Meithrin balchder disgyblion at y Gymraeg a dwysau gwybodaeth am hanes lleol a thraddodiadau cenedlaethol wrth ddatblygu y Cwricwlwm i Gymru

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Gwenllian


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Gwenllian yn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Daw lleiafrif y disgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae ynddi 137 o ddisgyblion ac mae gan 11.3% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gymraeg Gwenllian wedi’i lleoli yn y dref hanesyddol Cydweli ble mae nifer o atyniadau a storiâu hanesyddol yn caniatáu cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu diddordeb a chwilfrydedd disgyblion. Fodd bynnag, sylweddolodd arweinwyr nad oedd dealltwriaeth disgyblion am hanes gwerthfawr yr ardal yn ddigon datblygeidig. Er mwyn i’r ysgol gael effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth y disgyblion am hyn ac, yn y pen draw, i ddeall lle Cydweli yng Nghymru a’r byd ehangach, penderfynodd arweinwyr datblygu gweledigaeth gadarn oedd wedi ei sylfaenu ar hanes y dywysoges Gwenllian. Dechreuodd y daith drwy annog athrawon i addysgu am yr ardal, datblygu gwerthoedd oedd yn seiliedig ar y dywysoges ac yna datblygu arwyddair i’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Crëwyd gwerthoedd newydd i’r ysgol ar y cyd rhwng y disgyblion, y llywodraethwyr a’r staff a oedd yn gosod pwyslais gynyddol ar y pedwar diben a hanes y dywysoges Gwenllian. Gosodwyd pwyslais cryf hefyd ar ddathlu Cymreictod a meithrin dealltwriaeth disgyblion o gynefin cyfoethog Cydweli, er enghraifft y gath ddu, yr afonydd Gwendraeth, Hen Fenyw Fach Cydweli ac wrth gwrs y castell. Yn ogystal, rhoddwyd blaenoriaeth ar wneud defnydd o’r ardal leol ar gyfer gweithgareddau dysgu, er enghraifft wrth gynnal sioeau yn y castell yn hytrach na’r ysgol.

Oherwydd y pwyslais ar yr ardal, llwyddodd y disgyblion ail-ysgrifennu stori’r dywysoges Gwenllian trwy blethu’r hanes gyda gwerthoedd yr ysgol a rhannu hyn trwy ffilm ar gyfer y gymuned. Yn ogystal, crëwyd podlediadau am yr ardal gyda phobl leol a chyn ddisgyblion enwog. Crëwyd byrddau hanes ar gyfer ystod o oedrannau oedd yn cynnwys gemau i blant iau, megis lleoli’r gath ddu, a heriau rhifedd megis cardiau cyfrifo, ar gyfer plant hŷn. Llwyddodd y podlediadau, fideo a’r byrddau hanes greu cysylltiadau naturiol rhwng profiadau’r disgyblion a’u dysgu. Yn ogystal, crëodd hyn gyfleoedd i’r disgyblion i wreiddio eu dealltwriaeth ymhellach a datblygu eu medrau ysgrifennu creadigol a dylunio trwy greu cerddi am rannau o’r ardal ar glymau Celtaidd i arddangos yn yr ardal wrth weithio gyda phrif fardd. Roedd hyn yn cyd-fynd gyda map o’r ardal a ddyluniwyd gan y disgyblion ar gyfer ymwelwyr i’r ysgol a’r ardal. Yn ei dro, llwyddodd hyn i ddyfnhau gwybodaeth y disgyblion o’r ardal leol.

Yn ogystal, sicrhaodd arweinwyr yr ysgol bod gan y gymuned, rhieni a busnesau lleol lais yn nyluniad cwricwlwm yr ysgol trwy rannu holiaduron oedd yn ffocysu ar gyfeiriad dysgu’r disgyblion a’u medrau ar gyfer dyfodol. Bu llais y gymuned, gwerthoedd yr ysgol, a’r ethos Cymreig yn rhan allweddol o baratoi’r staff at gynllunio y Cwricwlwm i Gymru. Hefyd, er mwyn dyfnhau dealltwriaeth disgyblion o weithgareddau Cymreig ymhellach, cynlluniwyd gweithgareddau hyrwyddo Cymreictod gan gynnwys eisteddfodau, gweithgareddau bit-bocsio Cymraeg, cyngherddau, a chysylltiadau gyda sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

Trwy hyn, llwyddwyd i sicrhau sylfaen gadarn i ddwysau dealltrwriaeth disgyblion am hanes yr ardal a phwysigrwydd Cymreictod, er enghraifft wrth ddatblygu eu deallwtwriaeth o faterion rhyngwladol trwy sefydlu cysylltiadau cryf gydag ysgol yn Qhobosheaneng, Lesotho, ac ysgol yn Saint-Jacut-de-la-Mer, Ffrainc.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ymfalchïa’r ysgol yn y ffaith bod eu harolwg diweddar wedi nodi: ‘mae ei weledigaeth gadarn, sydd wedi ei sylfaenu ar hanes y dywysoges Gwenllian, wedi ei saernio’n gelfydd i feithrin balchder disgyblion at berthyn i’r ardal leol a Chymru. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi’r disgyblion i ehangu eu gorwelion a chymhwyso eu medrau mewn ystod gyfoethog o brofiadau dysgu’.

Yn ogystal, mae ymroddiad y staff a disgyblion yn y gymuned wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu ac addysgu gan ei fod yn darparu cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth am hanes a chynefin eu hunain. O ganlyniad,, mae gan ddysgwyr flachder cynhenid tuag at eu cynefin, eu hardal leol a’u treftadaeth. Maent yn aelodau gwerthfawro’u gymuned ac mae’r gymuned yn rhan anorfod o’r ysgol.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn gosod pwyslais ar ddathlu llwyddiannau’r disgyblion a’r ysgol yn ei chyfanrwydd ar ei gwefan, gwefan cymdeithasol a’r wasg yn lleol a chenedlaethol. Yn ogystal, mae’r arfer dda yn cael ei rhannu’n eang trwy ddigwyddiadau sirol a chydnabyddiaethau cenedlaethol a rhyngwladol wrth i’r ysgol gipio nifer o wobrau. Maent hefyd yn cynllunio eu gweledigaeth a chwricwlwm i ganolbwyntio ar enwogion yr ardal sy’n gosod pwyslais ar bwysigrwydd eu diwylliant, eu treftadaeth a’u Cymreictod. Er enghraifft, creodd y disgyblion fideo er mwyn egluro gweledigaeth yr ysgol sy’n seiliedig ar y dywysoges Gwenllian. Yn ogystal, crëwyd nifer o fyrddau comig, byrddau clymau Celtaidd a map mawr ar safle’r ysgol sy’n hyrwyddo hanes yr ardal yn llwyddiannus.