Medrau ar gyfer dysgwyr hŷn: effaith dysgu oedolion yn y gymuned ar les dysgwyr hŷn – Ionawr 2012
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- fonitro gweithredu’r polisi cyflenwi dysgu cymunedol i wella cydweithio ar drawsyr adrannau, cyfarwyddiaethau a’r canghennau sy’n gyfrifol am bobl hŷn; a
- chasglu data ynghylch cyfleoedd dysgu yn y Monitor Pobl Hŷn, fel ei fod yn monitro lles trwy ddysgu yn ogystal â chael gwaith.
Dylai’r Adran Addysgu a Sgiliau:
- gydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gronni pob cyllideb sydd â’r nod o gefnogi dysgu gydol oes a lles pobl hŷn;
- cytuno ar ddangosyddion perfformiad neu fesurau deilliant i bartneriaethau DOG fonitro eu gwaith gyda phobl hŷn a’u cynorthwyo i fyw’n annibynnol; ac
- annog a chynorthwyo partneriaethau DOG i gynorthwyo pobl hŷn i drefnu a rheoli eu dysgu eu hunain.
Dylai partneriaethau DOG:
- gynyddu hyblygrwydd mewn dulliau cyflwyno, yn newisiadau’r cwricwlwm, hyd sesiynau a’r dulliau asesu ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 70 oed.
Dylai awdurdodau lleol:
- sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn gwella eu defnydd o arbenigedd partneriaethau DOG mewn cyflwyn.