Mynd i’r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill – Gorffennaf 2011
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- ddatblygu dull mwy systematig o wella safonau dysgwyr dan anfantais;
- gwneud yn siŵr bod y cwricwlwm cyfan, yn cynnwys darpariaeth y tu allan i oriau, yn cefnogi anghenion dysgwyr dan anfantais;
- gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu atebion i broblemau anfantais; ac
- arfarnu effaith strategaethau i fynd i’r afael ag anfantais ar gyflawniad dysgwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
- herio a chefnogi ysgolion i ddefnyddio data i nodi a monitro cynnydd dysgwyr dan anfantais; a
- datblygu systemau i rannu gwybodaeth am ddysgwyr dan anfantais gydag ysgolion ac ar draws gwasanaethau.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno ar gylch gwaith mwy penodol ar gyfer ysgolion bro.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.