Mynd ag addysgu allan i’r awyr agored

Arfer effeithiol

Crwys Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol bentref, Fictoraidd draddodiadol yw Ysgol y Crwys, sydd wedi’i lleoli yng nghanol pentref Y Crwys, y porth i Benrhyn Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU.  Er nad oes mannau gwyrdd yn yr ysgol, mae’n ffodus bod dwy ardal goetir gerllaw.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae digon o dystiolaeth hysbys fod plant iachach a hapusach yn gwneud yn well yn yr ysgol.  Mae’r amgylchedd awyr agored yn annog medrau fel datrys problemau ac ystyried risg, sy’n bwysig ar gyfer datblygiad y plentyn.  Mae medrau eraill sy’n cael eu datblygu yn cynnwys: medrau rhyngbersonol a chymdeithasol disgyblion, eu gwybodaeth am ysgolion iach, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd.  Mae hefyd yn sbarduno eu meddyliau ac yn creu ffocws neu symbyliadau ar gyfer gwaith dosbarth, yn ogystal â datblygu’r medrau allweddol.  Mae hyn i gyd yn berthnasol iawn wrth greu cwricwlwm newydd i Gymru.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae pob un o’r disgyblion yn Ysgol y Crwys yn treulio o leiaf hanner diwrnod mewn coetir cyfagos yn mwynhau’r awyr agored bob wythnos trwy gydol y flwyddyn.  I ddechrau, roedd arfer a phrofiadau yn gyfyngedig.  Fodd bynnag, mae datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol wedi arwain at gynyddu hyder athrawon.  O ganlyniad, mae addysgeg ac arfer fwy amrywiol wedi esblygu, ac erbyn hyn, mae’r cwricwlwm cyfan wedi’i addasu fel bod modd ei addysgu yn yr awyr agored.  Mae themâu a ddewiswyd yn ofalus yn sicrhau bod yr ymdriniaeth yn eang, yn gytbwys, yn amrywiol ac yn briodol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ddadansoddi holiaduron i ddisgyblion a rhieni, dangosir bod y ffocws cynyddol ar ddysgu yn yr awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar les disgyblion, a’u mwynhad o’r ysgol, yn ogystal â’u hagweddau at ddysgu.  Aeth yr ysgol at Rwydwaith HAPPEN sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, a gynhaliodd astudiaeth ansoddol ar effaith ffocws cynyddol yr ysgol ar ddysgu yn yr awyr agored ar ddisgyblion a staff.  Canfu eu canfyddiadau fod y dull yn cael effaith gadarnhaol ar les staff.    Elfen bwysig oedd bod athrawon wedi sôn am foddhad cynyddol yn eu swydd, ac roeddent yn teimlo mai “dyna’n union pam rydw i’n athro/athrawes”.  Mae’r astudiaeth hon, sef;  https://t.co/h7czGtRjkV, wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang, o Ogledd America a Chanada, i Dde Cymru Newydd yn Awstralia.  Yn ychwanegol, mae safonau academaidd uchel yr ysgol wedi cael eu cynnal a’u gwella.  Mae presenoldeb ysgol gyfan wedi codi i bron 97%.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Yn unol â chais Cyfarwyddwr Addysg yr awdurdod lleol, mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda â holl ysgolion Abertawe, ac wedi creu Cymuned Ddysgu Broffesiynol o’r enw Ysgolion Awyr Agored Abertawe (Swansea Outdoor Schools), sy’n cynnwys nifer o ymgynghorwyr a phartneriaid strategol.  Erbyn hyn, mae’r grŵp yn gweithio gyda nifer fawr o ysgolion ar draws yr awdurdod er mwyn eu cynghori/cynorthwyo.  Yn fwy diweddar, mae Ysgol y Crwys wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol trwy gyllid Erasmus+.  Mae’r prosiect, o’r enw ‘Mae Disgyblion Hapus yn Creu Dysgwyr Hapus’ (‘Happy Pupils Make Happy Learners’), yn dod ag ysgolion o Gymru, Iwerddon, Yr Eidal, Y Ffindir a Sweden at ei gilydd er mwyn cael cipolygon newydd ar ddulliau addysgu a dysgu, gan rannu arfer dda ar hyd y ffordd.