Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a theuluoedd - Estyn

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a theuluoedd

Arfer effeithiol

Glenboi Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Glenboi ar gyrion Aberpennar yn awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.  Mae 134 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 23 o ddisgyblion sy’n elwa ar ddarpariaeth feithrin amser llawn.  Mae pedwar dosbarth prif ffrwd oedran cymysg ac uned anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, sy’n cynnig darpariaeth arbenigol sy’n cynorthwyo dysgwyr i elwa ar addysg brif ffrwd.

Mae tua 65% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18.4%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 44% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw pob un o’r disgyblion o gartrefi Saesneg eu hiaith.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabuwyd yn gyson fod gan yr ysgol amgylchedd dysgu gofalgar a meithringar lle caiff disgyblion eu cynorthwyo’n effeithiol i ffynnu’n academaidd, ac o ran eu lles.  Bu’r ffocws cryf ar ymgysylltu â rhieni yn allweddol i hyn, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar agweddau disgyblion at ddysgu, deilliannau disgyblion a’u lles.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yr hyn sydd wrth wraidd dull yr ysgol o ddatblygu cysylltiadau effeithiol â rhieni yw dealltwriaeth ar y cyd gan gymuned yr ysgol gyfan am yr effaith a gaiff partneriaethau effeithiol ar agweddau disgyblion at ddysgu, deilliannau disgyblion a’u lles.  Bu ymgysylltu â rhieni a theuluoedd yn flaenoriaeth wrth wella’r ysgol am bedair blynedd.  Bu penodi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd hynod effeithiol, sydd wedi rhoi nifer o strategaethau ar waith i hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd a helpu rhieni i gefnogi dysgu eu plant, yn rhan annatod o lwyddiant ymgysylltu â rhieni.

Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi cymryd nifer o gamau, sef:

  • Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a theuluoedd cyn i ddisgyblion ddechrau yn y dosbarth meithrin, trwy drefnu ymweliadau â’r cartref, sy’n sicrhau cyfnod pontio esmwyth i’r ysgol.  Mae’n cynnal y perthnasoedd cadarnhaol hyn ac yn cynnig cymorth cymdeithasol ac emosiynol i rieni a theuluoedd mewn angen.  Gall hefyd gyflwyno talebau banc bwyd i deuluoedd sy’n agored i niwed.
  • Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn gweithio gyda’r pennaeth dros dro i arwain Cyngor Rhieni effeithiol iawn, sy’n cyfarfod bob tymor i drafod blaenoriaethau gwella’r ysgol, cymryd rhan mewn teithiau dysgu a chraffu ar lyfrau, yn ogystal â darparu fforwm agored i drafod unrhyw faterion neu bryderon a godwyd gan rieni.  Bu hyn yn ddull llwyddiannus iawn o gyfleu gwybodaeth bwysig am flaenoriaethau’r ysgol gyda phob un o’r rhieni.
  • Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn gweithio gyda nifer o asiantaethau allanol i ddarparu ymyriadau sy’n cynorthwyo rhieni i ymgysylltu â dysgu eu plant, er enghraifft trwy FAST (Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd – Achub y Plant), Teuluoedd yn Cysylltu, Prosiect Happi, Impact Maths, Plant y Cymoedd, a Dysgu fel Teulu.  Mae hi wedi darparu cyrsiau rhianta hefyd.  Mae arweinwyr wedi gwerthuso effaith y strategaethau hyn ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion.
  • Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn monitro presenoldeb bob wythnos gyda’r pennaeth dros dro.  Mae’n cysylltu â phob un o’r teuluoedd ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, ac yn trefnu cyfarfodydd gyda rhieni i gynnig cymorth os daw presenoldeb gwael yn destun pryder.  Anfonir llyfrynnau tymhorol adref i roi gwybod i rieni am bresenoldeb unigol eu plentyn a’r gweithdrefnau y dylid eu dilyn os bydd yn absennol o’r ysgol.  Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn gweithio’n agos â’r Gwasanaeth Lles Addysg i fonitro presenoldeb a lles yr holl ddisgyblion.  Ar ddiwedd pob hanner tymor, dethlir presenoldeb 100% mewn gwasanaeth, caiff disgyblion dystysgrifau a rhoddir eu henwau mewn raffl.  Mae’r strategaethau hyn wedi sicrhau bod presenoldeb yng Nglenboi wedi bod o leiaf yn debyg i bresenoldeb ysgolion tebyg, neu’n well, am y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Caiff y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd hyfforddiant ELSA (Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol) i hyrwyddo lles emosiynol plant a phobl ifanc.  Mae hyfforddiant arall yn cynnwys dysgu am ddatblygiad plant, cynyddu gwydnwch a helpu gwella cyrhaeddiad, a hyfforddiant ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.  Mae’r rhain yn helpu darparu ymyriadau lles ar gyfer y plant hynny y nodwyd bod angen cymorth ychwanegol ar draws yr ysgol arnynt.
  • A hithau’n Ddirprwy Swyddog Diogelu, mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn cysylltu ag asiantaethau allanol fel Teuluoedd Cydnerth a gwasanaethau plant yr awdurdod lleol.  Mae’n cydlynu cyfeiriadau at asiantaethau fel y tîm lleferydd ac iaith, niwroddatblygiad a MASH (hwb diogelu amlasiantaethol).  Mae hi hefyd yn mynychu cynadleddau achos a chyfarfodydd grŵp craidd i gynorthwyo plant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae perthynas gadarnhaol iawn rhwng yr ysgol a’i theuluoedd, sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion, eu hagweddau at ddysgu a’u lles.

Mae holiaduron rhieni yn datgan bod 100% o rieni yn fodlon â’r ysgol, bod 100% o rieni o’r farn eu bod yn cael eu hysbysu’n dda am gynnydd eu plentyn, a bod 99% o rieni o’r farn fod yr ysgol yn cyfathrebu’n dda â nhw.

Mae hyder rhieni i gefnogi dysgu eu plant gartref wedi gwella.  Nodwyd bod ymgysylltu â theuluoedd yn agwedd gref ar yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda gyda rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol trwy gylchlythyrau misol, gwefan yr ysgol, a thrwy gyfryngau cymdeithasol.  Mae’n lledaenu cofnodion cyfarfodydd y corff llywodraethol, y Cyngor Rhieni a Ffrindiau Glenboi yn brydlon.  Rhennir arfer dda hefyd trwy weithio rheolaidd rhwng ysgolion o fewn y clwstwr a’r grŵp gwella ysgolion.