Medrau bywyd disgyblion yn datblygu o’u gwaith cymunedol - Estyn

Medrau bywyd disgyblion yn datblygu o’u gwaith cymunedol

Arfer effeithiol

Rydal Penrhos


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol annibynnol gydaddysgol ddydd a phreswyl ym Mae Colwyn i ddisgyblion rhwng 2½ a 18 oed yw Ysgol Rydal Penrhos.

Mae’r ysgol yn ysgol gyswllt yn yr Ymddiriedolaeth Ysgolion Annibynnol Methodistaidd, sy’n integreiddio dimensiwn rhyngwladol ym mywyd yr ysgol trwy gydweithio â disgyblion ac athrawon yn ei phrosiect dinasyddiaeth fyd-eang llwyddiannus, World Action in Methodist School (World AIMS). I ddatblygu ymdeimlad cryf o gymuned y disgyblion a’u dealltwriaeth o wasanaethu pobl eraill, o oedran cynnar iawn, mae pob disgybl yn cyfranogi’n frwd mewn rhaglen allgyrsiol a chyfoethogi helaeth sy’n cynnwys agweddau sylweddol ar wasanaeth a gwaith cymunedol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr ysgol yn ffyddlon i’w hethos ac yn paratoi disgyblion yn arbennig o dda ar gyfer bywyd a gwaith y tu allan i’r ysgol.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Yn 2012, ailstrwythurwyd arfer wythnosol yr ysgol i ganiatáu amser gwarchodedig ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi yn ystod y diwrnod ysgol ac yn rhaglen allgyrsiol yr ysgol. Cyflwynwyd trefniadau arloesol i gefnogi datblygiad personol disgyblion, gan gynnwys dealltwriaeth well o rai mewn amgylchiadau llai ffodus na nhw. Er enghraifft, mae’r gymuned ysgol-gyfan yn cefnogi ei phrosiect ei hun ar gyfer yr elusen ‘Action for Children’. Ar gyfer y prosiect hwn, mae disgyblion yn llunio ac yn trefnu ystod o weithgareddau yn yr ysgol i dreulio amser gyda gofalwyr ifanc lleol a threfnu bod cyfleusterau ac adnoddau’r ysgol ar gael iddynt, er mwyn iddynt gael seibiant ac amser hamdden. Mae’r prosiect wedi’i leoli yn un o dai preswyl yr ysgol, ac mae’r gofalwyr ifanc yn aros i gael swper gyda’r disgyblion preswyl yn ystafell fwyta’r ysgol. Caiff gweithgareddau ar raddfa fwy eu trefnu ar benwythnosau hefyd, er mwyn eu galluogi i ymuno â rhaglen benwythnosau helaeth yr ysgol. Mae disgyblion a rhieni yn yr ysgol baratoi yn codi arian i gefnogi’r prosiect ac, o ganlyniad i gyflwyniad gan ddisgyblion i gynnig ar gyfer cyllid, mae cymdeithas rieni yr ysgol wedi darparu cyllid hefyd i helpu i ariannu rhai o’r gweithgareddau sy’n cael eu mwynhau gan y gofalwyr ifanc. Mae’r prosiect hwn yn helpu disgyblion i ddeall gwerth gweithio er nod cyffredin a rhannu adnoddau i gefnogi aelodau o’r gymuned leol ehangach.

Yn ystod tymor yr haf, mae’r ysgol gyfan yn cymryd rhan mewn ‘Diwrnod Gweithredu Cymunedol’. Mae hyn yn cynnwys grwpiau o ddisgyblion, dan arweiniad staff a disgyblion y chweched dosbarth, yn cymryd rhan mewn prosiectau garddio ac adfer mewn parciau a mynwentydd lleol. Trwy gydol y flwyddyn, mae disgyblion hŷn hefyd yn cymryd rhan yn nhrefniadaeth partneriaeth yr ysgol gyda ‘Contact the Elderly’, sy’n cynnwys darparu partïon te yn y prynhawn i bobl 75 oed neu’n hŷn, sy’n aml yn byw ar eu pennau eu hunain, heb unrhyw deulu na ffrindiau gerllaw. Caiff y partïon te eu cynnal ar brynhawniau Sul unwaith y mis trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r disgyblion sy’n gwirfoddoli i helpu ymrwymo i gymryd rhan yn ystod gwyliau’r ysgol, yn ogystal ag yn ystod tymor yr ysgol. Er gwaethaf y rhwystr posibl hwn, caiff y partïon te eu cefnogi’n dda iawn gan ddisgyblion, ac maent bellach wedi’u hen sefydlu yn rhaglen gyfoethogi’r ysgol.

Er mwyn helpu disgyblion i fod â dealltwriaeth gryfach o’u rôl fyd-eang, mae disgyblion hŷn yn cymryd rhan ym mhrosiect Wganda World AIMS. Mae hyn yn cynnwys grŵp o ddisgyblion yn treulio amser yn ymchwilio i brosiectau cymorth a datblygu lleol y gallant gymryd rhan ynddynt pan fyddant yn ymweld ag ysgolion partner yn Wganda, yn cynllunio’r deithlen ar gyfer yn ymweliad ac yn trefnu a chynnal gweithgareddau i godi arian er mwyn mantoli’r gost o gymryd rhan. Caiff yr ymweliad ag Wganda ei gynnal yn ystod gwyliau’r haf, ac mae’n cynnwys ystod eang o weithgareddau yn gweithio ar y cyd â’r ysgolion partner yn Mbarara ac ag elusen RUHEPAI, sy’n arbenigo mewn datblygu gwledig. Er mwyn helpu i ddatblygu mwy o annibyniaeth ac ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb, mae disgyblion yn cynnal eu sesiynau cynllunio eu hunain, gyda chefnogaeth staff yr ysgol a chydlynydd World AIMS.

Mae rhaglen gyfoethogi’r ysgol, ynghyd â rhaglen allgyrsiol helaeth, yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad personol a chymdeithasol disgyblion.

Er enghraifft, trwy’r rhaglen gyfoethogi, mae disgyblion iau yn cymryd rhan mewn rota o weithgareddau dan gyfarwyddyd, fel STEM, cyflwyniad i Ladin, gwyddbwyll, medrau ymarferol a biodaearyddiaeth. Wrth iddynt symud i fyny’r ysgol, gall disgyblion ddewis cymryd rhan mewn ystod ehangach o weithgareddau creadigol, corfforol a deallusol sy’n cynnwys, er enghraifft, grŵp Amnest Rhyngwladol a chynllun mentora cyfoedion.

Mae tua hanner disgyblion y chweched dosbarth yn dewis astudio ar gyfer Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol ac mae tua hanner ohonynt yn dilyn cyrsiau Safon Uwch. Er bod gofyniad craidd i gyflawni ‘gweithredu a gwasanaeth creadigol’ fel rhan o raglen Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol, er mwyn darparu cyfleoedd i bob un o ddisgyblion y chweched dosbarth dyfu’n bersonol, bob tymor maent yn dewis o leiaf tri gweithgaredd o raglen gyfoethogi ac allgyrsiol gyfunol yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwasanaeth cymunedol ychwanegol, celfyddydau creadigol ac ystod o glybiau, gweithgareddau chwaraeon a gornestau chwaraeon. O ganlyniad, mae gan ddisgyblion hŷn fwy o ymwybyddiaeth o’u hunain a’u rôl fel aelodau cyfrifol o’r ysgol a’r gymuned ehangach.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae cyfranogiad disgyblion yn y rhaglen gyfoethogi, ac yn enwedig y gweithgarwch gwasanaeth cymunedol ac elusennol, yn uchel iawn. Mae’r rhaglen wedi helpu disgyblion i:

  • fod ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol gwahanol yn yr ysgol a’r gymuned ehangach, sy’n eu helpu i barchu a gwerthfawrogi amrywiaeth;develop a greater sense of responsibility and well-developed understanding of service to others;
  • datblygu mwy o ymdeimlad o gyfrifoldeb a dealltwriaeth ddatblygedig o wasanaethu pobl eraill;
  • cynyddu eu hyder a’u gwytnwch trwy gymryd rhan mewn prosiectau sy’n eu herio ac sy’n mynnu ymrwymiad emosiynol a chorfforol; a
  • datblygu eu medrau trefnu, gweithio fel tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu trwy gydweithio â phobl ifanc ac oedolion o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol mewn ystod o gyd-destunau.