Materion Ariannol: darpariaeth addysg ariannol i bobl ifanc rhwng 7 ac 19 mlwydd oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru – Mehefin 2011
Adroddiad thematig
Caiff bron pob disgybl gyfleoedd yn yr ysgol i ddysgu sut i reoli eu cyllid, a datblygu eu medrau.Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn addysgu disgyblion am gyllid mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Fodd bynnag, nid yw’r gwersi hyn yn ddigonol ar eu pen eu hunain i wneud yn siwr bod gan ddysgwyr y medrau i wneud penderfyniadau ariannol cadarn pan fyddant yn hÅ·n. Yn ychwanegol, mae diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer addysg ariannol.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- gynllunio rhaglen gydlynus a dilyniadol o weithgareddau addysg ariannol ar draws y cwricwlwm; a
- monitro ac arfarnu cynnydd dysgwyr mewn datblygu a chymhwyso eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth ariannol.
Dylai awdurdodau lleol:
- weithio gydag Uned Addysg Ariannol Cymru a sefydliadau ariannol i ddarparu cymorth addysg ariannol gwell ar gyfer ysgolion; ac
- annog ysgolion i rannu arfer orau.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddatblygu cronfa ddata ranbarthol o sefydliadau a all gefnogi a rhannu arfer dda gydag ysgolion ac awdurdodau lleol; a
- pharhau i gefnogi datblygiad adnoddau addysg ariannol Cymraeg.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.