Meithrin partneriaethau i wella dyheadau a deilliannau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg - Estyn

Meithrin partneriaethau i wella dyheadau a deilliannau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg

Arfer effeithiol

Oldcastle Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae 437 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 58 o ddisgyblion yn nosbarth meithrin yr ysgol.  Mae disgyblion wedi eu trefnu yn 15 dosbarth. 

Mae tua 8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, a dim ond yn ddiweddar iawn y mae llawer o’r disgyblion hyn wedi ymuno â’r ysgol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 12% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. 

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf ym Mehefin 2017.  Dechreuodd y pennaeth yn y swydd ym Mawrth 2013.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg wedi dod yn rhan greiddiol o’r dysgu yn Ysgol Oldcastle.  Trwy ei hwythnos gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae’r ysgol yn gweithio gydag athrawon, partneriaid prifysgol, a busnesau lleol a chenedlaethol i’w helpu i ddod â’r testunau hyn yn fyw.  Gwneir hyn trwy weithio gyda datblygwyr cwricwlwm, creu adnoddau addysgu defnyddiol, galluogi athrawon i rannu syniadau, ac annog gwyddonwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i gymryd rhan mewn addysg uniongyrchol yn yr ysgol a thrwy waith allymestyn.

Mae Oldcastle wedi creu casgliad o adnoddau a gweithgarwch ar gyfer plant ysgol gynradd, gan anelu at eu cael i ddeall pwysigrwydd STEM yn y byd ac ymwybyddiaeth o berthnasedd gwyddoniaeth a thechnoleg i fywyd modern.  Mae hyn yn cynnwys dulliau acwaponig a chompostio, er mwyn dangos medrau a gwybodaeth yn cael eu dysgu’n uniongyrchol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn 2013, nododd yr ysgol fod proffil is gan wyddoniaeth a phynciau STEM cysylltiedig a bod perfformiad disgyblion ar y lefel ddisgwyliedig ac uwchlaw yn is na’r disgwyl.  Penderfynodd arweinwyr a staff fod angen i’r ysgol adolygu ei darpariaeth a’i dulliau os oedd am gynhyrchu technolegwyr, gwyddonwyr a mathemategwyr gwych, er mwyn sicrhau ei bod yn cynorthwyo pob dysgwr i ddatblygu cariad at y pynciau hyn. 

Trwy fanteisio ar fedrau rhieni sy’n gweithio mewn diwydiannau gwyddonol, fe wnaeth yr ysgol allu defnyddio adnoddau a chwmnïau lleol, llysgenhadon STEM ac arbenigedd athrawon o brifysgolion partner i ddatblygu wythnos STEM.  Cynlluniodd staff weithgareddau o amgylch testunau a phrosiectau a oedd eisoes o fewn y cwricwlwm, ond gyda phwyslais gwell ar welliannau neu gyfoethogiadau ychwanegol i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd ar gyfer dysgu manylach.  Cynlluniodd staff wythnos STEM i ddod â chyfleoedd ynghyd i ddisgyblion weithio gyda staff ac adnoddau o lawer o fusnesau mawr a bach a’u galluogi i gael profiad uniongyrchol mewn llawer o weithgareddau cyffrous.  Adeiladodd hyn ar ymweliadau allymestyn â gweithfeydd, ffatrïoedd a safleoedd o ddiddordeb, o fewn pellter cerdded i’r ysgol, a thu hwnt hefyd.  Defnyddiodd athrawon eu medrau a’u harbenigedd i gynllunio gweithgareddau cysylltiedig yn ystod yr wythnos fel bod llwybr dysgu cydlynus ar gyfer disgyblion. 

Wedyn, fe wnaeth yr ysgol allu trefnu ymweliadau a gweithgareddau ar y safle ar gyfer rhieni, gan gynnwys ymweliad â chanolfan cynnal awyrennau, a gweithgareddau fel codio a gwylio’r sêr.  Fe wnaeth rhoi’r lefelau hyn o brofiadau manwl yr oedd y disgyblion eisoes wedi’u profi i’r rhieni, gryfhau’r trafodaethau rhwng disgyblion a gyda’u rhieni yn yr ysgol a’r cartref fel ei gilydd. 

O ganlyniad i adborth cadarnhaol, fe wnaeth yr ysgol, gyda chymorth llysgennad STEM sy’n rhiant, allu ehangu’r ddarpariaeth, cynnwys rhagor o bartneriaid (ar ôl arfarnu blaenoriaethau eraill yr ysgol) a phrynu offer i gryfhau’r gwaith, nid yn unig yn ystod wythnos STEM ond ar gyfer meysydd dysgu eraill hefyd.  Arweiniodd hyn at greu gwaith o ansawdd uchel, gan gynnwys dyluniadau papur wal fel rhan o brosiect celf cydgysylltiedig.  Mae llysgennad STEM cysylltiedig yr ysgol wedi gweithio gydag ysgolion eraill i ehangu’r ddarpariaeth o ganlyniad.  Roedd Oldcastle yn ffodus ei bod wedi arfer arbrofi â phrosiectau a rhaglenni cyn eu bod ar gael mewn amgueddfeydd a chanolfannau addysg sy’n gysylltiedig â meysydd STEM. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol yn datgan bod disgyblion o bob oed yn fwy cadarnhaol ynghylch pynciau STEM a’u bod yn gweld y cysylltiadau cyffrous â’r gweithle, y tu hwnt i’r ysgol.  Mae adborth yn awgrymu y byddai 65% o’r disgyblion yn fwy tebygol o edrych ar yrfa sy’n seiliedig ar bwnc STEM.  Mae canlyniadau ar y lefel ddisgwyliedig a’r lefel ddisgwyliedig ac un yng nghyfnod allweddol 2 wedi gwella. 

Mesur cysylltiedig yw bod ymgysylltu â rhieni wedi gwella.  Mae nifer sylweddol o rieni (dros 60%) wedi mynychu o leiaf un o’r gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar rieni dros y ddwy wythnos STEM ddiwethaf ac maent yn gadarnhaol ynglŷn â’r effaith ar eu plant. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae staff a llysgenhadon STEM wedi rhannu eu gwaith gyda nifer o ysgolion lleol a grwpiau o athrawon.  Mae athrawon, uwch arweinwyr a staff cymorth wedi ymweld â’r ysgol i gysgodi staff, ac arsylwi gweithgareddau a strategaethau yn ymarferol.  Maent wedi arsylwi’r modd y mae’r ysgol yn datblygu ei darpariaeth, gan gynnwys cynllunio ar gyfer wythnos STEM, yn ogystal â’r trefniant lle mae partneriaid yn darparu dysgu nid yn unig ar gyfer disgyblion ond ar gyfer rhieni, ac yn gwahodd ysgolion llwyddiannus eraill i rannu eu gwaith yn y maes hwn hefyd.  Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn â phrifysgolion partner hefyd, yng Nghymru a Lloegr, a gyda gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn