnos ysgol. Mae’n hanfodol bod y tîm ‘pryder a gweithredu’ yn cyfarfod bob pythefnos i rannu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithgareddau. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae rhannu gwybodaeth yn aml yn esbonio pam y mae rhai disgyblion a rhieni yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Fel ysgol, rydym wedi datblygu dogfen yr ydym wedi ei galw’n ‘Matrics Dilyniant ac Asesu Ymgysylltiad’. Taenlen yw hon sy’n defnyddio’r penawdau canlynol i fapio anghenion disgyblion:
- canran presenoldeb
- presenoldeb awdurdodedig
- presenoldeb anawdurdodedig
- gwaharddiadau
- lefel anghenion ychwanegol
- sgorau profion safonol cenedlaethol Cymru ar gyfer Saesneg a rhifedd
- ymglymiad gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys amddiffyn plant
- plant mewn angen
- CAHMS
- tîm o amgylch y plentyn
- ymglymiad cymorth rhieni
- prydau ysgol am ddim
- plant sy’n derbyn gofal
- Saesneg fel iaith ychwanegol
Mae staff yn dyrannu sgôr ar gyfer pob un o’r penawdau. Mae’r sgôr hon yn dibynnu ar ei harwyddocâd o ran lles y plentyn; er enghraifft, bydd y gofrestr amddiffyn plant yn cofrestru sgôr uchel. Yna, mae’r daenlen yn rhoi’r holl ddisgyblion yn ôl trefn eu hanghenion. Mae’n hawdd diweddaru’r daenlen pan ddaw gwybodaeth newydd i’r amlwg neu pan fydd amgylchiadau’n newid.
Ar ddechrau bob tymor, mae staff yn defnyddio’r ddogfen yn y cyfarfod ‘pryder a gweithredu’ i nodi anghenion disgyblion unigol. Mae’r tîm yn gweithio trwy bob dosbarth unigol i sicrhau eu bod yn craffu ar bob disgybl o ran anghenion posibl. Yna, mae’r tîm yn defnyddio ffurflen monitro dosbarth â phenawdau cyfatebol, ac yn amlygu anghenion penodol disgyblion fel coch, oren neu wyrdd. Pan fydd staff yn nodi lefel benodol o angen yn ystod y cyfarfod, bydd y tîm yn cytuno ar gamau gweithredu penodol i gynorthwyo’r disgybl neu’r teulu.
O’r cyfarfod, gellir cymryd y camau canlynol
Cymorth i’r teulu:
- rhoi gwybod i athrawon am unrhyw broblemau
- cysylltu â’r rhieni
- cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
- trefnu cyfarfodydd ‘tîm o amgylch y plentyn’
- trefnu ymweliad gan weithiwr cymdeithasol addysg
- trefnu ymweliad/cyfarfod cymorth rhieni
- trefnu cymorth bugeiliol
Cymorth i’r plentyn:
- llunio cynllun addysg unigol
- llunio cynllun ymddygiad unigol
- trefnu cyfarfod rhwng yr athro/athrawes/rhiant a’r plentyn
- trefnu i ymgynghorydd cymorth rhieni weithio gyda’r plentyn
- trefnu mentora 1:1 neu gymorth grŵp gyda gweithiwr cymorth bugeiliol yr ysgol
- trefnu sesiynau mentora yn y gymuned leol
- trefnu cwnsela â chwnsler mewnol yr ysgol
- trefnu grŵp gofalwyr ifanc yn yr ysgol
- trefnu rhaglen cymorth disgyblion – RhCD
- trefnu grŵp mentora pysgota
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae cyflwyno a chyflogi ymgynghorydd cymorth rhieni a gweithiwr cymorth bugeiliol yn yr ysgol wedi cael effaith fawr. Erbyn hyn, mae perthynas gadarnhaol â nifer fawr o rieni a gofalwyr yn yr ysgol. Gall y gweithiwr cymorth rhieni ymgysylltu â theuluoedd ar sawl lefel a chynnwys lles a chyrhaeddiad addysgol y plentyn fel rhan o weithgareddau mewn grwpiau bach. Mae grŵp ffynnu yn cyfarfod bob wythnos yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae’r berthynas y mae’r ymgynghorydd cymorth rhieni wedi ei meithrin â rhieni yn galluogi’r ysgol i fynd i’r afael ag ystod o faterion mewn modd cadarnhaol.
Gall y gweithiwr cymorth bugeiliol weithio gyda disgyblion sy’n agored i niwed i sicrhau y cânt eu paratoi’n dda i weithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, er mwyn helpu i ddatrys problemau a all fod yn dylanwadu ar ymddygiad disgyblion yn yr ysgol. Mae’r gweithiwr cymorth bugeiliol yn defnyddio ystod eang o strategaethau ymyrraeth a gweithgareddau grŵp yn dda i ddatblygu hyder a mynd i’r afael ag anghenion unigol. Mae adnabod anghenion ac ymyriadau penodol yn gynnar yn sicrhau bod problemau’n llai tebygol o waethygu ac effeithio ar gyrhaeddiad y plentyn.
Rydym wedi datblygu grŵp mentora pysgota a, thros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi addysgu dros 260 o ddisgyblion i bysgota. Rydym wedi meithrin cysylltiadau agos â physgodfa pysgod bras leol y mae un o gyn-ddisgyblion yr ysgol yn berchen arni. Rydym yn mynd â grwpiau o ddisgyblion i bysgota am un prynhawn yr wythnos, dros gyfnod o chwe wythnos. Mae’r pennaeth, y gweithiwr cymorth bugeiliol a dau lywodraethwr yn defnyddio’r sesiynau i ennyn diddordeb disgyblion yn y gweithgaredd, addysgu medrau technegol pysgota iddynt, cymryd rhan mewn gweithgaredd ag aelodau’r gymuned leol a chael profiad o weithgaredd awyr agored. Rydym yn pysgota ym mhob tywydd trwy gydol y flwyddyn. Caiff y grŵp ei ddewis o’r cyfarfodydd pryder a gweithredu, ond hefyd mae pob disgybl ym mlwyddyn chwech yn cymryd rhan trwy gydol y flwyddyn ysgol. Rydym yn cynnal y sesiynau bob prynhawn dydd Gwener. Mae hyn yn gymhelliant i’r disgyblion weithio’n galed ac ymddwyn yn dda trwy gydol yr wythnos er mwyn sicrhau eu bod yn cadw eu lle ar y cwrs. Mae llawer o ddisgyblion wedi dechrau pysgota fel diddordeb y tu allan i’r ysgol.
Presenoldeb:
Y ffigur presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf yw’r ffigur uchaf ers i’r ysgolion uno yn 2007.
Gwaharddiadau am gyfnod penodol:
Ni fu unrhyw waharddiadau am gyfnod penodol yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Hwn yw’r tro cyntaf na fu unrhyw waharddiadau ers i’r ysgolion uno yn 2007.
Safonau:
Y safonau mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15 yw’r uchaf ers i’r ysgolion uno yn 2007.
Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?
Rhannwyd arfer dda trwy ein cysylltiadau ag ysgolion yn Sir y Fflint ac o fewn awdurdod lleol Wrecsam.