Manteisio i’r eithaf ar ddiddordebau plant i annog chwilfrydedd a mwynhad plant yn eu dysgu - Estyn

Manteisio i’r eithaf ar ddiddordebau plant i annog chwilfrydedd a mwynhad plant yn eu dysgu

Arfer effeithiol

Cylch Meithrin Nant Dyrys / Ynyswen

Roedd pedwar o blant wedi gwisgo fel athrawon oedrannus yn sefyll mewn ystafell ddosbarth, gydag un yn sefyll ac yn codi llaw yn frwdfrydig gan fwrdd sialc a'r lleill yn eistedd wrth ddesg gyda llyfrau a phropiau addysgol.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Yn Nant Dyrys, mae’r lleoliad wedi dod yn angerddol dros gynllunio yn y fan a’r lle. Mae’r ymdeimlad o fwynhad, brwdfrydedd ac archwilio ymhlith plant ac ymarferwyr wedi dod yn rhan o’r drefn ddyddiol, gan fod y lleoliad yn aml yn ferw o gyfleoedd dysgu gwych yn llawn parchedig ofn a rhyfeddod. Mae’r tîm cyfan yn rhannu’r weledigaeth ar gyfer datblygu cyfleoedd ystyrlon i ymateb i ddiddordebau a chyfareddion plant. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r lleoliad yn ceisio manteisio ar ddiddordebau plant ar y pryd / yn y fan a’r lle i annog mwy o chwilfrydedd a mwynhad yn eu dysgu. Yn 2021, roedd ymarferwyr yn ffodus i gymryd rhan yn y cynllun peilot i ddatblygu a hyrwyddo Cwricwlwm i Gymru. Y flwyddyn ganlynol, cafodd y lleoliad ei gydnabod am ei gyfraniad a’i ymrwymiad o ran rhoi’r cwricwlwm ar waith yn llwyddiannus, gan gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Amgylcheddau sy’n galluogi

Yn syml, ni ellir cynllunio gweithgaredd yn y fan a’r lle ymlaen llaw, ond mae angen amgylchedd sy’n galluogi, gydag ymarferwyr sy’n gallu annog chwilfrydedd plant yn effeithiol ac yn gallu addasu’n effeithiol i anghenion plant wrth i gyffro’r dysgu ddod i’r amlwg.

Gellir rhannu cynllunio yn y fan a’r lle yn dri chategori syml.

1. Yn gyntaf, chwilfrydedd y plentyn neu’r hyn sy’n tanio’r diddordeb.

Ar yr adeg hon, mae ymarferwyr yn arsylwi plant yn agored er mwyn gallu myfyrio ac ymateb i anghenion unigol pob plentyn o fewn y lleoliad.

2.Dilynir hyn gan ryngweithio ymatebol a greddfol gan ymarferwyr sydd ag adnoddau da.

Caiff ymarferwyr eu hannog i ddilyn arweiniad y plentyn a modelu ymagwedd lawen at ddysgu. Maent yn cefnogi ac yn gwella chwilfrydedd naturiol y plentyn ac yn ymestyn dysgu trwy archwilio a chwarae.

3.Yn olaf, tystiolaeth ysgrifenedig.

Cynhelir deialog broffesiynol reolaidd ymhlith yr holl ymarferwyr. Wedyn, caiff arsylwadau eu casglu, eu trafod a’u dogfennu, gan amlygu ‘eiliadau addysgadwy’ a deilliannau. Wedyn, maent yn myfyrio ar y dysgu ac yn nodi heriau unigol plant a’r camau nesaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae manteision dilyn arweiniad y plentyn, ac nid eu cyfyngu i agendâu oedolion, yn galluogi plant i ymchwilio’u chwilfrydedd cynhenid. Mae archwilio trwy chwarae yn hanfodol i ddatblygiad ac yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer deilliannau cadarnhaol.

Enghraifft dda o wahoddiad i chwarae oedd pan aeth un o’r ymarferwyr i mewn i’r lleoliad yn gwisgo wig. Chwarddodd y plant a mwynhau’r olygfa, a gweiddi ‘rwyt ti wedi torri dy wallt.’

Digwyddodd chwarae rôl yn reddfol gydag oedolyn sy’n galluogi yn modelu sut i wisgo i fyny gan ddefnyddio propiau am noson yn y bingo.

Cyflwynwyd cerddoriaeth i dôn ‘The Osmonds: ‘Puppy love’. Taniodd hyn chwilfrydedd llawer o blant eraill yn yr ystafell a ymunodd yn y chwarae wedyn trwy rolio’u gwallt mewn cyrlwyr, gan ychwanegu chwistrelliad o bersawr tra’n gwisgo dillad fintej a wigiau. Trwy gydol y cyfnod hwn o chwarae, llwyddwyd i wella lles plant yn amlwg, gyda rhai plant yn defnyddio’u profiadau o gartref trwy ddynwared eu mamau / neiniau eu hunain. Daeth y plant yn hyderus i wisgo i fyny a phrofi bywyd yn y gorffennol gyda’i gilydd.

Mae ymarferwyr yn credu bod adegau fel hyn yn cwmpasu ethos yr elfennau sy’n galluogi yn y llwybrau i’w bodloni.

Datblygodd y lleoliad ddogfen ddefnyddiol i helpu cofnodi ethos Cwricwlwm i Gymru, gan amlygu pethau fel maent yn digwydd a dathlu cyflawniadau plant. Mae hyn yn ei alluogi i amlygu diddordebau a phrofiadau tra’n cofnodi cyfleoedd dysgu pwrpasol sy’n digwydd yn ystod chwarae ac archwilio.

Mae ymarferwyr o’r farn fod yr ymagwedd hon at addysg yn cipio barn gyfannol y plentyn. Mae hefyd yn cael gwared ar y pwysau a achosir gan arddull addysgu fwy confensiynol, a oedd yn aml yn cael ei harwain gan oedolyn. Mae ymarferwyr bellach yn treulio amser o ansawdd da gan fynd ati i ymgymryd â rhyngweithio cyfoethog ac ystyrlon sy’n darparu gwybodaeth am bersonoliaethau a galluoedd unigol plant. Mae hefyd yn galluogi ymarferwyr i gofio profiadau yn fanwl a’u dogfennu’n effeithiol heb bwysau gwaith papur.