Mae’r byd i gyd o’u blaenau - Estyn

Mae’r byd i gyd o’u blaenau

Arfer effeithiol

ISA Training


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Sefydlwyd ISA Training (ISA) ym 1998 yn ddarparwr dysgu yn y gwaith preifat, sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru. Mae ISA yn cyflwyno rhaglenni dysgu yn y gwaith ledled Cymru a De Orllewin Lloegr, yn y sector gwallt a harddwch yn bennaf. Yng Nghymru, ariennir rhaglenni gan Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru.

Mae rhaglenni yn cynnwys Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau, a Dysgu Hyblyg a Ariennir. Mae ISA yn cyflwyno hyfforddeiaethau mewn gwallt a harddwch ar ran ITEC hefyd, yn ogystal â rhaglenni ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed mewn ysgolion yng Nghymru. Yn ychwanegol i raglenni dysgu yn y gwaith, mae ISA yn cyflwyno ystod o gyrsiau masnachol i’r sector gwallt a harddwch hefyd.

Gweledigaeth y cwmni yw ‘bod yn gwmni o bobl ymroddgar sy’n cyflwyno dysgu o’r radd flaenaf i bawb’. Mae Strategaeth Oyster ISA yn dangos ymdrech y cwmni i sicrhau bod y genhadaeth hon yn cael ei phortreadu’n barhaus.

Pan luniwyd hi yn 2009, dechreuwyd Strategaeth Oyster i wella ystod ac ansawdd y profiadau dysgu a gwella cyfleoedd ar gyfer dysgwyr prentisiaeth. Nod y strategaeth oedd rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymestyn eu dyheadau gyrfa a chael profiad perthnasol mewn is-ddiwydiannau’r sector gwallt a harddwch.

Pan gyflwynwyd y strategaeth, dangosodd tueddiadau ymhlith prentisiaethau lefel uwch fod gostyngiad yn niferoedd y dysgwyr ar raglenni lefel 3 ac yn niferoedd y dysgwyr sy’n cwblhau rhaglen lefel 3 yn llwyddiannus. Roedd dadansoddiad o adborth dysgwr a chyflogwr, a gasglwyd fel rhan o adolygiad mewnol ac ymchwil y farchnad i’r rhesymau am y duedd hon, yn dangos bod y bwlch rhwng y medrau sydd eu hangen ar gyfer rhaglenni lefel 2 a lefel 3 wedi cynyddu. O ganlyniad, nid oedd gan lawer o ddysgwyr yr hyder a’r gallu technegol i wneud cynnydd esmwyth i raglen lefel uwch.

I bontio’r bwlch rhwng rhaglenni lefel 2 a lefel 3, estynnodd ISA ei Strategaeth Oyster i ymgorffori datblygiad medrau. Roedd y dull hwn wedi’i fwriadu er budd dysgwyr, cyflogwyr, y sector trin gwallt a’r economi trwy ddatblygu rhaglen bwrpasol ar gyfer blwyddyn i ffwrdd i gynorthwyo’r pontio o raglenni lefel 2 i lefel 3.

I greu rhaglen oedd yn cynnwys cydbwysedd addas, cynlluniwyd blwyddyn i ffwrdd ISA nid yn unig i wella medrau technegol dysgwyr ond hefyd i baratoi dysgwyr yn fwy effeithiol ar gyfer natur newidiol eu rôl yn y gweithle trwy ddatblygu eu cyflogadwyedd, eu hyder a’u medrau cymdeithasol.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Cyflwynwyd Strategaeth Oyster yn wreiddiol i hwyluso ac annog dilyniant yn nysgu pobl ifanc a’u hysbrydoli i sylweddoli bod y ‘byd i gyd o’u blaenau’ (‘the world is their oyster’). Fe’i cynlluniwyd hefyd i roi cyfleoedd addas i ddysgwyr gael profiadau y tu allan i brofiadau arferol y diwydiant trin gwallt a harddwch cyffredinol o ddydd i ddydd. Agwedd arall ar y strategaeth oedd gwella ac ehangu dyheadau dysgwyr a’u hannog i ddod â syniadau newydd i’w gweithle.

Mae’r strategaeth yn cynnwys tair elfen, sef:

  • profiadau, fel cymryd rhan mewn gweithdai technegol uwch a sesiynau tynnu lluniau;
  • teithiau cyfnewid, rhwng Cymru a Lloegr i ddechrau, ac yn ehangach ledled Ewrop erbyn hyn; a
  • rhaglen bwrpasol ar gyfer blwyddyn i ffwrdd sy’n pontio’r bwlch rhwng prentisiaethau lefel 2 a lefel 3.

Mae Strategaeth Oyster yn parhau i ddatblygu, ac mae pob un o’r tair elfen wedi bod yn gwbl weithredol er 2012. Mae dysgwyr wedi cael cyfleoedd i ymweld â salonau eraill sydd â dimensiynau gwahanol i’w cyflogwyr eu hunain i annog trinwyr gwallt i rannu arfer orau. Nod y strategaeth felly oedd ceisio rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ehangu eu profiadau a datblygu a chymhwyso eu medrau mewn lleoliad y tu allan i’r amgylchedd trin gwallt traddodiadol. Roedd y profiadau a ddarperir yng ngham 1 yn ymgorffori nifer o fentrau i ddatblygu hyder a medrau cymdeithasol dysgwyr, er enghraifft trwy brofiadau fel diwrnodau rhagflas yn y diwydiannau gwallt a cholur teledu, gwaith cystadleuaeth, sesiynau tynnu lluniau ac arfer addysgol.

Ar gyfer y teithiau cyfnewid, ein gweledigaeth oedd creu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau lleoliad gwaith mewn gwahanol leoliadau yn y DU ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. I ddechrau, bu dysgwyr yn cyfnewid rhwng salonau yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ym Mai 2013, bydd grŵp o 10 o ddysgwyr prentisiaeth yn rhan o ymweliad symudedd/profiad gwaith â Sbaen, a ariennir gan brosiect symudedd Leonardo. I ddatblygu’r strategaeth ymhellach a pharhau i wella cwmpas y rhaglen gyfnewid, mae cynnig i gymryd rhan mewn taith gyfnewid â Cyprus yn 2014 yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Yn y dyfodol, ein nod yw darparu ystod gynyddol o brofiadau cyfnewid ledled yr Undeb Ewropeaidd ac yn fyd-eang.

Mae’r rhaglen blwyddyn i ffwrdd yn rhaglen bwrpasol sydd wedi bod yn weithredol am flwyddyn. Mae’r rhaglen yn ymgorffori’r canlynol:

  • medrau cyfathrebu dysgwyr;
  • medrau technegol uwch dysgwyr;
  • deallusrwydd emosiynol dysgwyr;
  • medrau cyflogadwyedd dysgwyr;
  • medrau gwrando dysgwyr; a
  • medrau sylfaenol dysgwyr.

Mae’r cyfuniad hwn o fedrau technegol a chymdeithasol yn ychwanegu at y profiadau eraill hynny sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu hunanhyder a chymhwysedd dysgwyr yn eu dewis proffesiwn. Er bod y strategaeth hon yn cyfrannu’n sylweddol at fusnesau yng Nghymru a’r economi leol a chenedlaethol, mae’r rhaglen blwyddyn i ffwrdd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng y gwahanol lefelau o brentisiaeth ac yn darparu pecyn sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu ystod eang o fedrau. Mae’r profiadau a’r medrau hyn yn helpu’r dysgwr i ddatblygu fel unigolyn ac aelod o dîm, i ymgysylltu â’i ddysgu, a chaffael yr aeddfedrwydd angenrheidiol i gwblhau prentisiaeth uwch yn llwyddiannus.

Mae’r flwyddyn i ffwrdd wrthi’n cael ei datblygu ymhellach ar hyn o bryd ar y cyd â’r sefydliad dyfarnu, sef yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hyfforddiant Galwedigaethol (VTCT). Y bwriad yw creu rhaglen wedi’i theilwra, y gellir ei chynnig ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh), i efelychu’r rhaglen ar gyfer y sector trin gwallt a’r rhwydwaith dysgu yn y gwaith.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Ers dechrau Strategaeth Oyster, cynhaliwyd dros 30 o brofiadau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel gweithdai creu wigiau a gwallt i fyny, yn ogystal â phrofiad gwaith yn y BBC yn gweithio ar set ac oddi ar set ar gyfer cynhyrchiad cerddorol.

O’r 26 o ddysgwyr a gofrestrodd ar y rhaglen blwyddyn i ffwrdd, mae 81% wedi cwblhau pob rhan yn llwyddiannus. O’r rhai sydd wedi cwblhau’r rhaglen, mae 62% wedi mynd ymlaen i astudiaethau eraill sy’n gysylltiedig â gwallt a harddwch. Mae tri deg un y cant o’r dysgwyr hyn wedi dechrau prentisiaethau uwch, tra bod 23% wedi dechrau prentisiaethau gwaith barbwr, ac mae 8% wedi mynd i rolau rheoli neu wedi cael rolau uwch yn eu gweithleoedd.

Dysgwyr blwyddyn i ffwrdd oedd nifer o’r dysgwyr a aeth ar y lleoliad gwaith yn Sbaen. Byddwn yn monitro ac yn adrodd ar eu cynnydd dros y 3 blynedd nesaf i’n helpu i asesu effaith y fenter.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn