Meithrin teithiau dysgu disgyblion yn annog gwydnwch ac yn dathlu gwreiddioldeb
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Yn 2014, wrth edrych yn wrthrychol ar y ddarpariaeth a safonau yn yr ysgol, roedd yn amlwg i’r arweinwyr, er bod safonau’r ysgol yn uchel, fod tuedd i feithrin disgyblion a oedd yn gweithio yn arbennig o dda o fewn ffiniau cyfyng y gwersi; gwersi a oedd i raddau yn disgwyl i ddisgyblion ymateb mewn un ffordd benodol. Aeth yr ysgol ati i wrthdroi’r drefn gynllunio, drwy roi’r ffocws yn fwy ar y daith addysgol yn hytrach na’r gwaith gorffenedig ar brydiau. Hefyd dangosodd profion cenedlaethol rhesymu nad oedd gan ddisgyblion y gwydnwch i ddyfalbarhau ar dasgau penodol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae datblygu disgyblion annibynnol yn yr ysgol yn dechrau yn y dosbarth meithrin. Yno, mae cynllunio gofalus a bwriadus, yn ogystal ȃ disgwyliadau uchel, yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu medrau ac ymarfer mewn ardaloedd penodol heb ymyrraeth oedolion. Mae hyfforddi staff i ‘gamu nôl’ a gadael i ddisgyblion fwrw ymlaen wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu’r annibyniaeth yn y blynyddoedd cynnar.
Mae’r annibyniaeth hwn yn datblygu ac yn dyfnhau yn y dosbarth derbyn, ble mae athrawon a chymorthyddion yn cynllunio gweithgareddau heriol ac ysgogol, gan sicrhau fod cyfleoedd i ddisgyblion weithio yn annibynnol yn flaenoriaeth gyson. Mae’r ardal tu allan yn rhan greiddiol, ble mae darparu rhyddid ac ehangder yn creu awyrgylch sydd yn meithrin annibyniaeth y disgyblion. Mae parodrwydd staff i annog a chymell yn hytrach na chymryd rôl rhy arweiniol yn datblygu disgyblion sy’n hyderus i fentro.
Ym Mlynyddoedd 1 a 2 datblygir y disgyblion fwyfwy drwy gynyddu’r her fel bod llwyddiant yn creu ymdeimlad o falchder, ond yn bwysicach yn codi’r cwestiwn o be nesaf. Tra ar y llaw arall, mae methiant yn cael ei ystyried fel llwybr tuag at lwyddiant. Drwy gynllunio gwaith ar wahanol lefelau o her a magu aeddfedrwydd y disgyblion i ddewis lefel priodol o her maent yn gosod sail gadarn i weddill yr ysgol. Mae’r disgyblion yn datblygu’r parodrwydd i ddewis tasg heriol sydd yn greiddiol i ddatblygu eu hannibyniaeth. Mae’r disgyblion mwy hyderus wrth lithro’n rhwydd o un lefel her i’r llall. Bydd disgyblion yn aml yn defnyddio un lefel her i ymarfer medrau ac i’w hatgoffa o sgiliau angenrheidiol i’r dasg cyn iddynt ymgeisio am lefel anoddach o her, er mwyn adeiladu tuag at lwyddiant.
Yng nghyfnod allweddol 2, mae gweithdrefnau fel ‘fi bia’r dewis’ a ‘dewis doeth’ yn ymestyn annibyniaeth y disgyblion. Mewn tasg ‘dewis doeth’ mae disgyblion yn cael y rhyddid i ddewis sut i ymateb i bwnc, sylwad neu nod penodol. Mae’r dull o ymateb yn gwbl benagored gan roi rhyddid i’r disgyblion ymateb mewn unrhyw ffordd o’u dewis. Caiff disgyblion yn aml y dewis i ymateb mewn parau, grŵp neu yn unigol. Mae’r athrawon yn monitro’n ofalus, yn enwedig ym mlynyddoedd cyntaf cyfnod allweddol 2, er mwyn sicrhau bod disgyblion yn amrywio eu dulliau ymateb. Rhoddai sesiynau ‘fi bia’r dewis’ gyfnodau i ddisgyblion ymarfer sgiliau a medrau penodol mewn amrywiaeth o dasgau. Ceir cyfoeth o dasgau ble bydd disgwyl i ddisgybl herio ei hun ac maent yn sylweddoli yn gyflym mai dyfalbarhau yw un o brif amcanion y tasgau.
Erbyn brig yr ysgol, mae sesiynau ‘Awr Athrylith’ yn rhoi amser rhydd wythnosol i ddisgyblion weithio ar brosiect personol. Seilir hyn ar weithdrefnau cwmni enwog sydd yn rhoi 10% o amser i’w gweithwyr i weithio ar eu prosiectau eu hunain, ac o’r 10% mae nifer fawr o ddatblygiadau mwyaf adnabyddus y cwmni wedi gwreiddio. Rheol aur yr ‘Awr Athrylith’ yw eu bod yn gweithio ar brosiect ar gyfer cynulleidfa. Mae gwaith o safon uchel iawn wedi ei greu yn ystod y cyfnodau yma, fel llawlyfr dysgu nofio a phrosiect i ddysgu disgyblion y cyfnod sylfaen i animeiddio.
Mae’r magu annibyniaeth yn dwyn ffrwyth ar ei fwyaf amlwg wrth weld disgyblion ar frig yr ysgol yn dilyn eu llwybrau dysgu eu hunain. Ar ddechrau uned o waith mae’r athro yn cyflwyno uchafbwynt yr uned i’r disgyblion, sef beth fydd y dasg ysgrifennu estynedig ac mae’r disgyblion yn mynd ati i gynllunio eu llwybr tuag at y dasg honno, gyda nifer fawr o’r disgyblion yn llwyddo i nodi pa fedrau a thargedau personol y byddant yn eu targedu yn ystod yr uned. Mae hyn yn rhoi perchnogaeth lawn i’r disgyblion dros unedau cyfan o waith.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae effaith amlwg ar y dysgwyr yn yr ysgol. Mae’r safonau wedi parhau yn uchel, ond mae dygnwch a dyfalbarhad y disgyblion i weithio ar dasg ac i wirio eu gwaith a gwaith eu cyfoedion tra yn eu harfogi i ymateb yn bositif i bob her a wynebant yn dangos effaith y ddarpariaeth yn glir. Mae hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar greadigrwydd y disgyblion gan greu ethos o ddathlu a pharchu gwreiddioldeb.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae ymgynghorwyr cefnogi GwE wedi nodi cryfder yr agwedd hon yn yr ysgol. Mae’r arfer wedi ei ledaenu yn eang ymysg ysgolion Gwynedd a Môn, ac mae nifer o ysgolion wedi dod i weld gwahanol agweddau o’r cynllunio a threfniadaeth yr ysgol.