Mae’r adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd addysgol ysgolion bach, canolig a mawr ar sail canfyddiadau arolygiadau o’r cylch cyfredol o arolygiadau (2010-2013) ac ar ganlyniadau arholiadau ac asesiadau. Mae’n edrych ar ddeilliannau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ysgolion o feintiau gwahanol ac yn canolbwyntio ar ddangosyddion ansawdd arolygiadau yn ymwneud â safonau, lles, profiadau dysgu, addysgu, arweinyddiaeth a gwella ansawdd.
Gall sawl ffactor ddylanwadu ar berfformiad ysgol, yn ogystal â’i maint. Mae amddifadedd yn un ffactor pwysig sy’n gallu effeithio ar berfformiad ysgol ac rydym yn ystyried ei effaith yn yr adroddiad hwn.
Bwriedir i’r adroddiad fod yn bapur trafod ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phenaethiaid a staff mewn ysgolion.