Meithrin partneriaethau effeithiol i wella deilliannau dysgu a lles

Arfer effeithiol

Presteigne C.P. School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llanandras yn nhref sirol fach Llanandras, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn awdurdod lleol Powys.  Daw’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgol o’r dref ei hun a’r ardaloedd gwledig o amgylch.  Mae 168 o ddisgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed ar gofrestr yr ysgol.  Ceir saith o ddosbarthiadau, ac mae’r dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen yn rhai oedrannau cymysg.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Llanandras yn ysgol fyfyriol ag ynddi ddiwylliant o hunan-wella.  Mae’n ymdrechu i wella’r addysgu a’r dysgu, ac i roi’r cyfleoedd gorau i ddisgyblion gyflawni deilliannau cadarnhaol.  Fel ysgol gymunedol sy’n gwasanaethu tref wledig, mae wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid a’r gymuned leol; mae ganddi ystod eang o bartneriaethau sy’n cefnogi dysgu a lles disgyblion yn llwyddiannus.  Mae’r ysgol yn flaenweithgar wrth chwilio am gyfleoedd datblygu proffesiynol i staff mewn ysgolion clwstwr lleol ac mewn ysgolion ymhellach i ffwrdd lle ceir tystiolaeth o arfer ragorol.  Mae gan yr ysgol aelod dynodedig o’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu partneriaethau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae Ysgol Gynradd Llanandras wedi datblygu partneriaethau effeithiol iawn sydd wedi arwain at y disgyblion yn cyflawni safonau, deilliannau a lles da iawn.  Ceir grwpiau llais y disgybl gweithgar ac effeithiol yn yr ysgol, ac maent yn grymuso’r disgyblion ac yn eu galluogi i gyfrannu at ddatblygu’r ysgol.

Mae’r cyngor ysgol wedi ymestyn ei ddealltwriaeth o ddemocratiaeth trwy bresenoldeb dirprwy faer y dref yng nghyfarfodydd y cyngor ysgol.  Yn y cyfarfodydd, mae’r dirprwy faer yn arwain trafodaethau ynglŷn â phrosesau a phrotocolau cyfarfodydd cyngor y dref; yn sgil hyn, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o rôl swydd etholedig.  Mae hyn wedi cefnogi gweledigaeth yr ysgol o gael grwpiau llais y disgybl pwrpasol sy’n cael effaith amlwg ar ansawdd yr addysgu, y dysgu a lles y disgyblion.

Mae’r cyngor ysgol yn cynnal cyfarfodydd gyda chyngor myfyrwyr yr ysgol uwchradd leol hefyd, gan ddatblygu cyfleoedd ar y cyd felly.  Er enghraifft, mae pob un o aelodau’r cyngor ysol (y Cyfnod Sylfaen i gyfnod allweddol 4) wedi cwblhau arolygon ar y ddarpariaeth a chyfleusterau i blant a phobl ifanc yn y dref.  Fe wnaethant rannu’r wybodaeth hon gyda chyngor y dref gyda’r nod o sicrhau gwelliannau yn y dyfodol.

Mae’r cyngor ysgol yn arwain ‘teithiau dysgu’ a gweithgareddau ‘gwrando ar ddysgwyr’.  Mae staff a’r uwch dîm rheoli yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o wneud hyn i nodi blaenoriaethau i wella’r addysgu a’r dysgu.  Er enghraifft, nododd y disgyblion agweddau ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) y gallai’r ysgol eu defnyddio i gefnogi elfennau dysgu mewn gwersi.  O ganlyniad, mae athrawon bellach yn cynllunio ar gyfer defnyddio TGCh mewn ffordd fwyfwy creadigol a phwrpasol.  Fe wnaeth y teithiau dysgu nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu hefyd yn ymwneud â medrau Cymraeg disgyblion a’r defnydd o Gymraeg bob dydd.

Mae’r ysgol yn ymwneud yn weithgar â phrosiect y Gymdeithas Alzheimer, ‘Ffrindiau Dementia’.  Mae pob un o’r staff a’r llywodraethwyr wedi cael hyfforddiant ‘Ymwybyddiaeth o Ddementia’ gan hwylusydd.  Roedd hyn yn golygu gweithio trwy dasgau bob dydd ac ystyried yr heriau y mae’r rhai sy’n dioddef o ddementia yn eu hwynebu.  Mae plant yng nghyfnod allweddol 2 uwch wedi derbyn hyfforddiant, ac erbyn hyn maent yn cyfranogi mewn ystod o weithgareddau yn yr ysgol a’r gymuned sy’n datblygu cymunedau cyfeillgar i ddementia, fel pentrefi, trefi a dinasoedd lle mae mwy o bobl yn deall dementia, gan leihau ofn ac osgoi felly.  Er enghraifft, mae un prosiect wedi canolbwyntio ar y modd y mae synhwyrau, fel sain, yn gallu gweithio fel sbardun i atgofion.  Mae disgyblion a dioddefwyr wedi bod yn dysgu caneuon o’r degawdau gwahanol.  O ganlyniad, mae dealltwriaeth ragorol gan ddisgyblion yn yr ysgol ynglŷn â sut y gall eu cyfraniadau gynorthwyo lles rhai eraill yn eu cymuned leol y mae eu profiadau yn wahanol i’w rhai hwythau.

Mae’r ysgol yn cynllunio cyfleoedd i ddatblygu ymgysylltiad â theuluoedd bob tymor.  Mae’n cynnal prynhawniau agored i rieni a gofalwyr i ymweld ac i weld yr ysgol gyfan ar waith.  Mae hefyd yn gwahodd rhieni a gofalwyr i gael cinio gyda’u plant.  Caiff rhieni a gofalwyr gyfleoedd i ymweld ag ystafelloedd dosbarth eu plant a gweithio ochr yn ochr â’u plant a meithrin cysylltiadau gyda’r athrawon a staff cymorth.  Mae staff yn gwahodd aelodau teulu i ymweld ag ystafelloedd dosbarth pan fyddant yn cyflwyno agwedd benodol ar y cwricwlwm, fel Cymraeg, darllen neu TGCh.  Mae hyn yn cryfhau cysylltiadau rhwng y teulu a’r ysgol ac yn rhoi gwybodaeth i rieni am arferion, safonau a’r ddarpariaeth yn yr ystafelloedd dosbarth.

Mae rhannu arfer dda yn eitem reolaidd ar agenda cyfarfodydd staff.  Hefyd, mae’r ysgol wedi datblygu rhwydwaith cymorth cyfoedion, sy’n galluogi staff i weithio ochr yn ochr â’i gilydd i arsylwi a datblygu arfer orau.  I ymestyn hyn, mae staff yn nodi cyfleoedd sydd ar gael mewn ysgolion eraill a fydd yn datblygu agweddau ar safonau, darpariaeth a lles.  Mae hyn wedi cynnwys staff ac aelodau’r uwch dîm rheoli yn ymweld ag ysgolion ar draws yr awdurdod lleol, y consortiwm rhanbarthol a Chymru. Mae enghreifftiau’n cynnwys ymweld ac arsylwi arfer orau mewn perthynas â TGCh a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, marcio, rhoi adborth, ymateb i waith disgyblion, a datblygu rhifedd trwy ddefnyddio tasgau cyfoethog.  

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

• Mae lefel ymgysylltiad disgyblion a diddordeb disgyblion mewn dysgu yn uchel.  Dangosant agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu ac maent yn ymgysylltu’n dda mewn gwersi ac wrth ddatblygu’r ysgol gyfan.  Mae’r disgyblion yn gweithio’n gadarnhaol wrth gyfrannu at brosiectau sy’n gysylltiedig â’r gymuned.  O ganlyniad, mae presenoldeb wedi bod yn dda iawn dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae’r ysgol yn y 25% uchaf o gymharu ag ysgolion tebyg.
• Mae ymddygiad mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol yn rhagorol.  Mae’r disgyblion yn gwrtais ac yn dangos parch at oedolion a’i gilydd.  Rhoddir pwyslais mawr gan yr ysgol ar werth syniadau disgyblion a’u cyfraniadau at ddatblygu’r ysgol gyfan.  Yn sgil yr ymdeimlad o berchenogaeth a chyfrifoldeb ar y cyd, mae bron pob disgybl wedi datblygu’n fwy hunanlywodraethol a myfyriol mewn perthynas â’u dysgu a’u lles.
• Mae rhieni a gofalwyr yn datblygu mwy o ddealltwriaeth o ddysgu eu plant.  Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn hyder, medrau a chyfranogiad rhieni eu hunain.  Er enghraifft, mae 98% o rieni yn mynychu nosweithiau rhieni yn rheolaidd, ac mae dros 95% o rieni yn mynychu digwyddiadau ysgol fel yr Eisteddfod flynyddol, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a chynyrchiadau’r ysgol, yn rheolaidd.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Gynradd Llanandras wedi rhannu ei harfer gyda’r partneriaid cysylltiedig.  Mae staff yn croesawu’r cyfle i rannu’u profiadau gydag ysgolion eraill, ac yn cyfrannu at ddatblygu gweithio mewn partneriaeth.