Monitro profiad y dysgwr
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector
Tyfodd contractau ITEC 100% yn Awst 2011. Yn ystod y cyfnod twf hwn, roedd profiad a deilliannau dysgwyr o’r pwys mwyaf ac yn cyd-fynd â’r Strategaeth Cynnwys Dysgwyr, felly roedd angen system adrodd weithredol a oedd yn ein galluogi ni i weld hyn yn ganolog – yn uniongyrchol oddi wrth y dysgwr. Roedd cynnal profiad cadarn i ddysgwyr yn allweddol ar gyfer cynyddu boddhad cyffredinol dysgwyr, lefelau cadw, dilyniant a deilliannau. Hefyd, yn sgil y cynnydd yn nifer y dysgwyr a’r ehangu dilynol i’n cadwyn gyflenwi, byddai angen i unrhyw system newydd gael ei darparu ar draws y gadwyn gyflenwi.
Roedd angen system:
a. a fyddai’n galluogi ITEC i weld y data diweddaraf oll am brofiad y dysgwr
b. a fyddai’n hawdd ei mabwysiadu’n gyson ar draws y gadwyn gyflenwi
c. na fyddai’n cael ei chyfyngu gan ddaearyddiaeth na materion hygyrchedd
ch. a fyddai’n gallu cael ei defnyddio ar draws pob rhaglen
d. a fyddai’n caniatáu i ni archwilio data am ddysgwyr yn ganolog i edrych ar batrymau, ymateb i dueddiadau ac amlygu grwpiau neu unigolion nad oeddent yn derbyn y profiad gorau posibl.
dd. a fyddai’n gydnaws â phroses Llais y Dysgwr, neu y gellid ei chymharu’n hawdd â’r broses hon.
Cytunwyd bod dull tryloyw, effeithiol ac a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad yn angenrheidiol. Datblygwyd cysyniad ‘IDRIS’ – ITEC Data Responsiveness Internal Survey System, a oedd yn caniatáu am ddatblygu system berfformio, ar y we, gan ddileu rhwystrau rhag mynediad a mynd i’r afael â chyfyngiadau o ran amser ac adnoddau. Mae’r system yn darparu gwybodaeth gyfredol am foddhad a chyfraddau ymateb ar gyfer pob rhaglen.
Erbyn hyn, mae’r system yn cynnwys partneriaid presennol i sicrhau safoni a sicrhau ein bod yn gallu cael golwg gyfannol gyfredol a mesur cyfraddau boddhad ar gyfer ITEC.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
1. Mae IDRIS yn system aml-lwyfan yn ymwneud â phrofiad dysgwyr ac mae’n darparu data byw i fonitro ansawdd dysgu.
2. Ar yr wyneb, mae’n feddalwedd hwylus i’r defnyddiwr, sy’n sicrhau adborth diffuant gan ddysgwyr trwy gyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais symudol.
3. Gofynnir i ddysgwyr roi eu hadborth drwy IDRIS ar dair adeg yn ystod eu taith fel dysgwyr (cyfnod sefydlu, canol y tymor ac adeg gadael) ac mae fforymau rheolaidd i ddysgwyr yn eu cefnogi.
4. Mae’r offeryn yn caniatáu am gyfuno data i fwrw golwg ar dueddiadau yn ogystal â chaniatáu i ddysgwyr roi sylwadau penodol ar eu profiad.
5. Mae’r data yn cael ei adolygu a’i drafod ym mhob cyfarfod o’r uwch dîm rheoli, gan weithredu pryd bynnag y bydd angen yn dod i’r amlwg.
6. Mae IDRIS ar gael yn Gymraeg hefyd. Mae lefel o gysondeb â phroses Llais y Dysgwr wedi’i darparu i IDRIS o ran cwestiynau a chategorïau. Mae hyn yn galluogi i ITEC a’r isgontractwyr sy’n bartneriaid iddo feincnodi o gymharu â’i gilydd ac ar draws rhwydwaith cyfan Cymru.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Y prif feysydd i’w gwella a nodwyd ar draws arfarniadau mewnol IDRIS:
- Swm ac Ansawdd yr offer / adnoddau sydd ar gael mewn canolfannau
- Gwybodaeth a roddwyd am yr opsiynau sydd ar gael ar ôl cwblhau rhaglen
- Adborth i ddysgwyr ar eu safbwyntiau
- Sicrhau bod hyfforddiant yn berthnasol, neu fod dysgwyr yn deall diben meysydd penodol o fewn eu dysgu
Newidiadau a wnaed gan ITEC ers datblygu IDRIS – Ar draws y ddarpariaeth
- IDRIS yn fyw – yn yr holl ddarpariaeth, gan gynnwys partneriaid
- Rolau ychwanegol – Cydlynydd Pontio
- Newidiadau i adeiladau – Cwmbrân / Pen-y-bont ar Ogwr
- Offer TG newydd i bob canolfan
- CSD – Canolfannau Storio Dysgwyr
- Peilot o gwricwlwm ymgysylltu newydd, yn cynnwys pecynnau cynlluniau dysgu unigol a dysgu cyfunol
- Recriwtio tiwtoriaid – defnyddio micro addysgu ymhellach
- Gwelliant i ddogfennau a phroses Taith y Dysgwr, gan gynnwys cyfnod sefydlu a ‘fideo’ ar gwnsela
- Diwrnodau datblygu partneriaid a rhannu arfer orau
Newidiadau a wnaed gan ITEC ers datblygu IDRIS – Yn lleol
- Treialu cynrychiolwyr dysgu (Llwynypia)
- Oriau presenoldeb sy’n addas ar gyfer trefniadau teithio
- Clybiau brecwast a boreau coffi
- Digwyddiadau chwaraeon ac ymweliadau diwylliannol
- Mwy o siaradwyr gwadd
- Newid strwythur i atal gorlenwi
- ‘Diwrnodau’ Cymraeg, diwrnodau ADCDF
- Datblygu gweithdai
- Setiau teledu ac offer
- Teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol
Asesiad o Effaith
Mae IDRIS wedi’i alinio â chwestiynau Llais y Dysgwr, felly gallwn fesur / meincnodi yn erbyn canlyniadau Llais y Dysgwr. Er bod ITEC wedi cael canlyniadau da yn Llais y Dysgwr 2013, dangosodd y canlyniadau fod canran y sgorau da iawn a gafwyd islaw cyfartaledd y sector. Mae Asesiad o Effaith wedi dangos bod defnyddio IDRIS i amlygu’r gwelliannau gofynnol a gweithredu newidiadau yn sgil hynny wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddarpariaeth ITEC a’r safonau a gyflawnir gan ein dysgwyr, gan wella ein proffil sgorau da iawn:
Darpariaeth
Trwy ddefnyddio’r canlyniadau o IDRIS dros gyfnod 5 mis rhwng Hydref 2013 ac Ionawr 2014, mesurwyd y cynnydd canlynol yng nghanran y dysgwyr sy’n rhoi sgôr Da Iawn:-
Y prif feysydd i’w gwella a nodwyd trwy arfarniadau IDRIS yn fewnol a’r cynnydd yng nghanran y sgorau da iawn a roddwyd:
- Swm ac ansawdd yr offer / adnoddau sydd ar gael mewn canolfannau – cynnydd o 19%
- Gwybodaeth a roddir ar yr opsiynau sydd ar gael ar ôl cwblhau rhaglen – cynnydd o 10.5%
- Adborth i ddysgwyr ar eu safbwyntiau – cynnydd o 8%
- Sicrhau bod hyfforddiant yn berthnasol, neu fod dysgwyr yn deall diben meysydd penodol o fewn eu dysgu – cynnydd o 28.4%
At hynny, wrth adolygu holl brif feysydd Llais y Dysgwr / IDRIS, mesurwyd y cynnydd cadarnhaol canlynol yng nghanran y sgorau da iawn:-
- Gwybodaeth a Chyngor – cynnydd o 12%
- Cymorth (Cymorth Dysgu Ychwanegol) – cynnydd o 24.4%
- Cymorth (materion personol) – cynnydd o 7.6%
- Ymatebolrwydd – cynnydd o 1.2%
- Iechyd a Lles – cynnydd o 3.3%
- Addysgu a Hyfforddi at ei gilydd – cynnydd o 25%
- Addysgu a Hyfforddi (amser un i un) – cynnydd o 36.2%
- Addysgu a Hyfforddi (gwrando) – cynnydd o 3.3%
- Sgôr gyffredinol ar gyfer y ddarpariaeth – cynnydd o 28.6%
- Wedi bodloni disgwyliadau – cynnydd o 23%
Safonau
- Mae 594 o ddysgwyr wedi cwblhau arfarniadau ar safle IDRIS, 129 ohonynt wedi gorffen. Y PPR ar gyfer y garfan hon o ddysgwyr yw 72.5% o gymharu â 61% ar gyfer y garfan gyfan.
- ASR y dysgwyr hynny sydd wedi gorffen ac sydd wedi bod yn rhan o strategaeth ymatebolrwydd ITEC ac wedi cwblhau o leiaf 1 rhan o Arfarniad y Dysgwr yn IDRIS:-
- Ymgysylltu – 90.9% (o gymharu â 70.5% yn gyfan gwbl)
- Hyfforddeiaeth Lefel 1 – 69.8% (o gymharu â 56% yn gyfan gwbl)
- Camau- 57.8% (o gymharu â 62.4% yn gyfan gwbl)
- Cyfathrebiadau ASR ESW y dysgwyr hynny sydd wedi gorffen ac sydd wedi bod yn rhan o strategaeth ymatebolrwydd ITEC ac wedi cwblhau o leiaf 1 rhan o Arfarniad y Dysgwr yn IDRIS:-
- Ymgysylltu – 100% (o gymharu â 67% yn gyfan gwbl)
- Hyfforddeiaeth Lefel 1 – 72.7% (o gymharu â 67.5% yn gyfan gwbl)
- Camau – 63.2% (o gymharu â 66.4% yn gyfan gwbl)
- Rôl y cydlynydd pontio – o ganlyniad i’r cymorth / arweiniad a gynigiwyd gan y rôl newydd, mae’r gyfradd bresenoldeb ar gyfer y garfan hon o ddysgwyr yn Llwynypia wedi cynyddu o 46% i 89%. (gweler hefyd y mesuriadau cymorth uchod)
Y ffordd ymlaen:
Mae cynlluniau ar waith i ymestyn a datblygu system IDRIS ymhellach:-
- Ymestyn y defnydd o IDRIS i systemau Arfarnu Cyflogwyr a Rhanddeiliaid
- Ymestyn y defnydd o holiadur IDRIS ar ffonau symudol i’r ddarpariaeth NEET anodd ei chyrraedd ac i ddarpariaeth arall heblaw darpariaeth Llywodraeth Cymru
- Ymestyn systemau adborth fel eu bod yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol pellach e.e. Facebook a dulliau testun
- Dadansoddi tueddiadau a meincnodi data yn barhaus (digonoldeb y data)
- Cymharu a meincnodi yn erbyn canlyniadau newydd Llais y Dysgwr
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu arfer dda?
Mae System IDRIS ITEC wedi’i datblygu ymhellach er mwyn i bob is-gontractwr Prentisiaethau / Partner ei defnyddio’n allanol.
Mae ITEC yn gweithio gyda naw phrif bartner. Mae ein modiwl ar gyfer prif gontractwr wedi’i sefydlu ar dri ffactor craidd – perfformiad, ansawdd a datblygiad. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid.
Ein partneriaid presennol:
MVRRS – De Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
LMJ – De Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli
Plato – Gogledd Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adwerthu, Gweinyddu, Rheoli
ELT – De Cymru: Rheoli
PTAS – Cymru’n genedlaethol: Trenau
Rossett – Cymru’n genedlaethol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal plant
ISA – De Cymru: Trin Gwallt a Harddwch
Bwrdd Iechyd ABM – De Cymru: Gweinyddu
Cafodd y system ei harddangos i bob partner trwy ddiwrnodau rhannu ymarfer a datblygu ITEC, ac roedd staff ITEC wrth law i roi cymorth i bob is-gontractwr wrth iddynt roi’r system ar brawf yn eu sefydliadau eu hunain. Mae’r system yn adlewyrchu Llais y Dysgwr ac arfarniadau mewnol sy’n galluogi’r is-gontractwyr sy’n bartneriaid i ni feincnodi eu sgorau boddhad dysgwyr nid yn unig yn erbyn eu sgorau eu hunain ond sgorau eraill ar draws rhwydwaith Cymru gyfan.
Mae’r data byw’n cael ei ddadansoddi fesul is-gontractwr / partner ar ffurf siartiau boddhad i bob pwnc, cyfraddau ymateb a rhestri cynllunio misol i helpu partneriaid i flaengynllunio ar gyfer dal data. Gellir mynd at sylwadau dysgwyr trwy adroddiad sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am gyfraddau boddhad dysgwyr. Gall yr adroddiadau hyn gael eu dadansoddi fesul rhaglen, yn ôl oedran / rhyw / ethnigrwydd, ac yn ôl dyddiadau, fel y gellir cymharu ac integreiddio data. Mae’n bosibl mynd at ddata ar ymatebolrwydd trwy system Porth Partneriaid ‘byw’ ITEC ar y fewnrwyd.