Meithrin perthnasoedd gwaith i gefnogi anghenion disgyblion

Arfer effeithiol

Teresa House


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Teresa House yn ysgol arbennig annibynnol mewn lleoliad gwledig ar arfordir Gogledd Cymru.  Mae’r ysgol yn darparu addysg, gofal a therapi ar gyfer disgyblion rhwng  11 ac 18 oed.  Perchennog yr ysgol yw Care4Children, sef asiantaeth gwasanaethau arbenigol i blant sydd â 10 ysgol arbennig annibynnol ledled Cymru a Lloegr. 
Mae disgyblion sy’n mynychu Teresa House i gyd yn breswylwyr yn y cartref plant cysylltiedig sy’n rhannu’r safle.

Cydweithio hynod effeithiol rhwng tîm amlddisgyblaethol a staff addysgu’r ysgol

Yn Teresa House, mae’r tîm amlddisgyblaethol yn gweithio’n agos â staff addysgu i roi rhaglen ‘lles am oes’ yr ysgol ar waith.  Mae’r rhaglen hon yn darparu asesiadau defnyddiol ar ddatblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion.  Mae staff yn defnyddio’r wybodaeth hon i gefnogi dysgu disgyblion ar draws holl feysydd y cwricwlwm.  Wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy dri cham y rhaglen, mae cyfarfodydd amlddisgyblaethol yn sicrhau bod disgyblion yn ymgysylltu ac yn cyflawni.  Mae hyn yn creu perthynas waith effeithiol rhwng staff addysg, therapi a gofal, ac yn cefnogi anghenion penodol pob disgybl.
Mae’r rhaglen ‘lles am oes’ yn ategu cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yr ysgol, ac yn llywio’r testunau yr ymdrinnir â nhw mewn sesiynau un-i-un gyda disgyblion.  Mae cyrsiau a dyfarniadau ar waith i sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn ennill achrediad yn y meysydd lles allweddol amrywiol.  O ganlyniad, mae pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol yn eu dysgu ac yn eu datblygiad personol a chymdeithasol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.