Mae ymsefydlu a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel yn helpu staff i ddeall anghenion plant
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae arweinydd Cylch Meithrin Llanhari yn manteisio i’r eithaf ar gymorth a goruchwyliaeth gan reolwyr Camau Cyntaf i gyflawni safonau uchel o ddarpariaeth. Mae Camau Cyntaf yn cydweithio â deg o leoliadau gofal plant eraill yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi datblygu gweithdrefnau arloesol a hynod effeithiol i gefnogi ymsefydlu a datblygiad proffesiynol staff. Mae arweinwyr ac ymarferwyr yng Nghylch Meithrin Llanhari yn cymhwyso’r gweithdrefnau hyn yn arbennig o dda, ac mae hyn wedi arwain at safonau lles rhagorol a sefydlu amgylchedd a darpariaeth o ansawdd da iawn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Pan fydd ymarferwyr newydd yn dechrau yng Nghylch Meithrin Llanhari, maent yn cwblhau ‘Pasbort i Ragoriaeth’. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth glir i’r arweinydd o’r hyn y mae ymarferwyr yn ei wybod ac yn ei ddeall eisoes, a’r hyn y mae angen iddynt ei ddysgu i fod yn ymarferwyr effeithiol yn y lleoliad. Mae pob ymarferydd yn defnyddio’r ‘Pasbort i Ragoriaeth’ i gofnodi anghenion hyfforddiant a datblygiad proffesiynol a’r cynnydd a wnânt. Maent yn cyfarfod â’r arweinydd bob hanner tymor i adolygu eu cynnydd yn erbyn y targedau yn y pasbort. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn datblygu eu cymhwysedd proffesiynol a’u dealltwriaeth yn hynod effeithiol.
Mae ymarferwyr sy’n newydd i’r lleoliad yn dechrau ‘gweithio tuag at y lefel Efydd’. Mae hyn yn cynnwys yr holl hyfforddiant gorfodol sydd ei angen ar ymarferwyr i adeiladu ymwybyddiaeth o safonau da mewn gofal a datblygiad y blynyddoedd cynnar. Wedi iddynt gwblhau’r lefel hon, maent yn symud tuag at y pasbort Efydd. I gyflawni’r lefel Efydd, yn ogystal â gwybod am broses a gweithdrefnau, mae angen i ymarferwyr ddangos eu bod yn eu defnyddio’n effeithiol. Mae arweinydd y lleoliad yn arsylwi ymarferwyr yn rheolaidd ac yn rhoi adborth adeiladol i’w cynorthwyo i gyflawni eu nodau. Caiff rhan berthnasol y pasbort ei llenwi pan fydd yr arweinydd a’r ymarferydd yn fodlon bod yr ymarferydd yn gwbl gymwys yn y maes hwnnw o ymarfer neu ddarpariaeth. Ceir cyfleoedd gwerthfawr i ymarferwyr drafod eu cynnydd, codi unrhyw bryderon ac amlygu targedau newydd ar gyfer gwella drwy’r cyfarfodydd goruchwylio bob chwe wythnos a’r arfarniadau blynyddol sefydledig. Mae hyn yn golygu bod arweinydd y lleoliad a’r ymarferwyr yn cydweithio â’i gilydd yn hynod effeithiol i ddatrys problemau a sefydlu arfer dda, gan adeiladu ymdeimlad cryf o les o fewn y tîm.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau plant?
Mae’r ymsefydlu a’r datblygiad proffesiynol hwn o ansawdd uchel yn golygu bod gan bob ymarferydd ddealltwriaeth drylwyr o ddatblygiad plant, eu rolau a’u cyfrifoldebau, a pholisïau a gweithdrefnau’r lleoliad. Maent yn ymwybodol o anghenion y plant yn y lleoliad ac yn eu deall yn arbennig o dda. O ganlyniad, mae lles plant yn rhagorol, a gofelir amdanynt mewn amgylchedd diogel dros ben sy’n cael ei reoli’n arbennig o dda. Mae arweinydd y lleoliad yn ymwybodol iawn o gryfderau’r ymarferwyr a’u meysydd i’w datblygu. Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r datblygiad proffesiynol a gânt, ac mae hyn yn bodloni eu hanghenion yn hynod effeithiol. Er enghraifft, mae ymarferwyr sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn cael cymorth gweithredol sy’n gwella eu hyder a’u perfformiad yn gyflym ac, o ganlyniad, mae datblygiad Cymraeg plant yn gwella. Mae ymarferwyr yn datblygu eu harbenigedd yn gynyddol dda ar draws pob agwedd ar waith y lleoliad, ac mae ganddynt lefel uchel o les.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae Camau Cyntaf yn rhannu’r pasbort a gweithdrefnau asesu mewnol ar draws pob lleoliad yn y sefydliad ac â Phartneriaeth Adfywio’r Meysydd Glo.